Ewch i’r prif gynnwys

Yn ôl adroddiad, mae llai na hanner o garcharorion Cymru yn dychwelyd i lety sefydlog ar ôl cael eu rhyddhau

16 Medi 2020

Prisoner's hands clasped around prison bars

Mae ymchwil newydd yn datgelu bod cannoedd o garcharorion yn cael eu rhyddhau'n ddigartref yng Nghymru.

Mae'r adroddiad, gan Ganolfan Llywodraethiant Cymru Prifysgol Caerdydd, yn dangos bod 543 o bobl wedi cael eu rhyddhau o garchardai Cymru heb gyfeiriad parhaol i ddychwelyd iddo yn 2018/19*. Yn CEM Caerdydd oedd mwyafrif y rheiny a ryddhawyd o'r carchar yn ddigartref (327), a rhyddhawyd carcharorion eraill yn ddigartref o CEM Abertawe (105); CEM Parc (85); CEM Berwyn (19); a CEM Prescoed (7).

Mae data ar wahân yn dangos bod llai na hanner (44%) yr holl garcharorion a reolwyd gan wasanaethau prawf Cymru ac a ryddhawyd o'r ddalfa wedi mynd i lety sefydlog.**

Yn ogystal â chasglu gwybodaeth yn barod yn y parth cyhoeddus, cafwyd data am boblogaethau carchardai yng Nghymru’n unig ac yn Lloegr yn unig gan y Weinyddiaeth Gyfiawnder drwy ddefnyddio’r Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth.

Dywedodd awdur yr adroddiad, Dr Robert Jones: “Gwnaeth Ddeddf Tai (Cymru) 2014 dynnu carcharorion oddi ar y rhestr o bobl sy'n cael statws 'angen blaenoriaethol' awtomatig ar gyfer llety dros dro yng Nghymru. Ers hynny, mae llawer o alw wedi bod i ailgyflwyno angen blaenoriaethol i garcharorion gan fod pryderon cynyddol. Mae hyn hefyd wedi’i weld mewn arolygiadau carchardai ynghylch y niferoedd cynyddol sy’n cysgu ar y stryd ac sy’n ddigartrefedd y ar ôl cael eu rhyddhau. Mae'r data a nodir yn ein hadroddiad diweddaraf yn ategu'r pryderon hyn ymhellach, yn ogystal â'r rhai hynny sydd wedi codi yn sgîl pandemig Covid-19."

Mae rhagor o ganfyddiadau o'r adroddiad, Prison, Probation and Sentencing in Wales: 2019 Factfile, yn dangos y canlynol:

Covid-19

  • Ar 19 Mehefin 2020, yng ngharchardai Cymru yr oedd un o bob pump (20%) o'r holl achosion o Covid-19 a gadarnhawyd ymysg carcharorion yng Nghymru a Lloegr. Mae hyn er gwaethaf y ffaith bod carchardai Cymru yn gartref i 6% o boblogaeth carchardai yng Nghymru a Lloegr ar ddiwedd mis Mehefin 2020.

Ethnigrwydd

  • Roedd pobl ddu yng Nghymru yn cael eu gorgynrychioli bron i chwe gwaith yn ormod mewn carchardai yn 2019. Roed carcharorion Asiaidd wedi'u gorgynrychioli 1.9 gwaith ac roedd unigolion o grwpiau ethnig cymysg wedi'u gorgynrychioli 2.7 gwaith. Unigolion Cymraeg o gefndir ethnig Gwyn (0.9) oedd yr unig grŵp i gael ei dangynrychioli mewn carchar yn 2019.  Er y gellir gweld patrwm tebyg yn Lloegr, mae lefel y gorgynrychioliaeth ar gyfer pob un o'r grwpiau hyn yn uwch yng Nghymru.

Eitemau a ganfuwyd mewn carchardai

  • Gwnaeth nifer yr eitemau alcohol a ganfuwyd mewn carchardai Cymru (ac eithrio CEM Berwyn***) gynyddu 57% yn y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Mawrth 2020. Yn yr un cyfnod, cynyddodd nifer yr eitemau alcohol a ganfuwyd yn CEM Berwyn 225% ar adeg pan gynyddodd y boblogaeth yno 31%.
  • Yn y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Mawrth 2020, roedd cynnydd o 33% yn nifer yr arfau a ganfuwyd yng ngharchardai Cymru (ac eithrio CEM Berwyn). Yn CEM Berwyn (18) daethpwyd o hyd i’r nifer uchaf o arfau yng Nghymru fesul 100 o garcharorion yn y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Mawrth 2020. Cofnodwyd y gyfradd ail uchaf yn CEM Parc (12 fesul 100) yna CEM Caerdydd (6 fesul 100), CEM Abertawe (6 fesul 100), a'r gyfradd gyfunol ar gyfer CEM Usk/Prescoed (2 fesul 100).

Ymosodiadau

  • Yn CEM Berwyn, pan gynyddodd ei boblogaeth 18%, cynyddodd nifer yr ymosodiadau carcharwr-ar-garcharwr 143% yn 2019.
  • Roedd cyfradd ymosodiadau carcharwr-ar-garcharwr ar ei uchaf yn CEM Berwyn yn 2019 gyda 39 digwyddiad fesul 100 o garcharorion. Cofnodwyd y lefel ail uchaf yn CEM Parc (35 fesul 100), yna yn CEM Caerdydd (24 fesul 100), CEM Abertawe (20 fesul 100) a CEM Usk a Phrescoed (3 fesul 100).

Dywedodd Dr Jones: “Mae gan Gymru un o’r cyfraddau uchaf o garcharu yng ngorllewin Ewrop o hyd, wrth ddefnyddio naill ai cyfrifiadau 'cyfeiriad cartref' neu 'o fewn y wlad'. Mae hyd cyfartalog dedfrydau o garcharu yn parhau i gynyddu, ac mae nifer yr eitemau cyffuriau, alcohol, tybaco ac arfau a ganfuwyd wedi cynyddu ymhellach.

“At hynny, mae lefel y mae unigolion o gefndiroedd Du, Asiaidd a Chymysg yn cael eu gorgynrychioli mor uchel mae'n peri gofid. Gobeithio y gall y canfyddiadau hyn helpu i ddechrau trafodaeth ddeallus a beirniadol ynghylch ar anghydraddoldeb yn system carchardai Cymru. Rydym hen bryd cael trafodaeth o'r fath.”

Bydd yr adroddiad, Prison, Probation and Sentencing in Wales: 2019 Factfile, ar gael i'w ddarllen yma.

Rhannu’r stori hon

We undertake innovative research into all aspects of the law, politics, government and political economy of Wales, as well the wider UK and European contexts of territorial governance.