Ewch i’r prif gynnwys

Dechrau gwaith adeiladu Canolfan Bywyd y Myfyrwyr

26 Medi 2018

CSL

Mae'r gwaith adeiladu yn dechrau ar adeilad pwysig ym Mhrifysgol Caerdydd i fyfyrwyr.

Bydd Canolfan Bywyd y Myfyrwyr, partneriaeth gydag Undeb y Myfyrwyr, yn trawsnewid y ffordd y mae'r Brifysgol yn cefnogi bywyd myfyrwyr, gan gynnwys ym meysydd iechyd meddwl a lles.

Bydd y cartref newydd hynod hwn ar gyfer gwasanaethau cefnogi myfyrwyr, ochr yn ochr ag Undeb y Myfyrwyr, yn cynnig ystafelloedd ymgynghori, awditoriwm 550 sedd, mannau astudio cymdeithasol ychwanegol a mannau myfyrio tawel.

Bydd yn gwneud gwasanaethau'n fwy cynhwysol, hygyrch a chyfleus ochr yn ochr ag adnoddau ar-lein gwell ac oriau agor estynedig.

Bydd Kirsty Williams, Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, yn nodi dechrau'r gwaith adeiladu mewn seremoni ddydd Mercher 26 Medi ochr yn ochr â’r Is-Ganghellor, Yr Athro Colin Riordan; Llywydd Undeb Myfyrwyr Prifysgol Caerdydd, Fadhila Al Dhahouri; Cwmni adeiladu BAM .

Dywedodd Ms Williams: "Rwy'n ddiolchgar iawn am fy ngwahoddiad i'r seremoni arloesol heddiw, sy'n nodi dechrau'r gwaith adeiladu ar y ganolfan newydd.

"Bydd buddsoddiad y Brifysgol i ddatblygu'r ganolfan hon yn gwneud yn siŵr bod myfyrwyr yn gallu cael y profiad gorau posibl wrth astudio yng Nghaerdydd, gan drawsnewid gwasanaethau cefnogaeth mewn meysydd fel iechyd meddwl a lles, a gwella'r hyn a oedd eisoes yn amgylchedd dysgu o'r radd flaenaf i fyfyrwyr.

Yn ôl yr Athro Riordan: “Rydym wedi ymrwymo i roi profiad eithriadol i’n holl fyfyrwyr. Rydym yn cynnig gwasanaethau pwysig i'n myfyrwyr gan gynnwys iechyd meddwl a lles, cymorth astudio, materion ariannol, byw yng Nghaerdydd a pharatoi ar gyfer gyrfa ar ôl bod yn y brifysgol.

“Bydd Canolfan Bywyd y Myfyrwyr yn galluogi myfyrwyr i fanteisio i'r eithaf ar y cyfle i astudio ym Mhrifysgol Caerdydd ac yn eu cefnogi hefyd yn ystod unrhyw adegau heriol yn eu hamser yma.”

Dywedodd Fadhila Al Dhahouri, Llywydd Undeb y Myfyrwyr: “Pleser o’r mwyaf yw cael cymryd rhan mewn prosiect mor arbennig i wella bywyd myfyrwyr a rhoi lles wrth wraidd profiad Prifysgol Caerdydd.

“Mae gan Gefnogaeth i Fyfyrwyr rôl hanfodol ym mywyd y brifysgol, ac yn achubiaeth i fyfyrwyr sy’n ceisio cyngor, arweiniad a chymorth ar faterion academaidd a phersonol.

“Mae Undeb y Myfyrwyr yn bartner balch yn y prosiect ac rydym yn gweithio’n agos gyda’r Brifysgol i wneud yn siŵr bod y myfyrwyr presennol yn gweld gwelliannau i’r gwasanaethau hanfodol hynny, ymhell cyn i’r adeilad agor.”

CSL inside

Bydd gwasanaethau ar gael i fyfyrwyr lle bynnag y maent wedi'u lleoli.

Mae gwelliannau eisoes yn cael eu gwneud i wasanaethau gan olygu bod myfyrwyr yn elwa ar unwaith, cyn i'r Ganolfan agor.

Mae disgwyl i’r ganolfan, sy'n cael ei hadeiladu gan BAM, fod wedi’i chwblhau ym mlwyddyn academaidd 2020/21.

Dywedodd Justin Price, Rheolwr Adeiladu BAM: “Rydym wedi ein lleoli yng Nghaerdydd ers dros saith degawd, felly rydym yn falch iawn o ddechrau gweithio i Brifysgol Caerdydd. Mae ganddi enw da rhyngwladol, a bydd yr adnoddau newydd hyn yn adlewyrchu ei statws.

“Fel erioed, caiff llwyddiant ei yrru gan ansawdd y partneriaethau a’r cydweithio sy’n digwydd. Gyda’r gwaith o baratoi’r ddaear wedi’i gwblhau, rydym bellach yn hynod awyddus i ddechrau’r prif waith ar y safle.”

Cynlluniwyd yr adeilad gan benseiri Feilden Clegg Bradley Studios (FCB Studios) sydd â phrofiad o waith gydag adeiladau cyhoeddus proffil uchel.

Mae'r Brifysgol yn cyflawni ei gwaith uwchraddio mwyaf ar y campws ers cenhedlaeth - buddsoddiad o bwys dros 10 mlynedd.

Cyhoeddwyd cytundeb i adeiladu rhan nesaf Campws Arloesedd y Brifysgol yn gynharach eleni, ac mae cartref newydd i'r Ysgol Newyddiaduraeth, y Cyfryngau a Diwylliant yn agor yng nghanol Dinas Caerdydd.

Rhannu’r stori hon

Mae Undeb y Myfyrwyr yn cynnig amrywiaeth eang o weithgareddau i’ch helpu chi ymgartrefu ym Mhrifysgol Caerdydd.