Ewch i’r prif gynnwys

Academyddion Prifysgol Caerdydd yn helpu i roi canllawiau i deuluoedd sy’n gwneud cais am leoedd mewn ysgolion

13 Hydref 2020

Stock image of mother and child

Mae academyddion o Ysgol Ieithoedd Modern Prifysgol Caerdydd wedi helpu i gyfieithu canllaw newydd i deuluoedd sy'n gwneud cais am leoedd mewn ysgolion.

Mae tîm Derbyn i Ysgolion Cyngor Caerdydd wedi paratoi saith awgrym ar sut mae'r broses dderbyn yn gweithio, pwysigrwydd defnyddio'r holl ddewisiadau sydd ar gael iddynt, a pham y dylent wneud cais yn brydlon.

Mae academyddion y Brifysgol wedi trosleisio’r ffilmiau animeiddiedig cysylltiedig, gan olygu bod y wybodaeth yn hygyrch i gynifer o bobl â phosibl. Mae’r ieithoedd yn cynnwys Arabeg, Tsieceg, Rwmania, Portiwgaleg, Pwyleg, Somali a Bengali.

Meddai Dr Elizabeth Wren-Owens: "Mae'r Ysgol Ieithoedd Modern yn falch iawn o gefnogi'r fenter ragorol hon. Mae'n bwysig dathlu ein hamrywiaeth ieithyddol a diwylliannol. Pleser o’r mwyaf yw cael y cyfle i gefnogi ysgolion cynradd ac uwchradd i feithrin cynwysoldeb o'r fath."

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Addysg, Cyflogaeth a Sgiliau, y Cynghorydd Sarah Merry: "Gall gwneud cais am le mewn ysgol fod yn amser nerfus dros ben, yn enwedig os nad yw teuluoedd yn gwbl ymwybodol o sut mae'r broses ymgeisio'n gweithio neu bod cwblhau'r cais yn anghywir yn gallu effeithio ar eu gobeithion o gael lle yn yr ysgol o’u dewis.

"Nod yr ymgyrch hon yw gwneud y broses ymgeisio mor syml a thryloyw â phosibl, fel bod gan bob teulu yng Nghaerdydd y wybodaeth, y gefnogaeth a'r ddealltwriaeth i wneud yn siŵr nad ydynt o dan anfantais wrth wneud cais am le mewn ysgol."

Mae hefyd yn cynnwys gwybodaeth am sut i apelio os na chynigir yr ysgol o’ch dewis i chi.

I gael rhagor o wybodaeth, ewch i: https://www.cardiff.gov.uk/CYM/preswylydd/Ysgolion-a-dysgu/Ysgolion/Gwneud-cais-am-le-mewn-ysgol/awgrymiadau-derbyn-i-ysgolion/Pages/default.aspx

Rhannu’r stori hon

Yr Ysgol yw un o’r canolfannau ieithoedd modern mwyaf a mwyaf dynamig yn y Deyrnas Unedig.