Ewch i’r prif gynnwys

Gwnewch eich hun yn gartrefol gyda Tsieinëeg

17 Medi 2020

Students learning Mandarin Chinese in a classroom at Cardiff University

Meddwl am ddysgu Mandarin ond ddim yn siŵr oes gennych chi’r amser?

Y semester hwn, mae Prifysgol Caerdydd yn cynnig eu cyrsiau iaith rhan amser i oedolion ar-lein, sy'n ddelfrydol i unrhyw un sydd â bywyd gwaith prysur, dyletswyddau teuluol neu sy'n teimlo eu bod yn astudio'n well gartref.

Pum rheswm gwych dros ddysgu Mandarin ym Mhrifysgol Caerdydd y semester hwn

Cael eich addysgu gan ein tiwtoriaid gwych o Sefydliad Confucius

"... roedd fy athro bob amser yn cynnig cyfleoedd i ni ehangu ein gwybodaeth gyda phrofiadau diwylliannol... ar y dechrau roedd Tsieinëeg yn ymddangos yn frawychus ac yn iaith amhosibl ei meistroli, ond gyda chymorth fy athrawon, daeth yn haws ymdopi."

- Ethan Mayo

Defnyddio’r iaith yn eich bywyd real

"O bryd i'w gilydd rwy'n dod ar draws aelod o'r cyhoedd sy'n siarad Mandarin fel iaith gyntaf... mae'n dod yn haws i mi wrando a deall y sgwrs rhwng y cyfieithydd a'r cleient cyn i'r cyfieithydd roi cyfieithiad i mi."

- 'Poliglot obeithiol Johann, Tsieinëeg i Ddechreuwyr I a II

Cwrdd â phobl newydd

"Cefais flas ar y dosbarth eleni yn Sefydliad Confucius. Fe ddysgais i lawer a gwneud nifer o ffrindiau newydd. Yn wir, mae pedwar ohonom wedi cadw mewn cysylltiad dros y cyfnod clo a thros yr haf, ac rydym ni'n dal i "gyfarfod" drwy WhatsApp bob wythnos i barhau i astudio ac ymarfer ar ein pen ein hunain."

- Chris Burns, Tsieinëeg Ganolradd

Sylweddoli nad yw'r iaith mor anodd ag yr oeddech yn meddwl

"Hoffwn ddweud wrth bobl nad yw'r Tsieinëeg mor frawychus ag y mae'n ymddangos ar y dechrau. Gobeithio y gwelwch chi hyn fel cyfle i’ch gwella eich hun".

- Ethan Mayo

Sefyll cymhwyster a gydnabyddir yn rhyngwladol (os ydych chi'n dymuno)

"Rwyf i wedi cwblhau Tsieinëeg i Ddechreuwyr I a II, ac yn ystod yr un cyfnod rwyf wedi pasio HSK 1 a 2... yn bendant mae mynychu'r cyrsiau wedi fy helpu i baratoi ar gyfer yr arholiadau, ac wedi gwella fy nealltwriaeth o ran gwrando a darllen."

- 'Poliglot obeithiol Johann, Tsieinëeg i Ddechreuwyr I a II

Darganfyddwch fwy

The part-time courses for adults are held at a range of levels for Mandarin, from Beginners 1 for those just starting out to Advanced if you have been studying for a while. Additionally, as they have been designed specifically for members of the public, they are held largely in the evenings in order to reduce clashes with other commitments.

To learn more about or apply for one of our courses, visit the Cardiff University website. If you have any specific questions, please email the Cardiff Confucius Centre at confucius@cardiff.ac.uk

Rhannu’r stori hon