Ewch i’r prif gynnwys

Gweithwyr creadigol de Cymru'n sicrhau cyllid sbarduno i syniadau sgrin

9 Mawrth 2020

Clwstwr balloons

Mae Clwstwr, y rhaglen i ysgogi arloesi yn sector sgrin de Cymru, wedi cyhoeddi cyfanswm o £90,000 mewn grantiau i naw o weithwyr llawrydd a microfusnesau.

Mae Clwstwr, dan arweiniad Prifysgol Caerdydd, ar y cyd â Phrifysgol De Cymru a Phrifysgol Metropolitan Caerdydd – yn rhaglen ymchwil a datblygu bum mlynedd o hyd sydd â'r nod o feithrin canolfan gynhyrchu'r cyfryngau o amgylch prifddinas Cymru.

Yn dilyn labordy syniadau deuddydd, mae carfan gyntaf Clwstwr o brosiectau sbarduno wedi'u dewis. Bydd y gweithwyr llawrydd a micro-fusnesau'n gweithio gydag arbenigwyr o'r diwydiant ac academyddion i ddatblygu eu syniadau dros gyfnod o dri mis.

Mae carfan sbarduno gyntaf Clwstwr yn cynnwys arloesiadau fydd nid yn unig yn gwella'r diwydiannau sgrin a newyddion, ond a allai hefyd wella cynaladwyedd, twristiaeth, cyfranogi mewn democratiaeth a mynegiant creadigol. Mae'r prosiectau'n cynnwys profiad Dirgelwch Llofruddiaeth Realiti Estynedig, a Ffilm 360 gradd ar gyfer Theatr Drochol.

Bydd y garfan yn ymchwilio ac yn datblygu syniadau yn cynnwys sut i ddweud straeon hanes diweddar Cymru, sut i ennyn diddordeb pobl 16-24 oed yn y broses ddemocrataidd a sut gall technoleg sgrin ddod â haenau newydd o berfformio i bodlediadau.

Yn ôl cyfarwyddwr Clwstwr, yr Athro Justin Lewis: "Mae ein Labordy Syniadau Clwstwr cyntaf wedi arwain at fuddsoddiad gan y rhaglen mewn naw o bobl dalentog fydd nawr yn gallu datblygu syniadau arloesol.

"Mae ein carfan newydd yn fynegiant o ehangder a photensial creadigol. Mae gennym ni arbenigydd mewn ynni cynaliadwy/trefnydd gŵyl gerddorol, awdur/cyfarwyddwr/gwneuthurwr ffilm, un o brif awduron Cymru, cynhyrchydd podlediadau, gwneuthurwr ffilmiau arbrofol, cerddor o fri rhyngwladol, entrepreneur addawol yn yr economi profiad newydd, cyfarwyddwr gŵyl animeiddio a chyfarwyddwr theatr.

Mae'n grŵp gwych, llawn ymrwymiad, dyfeisgarwch ac egni a gallaf i ddim aros i weld eu harloesi'n datblygu.

Yr Athro Justin Lewis Professor of Communication

Meddai Lauren Orme, Cyfarwyddwr Gŵyl Animeiddio Caerdydd ac aelod o garfan sbarduno gyntaf Clwstwr: “Dwi’n falch iawn o gael gweithio gyda Clwstwr ar brosiect ymchwil a datblygu sy’n ymwneud â chynaliadwyedd amgylcheddol ym maes animeiddio. Mae cael y cyfle i dreulio amser yn archwilio rhywbeth sy’n golygu cymaint i mi yn gyffrous dros ben.

“Mae Clwstwr wedi gwneud eu gorau i gael gwared ar rwystrau fel bod llawryddion a microfusnesau yn gallu manteisio ar eu cymorth. Ar ôl treulio ambell ddiwrnod gyda gweddill y garfan, dwi’n edrych ymlaen yn arw at ddatblygu fy mhrosiect ochr yn ochr â rhai unigolion ysbrydoledig sy’n gweithio ar syniadau gwirioneddol ddiddorol.

“Mae diffyg darpariaeth benodol yn aml yn broblem yn y sector animeiddio – rydw i wedi gweld hyn drwy redeg cwmni cynhyrchu animeiddio yn ogystal â gŵyl animeiddio. Trwy fy mhrosiect Clwstwr dwi’n gobeithio y medraf helpu cwmnïau eraill fel fy un i i ddatblygu ymagweddau newydd o wneud gwaith cynhyrchu animeiddiadau yn fwy gwyrdd.”

Gyda chyllid o Strategaeth Ddiwydiannol Llywodraeth y DU, a chyllid cyfatebol gan Lywodraeth Cymru, mae Clwstwr yn dod â holl brif ddarlledwyr Cymru, gan gynnwys BBC Cymru Wales, S4C ac ITV Cymru â chwmnïau cynhyrchu ffilm a theledu annibynnol, cwmnïau cenedlaethol a chyrff creadigol Cymru, mannau cydweithio creadigol, cwmnïau technegol newydd, asiantaethau strategol gan gynnwys Cyngor Celfyddydau Cymru, awdurdodau lleol gan gynnwys Cyngor Caerdydd a'r llywodraeth at ei gilydd.

Yn 2019, dyfarnodd rhaglen Clwstwr £1miliwn i 23 o fusnesau ddatblygu eu syniadau ar gyfer cynhyrchion, gwasanaethau a phrofiadau newydd.

Ewch i www.clwstwr.org.uk i gael rhagor o wybodaeth am y garfan ysgogi gyntaf.

Dyma'r prosiectau Clwstwr sydd wedi eu hariannu gyntaf:

Rhannu’r stori hon

Mae'r Ysgol yn ganolfan sydd ar flaen y gad ar gyfer addysgu ac ymchwil ym maes y cyfryngau.