Ewch i’r prif gynnwys

Studying a Pathway has opened a world of opportunities

29 Medi 2020

Ioan McCarthy
Yn ddiweddar, derbyniwyd Ioan i astudio MSc mewn Archaeoleg ym Mhrifysgol Rhydychen

Mae ein rhaglen Llwybrau yn llwybr i ddysgwyr sy'n oedolion gyflawni breuddwydion i astudio gradd israddedig.  Bydd stori Ioan yn ysbrydoli eraill gan i’w astudiaethau ym Mhrifysgol Caerdydd ei arwain i Oslo ac yna i Rydychen i astudio MSc. Mae'r dyfodol yn edrych yn ddisglair i Ioan.

Ar ôl cwblhau Llwybr Archwilio'r Gorffennol yn Addysg Barhaus a Phroffesiynol yn 2015, graddiodd Ioan McCarthy o Ysgol Hanes, Archaeoleg a Chrefydd Prifysgol Caerdydd yn 2019, gyda BA Anrhydedd dosbarth cyntaf mewn Archaeoleg a Hanes. Yn 2016-17, Ioan oedd y myfyriwr llwybrau cyntaf i gymryd rhan yng ngradd y brifysgol gyda blwyddyn o astudio dramor.

“Penderfynais ddychwelyd at Addysg Uwch ar ôl chwe blynedd ym myd gwaith. Cwrddais â Chydlynydd Archwilio'r Gorffennol mewn Diwrnod Agored ac eglurodd pa mor fforddiadwy a hygyrch oedd y llwybr o ganlyniad i’r opsiynau cyllid sydd ar gael, felly penderfynais gofrestru.

Ar ôl dechrau fy ngradd, bachais ar y cyfle i astudio dramor, yn un o sefydliadau pennaf Sgandinafia, Prifysgol Oslo, drwy'r radd â chynllun blwyddyn o astudio dramor.  Yn fuan, roeddwn yn byw mewn gwlad hardd a chyfareddol. Doeddwn i ddim wedi disgwyl gallu gwneud hynny ar ôl dechrau ar y Llwybr Archwilio'r Gorffennol, ac i'r rhaglen y mae'r diolch am y cyfle hapus hwn."

Byddwn yn annog unrhyw un sy'n ymddiddori mewn Hanes (yr henfyd, yr oesoedd canol neu hanes modern), Archaeoleg neu Astudiaethau Crefyddol i wneud yr un peth â fi. Yn aml, wrth siarad ag eraill sy'n rhannu'r un diddordebau â mi, yr hyn a glywaf yw "mae'n rhy hwyr i mi" neu "dwi’n methu ei fforddio," ond pan fyddaf yn dangos iddynt ba gyfleoedd sydd ar gael – yr un cyfleoedd a gefais i – bydd y dyhead yn troi'n fyw yn union yr un modd ag y gwnaeth i mi.

Os hoffech gael llond gwlad o gyfleoedd fel Ioan, cewch ragor o wybodaeth yma

Rhannu’r stori hon