Ewch i’r prif gynnwys

Rhwydwaith Iaith Cymru Gyfan yn penodi cyfarwyddwr newydd

6 Tachwedd 2019

Mae Dr Liz Wren-Owens wedi cael ei phenodi’n Gyfarwyddwr Academaidd newydd ar gyfer y prosiect allgymorth cydweithredol, Llwybrau at Ieithoedd Cymru.

Dechreuodd Dr Wren-Owens ei chyfnod o dair blynedd yn y swydd ym mis Medi 2019, gan gymryd lle ei chydweithiwr yn yr Ysgol Ieithoedd Modern, Dr Claire Gorrara, a fu yn y swydd ers 2014.

Nod Llwybrau at Ieithoedd Cymru yw cynyddu a hyrwyddo gwelededd a phroffil ieithoedd tramor modern yng Nghymru a'r niferoedd sy'n dewis eu hastudio.

Bydd Dr Wren-Owen yn cynnig arweiniad strategol ar gyfer Llwybrau at Ieithoedd Cymru, gan sicrhau bod llunwyr polisi iaith Cymru a’r DU wedi’u cysylltu â rhwydweithiau o randdeiliaid. Bydd yn cefnogi gwaith dau gydlynydd prosiect yng Nghaerdydd a Bangor, gan gynrychioli’r rhwydwaith mewn fforymau priodol a gweithio fel cennad.

Disgrifiodd Dr Wren-Owens, sydd wedi bod yn gweithio yn yr Ysgol Ieithoedd Modern ers 12 mlynedd, yr hyn a’i denodd i’r rôl Cyfarwyddwr Academaidd: “Mae Llwybrau at Ieithoedd Cymru yn gwneud gwaith hynod o bwysig yn hyrwyddo ieithoedd i bobl ifanc. Mae’n helpu i ledaenu’r neges fod ieithoedd yn agor drysau i anturiaethau a chyfleoedd gyrfaol. Mae ieithoedd yn cynnig cyfle i gwrdd â phobl newydd, ymweld â lleoedd newydd a chyfrannu at gymunedau newydd.”

“Gall ieithoedd roi i bobl ifanc y sgiliau i lwyddo mewn pob math o broffesiynau cyffrous ac i gymryd rhan mewn cymaint o brofiadau gwerthfawr.”

Mae Dr Wren-Owens yn awyddus i adeiladu ar yr amrywiaeth o fentrau llwyddiannus y mae Llwybrau at Ieithoedd Cymru wedi’u rhoi ar waith, sy’n cynnwys y Rhaglen Arwyr, Cenhadon Iaith, Dosbarthiadau Meistr Safon Uwch a’r Gystadleuaeth Sillafu. Ei nod yw helpu ieithoedd i ddod yn bresenoldeb mwy cyson mewn ysgolion, drwy addysgu a gweithgareddau sy’n cyfoethogi.

“Dwi’n awyddus i ddatblygu pecyn ieithoedd y gallwn ei gynnig i bob ysgol gynradd. Bydd y pecyn yn cynnwys pob math o adnoddau, yn barod i athrawon eu defnyddio. Gobeithiwn gefnogi addewid Llywodraeth Cymru i ysgolion cynradd gynnig ieithoedd o flwyddyn 5 - gweledigaeth sy’n flaengar iawn yn ein barn ni ac a fydd yn helpu Cymru a’i dinasyddion i gyflawni ei dyheadau rhyngwladol a’u potensial.”

Bydd Dr Wren-Owens yn parhau i weithio yn ei rôl fel Cyfarwyddwr Addysgu a Dysgu yn yr Ysgol Ieithoedd Modern.

Mae rhagor o wybodaeth am waith Llwybrau at Ieithoedd Cymru ar eu gwefan.

Rhannu’r stori hon