Ewch i’r prif gynnwys

Angen diwygio’r sector gofal ar gyfer pobol hŷn a’i ariannu’n well yn ôl adroddiad

13 Awst 2020

Older person

Heb ddiwygiadau sylweddol, mae’r sector gofal cymdeithasol yng Nghymru mewn peryg o barhau yn system ddarniog yn seiliedig ar gyflogau isel yn ôl adroddiad newydd gan Ganolfan Llywodraethiant Cymru, Prifysgol Caerdydd.

Mae ymchwilwyr y ganolfan wedi darlunio sector hanfodol bwysig sy’n brin o adnoddau digonol ac sy'n dibynnu ar lafur di-dâl cyfeillion a pherthnasau.

Mae’r adroddiad gan Dadansoddi Cyllid Cymru yn nodi pedwar mater allweddol y bydd yn rhaid i bolisïau’r dyfodol yng Nghymru fynd i’r afael â nhw; sef lefel yr adnoddau y mae eu hangen i ddarparu gwasanaethau gofal effeithiol, natur ddarniog y ddarpariaeth ar hyn o bryd, cyflogau isel a throsiant staff uchel, a'r anhawster o ran rhagamcanu a chwrdd â’r galw yn y dyfodol.

Yn ôl dadansoddiad yr awduron, gofal anffurfiol drwy gyfeillion a pherthnasau sy’n cyfrif am y rhan helaethaf o’r ddarpariaeth gofal i oedolion. Mae’r adroddiad yn amcangyfrif y byddai talu am y gofal hwn (ar sail pris y farchnad) yn £8 biliwn, swm sy’n cyfateb i gyllideb flynyddol GIG Cymru.

Mae’r ddarpariaeth gofal ffurfiol yn ddarniog iawn, yn enwedig o ran gofal preswyl, gyda dros 1,000 o ddarparwyr yn gweithredu ledled Cymru. Dim ond 9% o lefydd mewn cartrefi gofal sy'n cael eu rhedeg gan awdurdodau lleol, ac mae tri awdurdod lleol (Tor-faen, Powys a Chaerdydd) yn gwbl ddibynnol ar y sector preifat am eu darpariaeth o gartrefi gofal.

Mae'r adroddiad hefyd yn datgelu pa mor gyffredin yw cyflogau isel yn y sector. Mae llai na hanner y gweithlu gofal personol yng Nghymru yn derbyn Cyflog Byw Gwirioneddol, ac mae gweithwyr wedi wynebu degawd heb unrhyw welliant cymharol yn eu cyflogau.

Wrth i lunwyr polisi gyfeirio eu golygon at dymor nesaf Senedd Cymru, mae disgwyl i waith ymchwil sydd ar y gweill daflu rhagor o oleuni ar oblygiadau cyllidol unrhyw symudiad tuag at ofal cymdeithasol personol am ddim.

Dywedodd Cian Siôn, un o awduron yr adroddiad:

"Does dim llawer o feysydd sydd wedi cael eu taro mor galed gan Covid-19 â gofal cymdeithasol. Mae'r pandemig nid yn unig wedi tynnu sylw at bwysigrwydd y sector, ond mae hefyd wedi amlygu ei wendidau.

"Ychydig iawn o gynnydd a welwyd yn lefelau’r adnoddau cyhoeddus a ddyrannwyd i’r sector mewn mwy na degawd, ac mae lle i amau a all y strwythur ffioedd presennol ddenu buddsoddiad newydd i ddarpariaeth sydd, gan fwyaf, yn breifat. Rhaid i unrhyw gynlluniau ar gyfer diwygio’r sector ystyried ai'r economi gymysg bresennol yw'r ffordd ymlaen.”

"Rhaid iddyn nhw hefyd fynd i'r afael â chyflogau isel y sector. Gyda 4 ymhob 5 o weithwyr gofal preswyl yn fenywod, rydym yn gwybod bod y trefniadau cyflog presennol yn cael effaith anghyfartal. Ar ben hynny, wrth edrych ar dâl cymharol gweithwyr gofal mewn gwledydd datblygedig eraill, mae’n ymddangos fod y duedd at gyflogau isel yn y DU yn tynnu’n groes i’r patrwm.”

"Mae'n anorfod y bydd yn rhaid i Gymru wario mwy ar ofal cymdeithasol dros y degawd nesaf. Yng ngoleuni hynny, mae'n hen bryd cael trafodaeth genedlaethol am natur y  ddarpariaeth gofal ar gyfer y dyfodol, a phwy ddylai dalu amdani."

Rhannu’r stori hon