Ewch i’r prif gynnwys

Llongyfarchiadau i’n holl fyfyrwyr sy’n graddio

29 Gorffennaf 2020

Pink balloons in the sky

Hoffem anfon llongyfarchiadau enfawr i'n holl fyfyrwyr blwyddyn olaf ar raddio o'r Ysgol Cemeg.

Gan fod 96% o'n graddedigion yn mynd ymlaen i gyflogaeth sicr neu astudiaethau pellach, fe wyddom eu bod ar fin dechrau’r bennod gyffrous nesaf yn eu bywydau a'u gyrfaoedd. Maen nhw'n ymuno â chymuned ffyniannus o Gyn-fyfyrwyr Cemeg sy'n cadw cysylltiad â ni ar grŵp LinkedIn Cyn-fyfyrwyr yr Ysgol Cemeg.

I'r holl fyfyrwyr drwy'r wlad, bu’r misoedd diwethaf yn heriol iawn. Maen nhw wedi golygu addasiadau cyflym i astudio dan gyfyngiadau na ragwelwyd gan neb yn sgil pandemig COVID-19.

I fyfyrwyr Prifysgol daeth hyn wrth iddyn nhw gwblhau eu prosiectau ymchwil pwysig, ac wrth ddechrau adolygu ar gyfer eu harholiadau diwedd blwyddyn.

Eto i gyd, dangosodd ein myfyrwyr i gyd wydnwch rhyfeddol wrth addasu i'r byd ar-lein gan ddyfalbarhau i gwblhau eu dysgu a'u hasesu.

Hoffem nodi'n benodol enillwyr gwobrau'r Ysgol eleni, ac rydym ni'n cydnabod yr enillwyr canlynol yn arbennig:

  • Perfformiad rhagorol yn MChem Blwyddyn 4: Oliver Symes, Adam Khan a Joshua Morris
  • Gwobr Goffa'r Athro Wyn Roberts am Gyflawniad Eithriadol mewn Ymchwil Israddedig: Kiran Vaja
  • BSc trydedd flwyddyn gorau: William Croft a Charlotte Evans
  • Prosiectau labordy trydedd flwyddyn rhagorol: Zoe Northam, Jack Chappell a Joshua Morris
  • Gwobr NIPA: Sarah Stock

Roedd ymdrechion y blynyddoedd eraill i gyd yn cwblhau asesiadau cynnydd hefyd yn glodwiw mewn cyfnod mor anodd, ac edrychwn ymlaen at eu croesawu'n ôl i'r Ysgol ddiwedd mis Medi, cyn y flwyddyn academaidd nesaf.

Drwy'r cyfnod digynsail hwn nad oedd modd ei ragweld, rydym ni wedi gallu cymryd amser i ystyried a dysgu cymaint am ein cryfderau a'n galluoedd.

Rydym ni nawr yn datblygu dulliau dysgu cyfunol i'n modiwlau i gyd, fydd yn ein caniatáu i weithio'n ddiogel gyda'n gilydd a pharhau i fwynhau'r cyfleoedd cyffrous mae dysgu Cemeg yng Nghaerdydd yn gallu eu cynnig.

Yn y cyfamser, dymunwn wyliau haf pleserus i'n myfyrwyr i gyd, gan eich llongyfarch unwaith eto ar eich dyfalbarhad a'ch holl lwyddiannau

Rhannu’r stori hon

Mae manylion llawn o raddau PhD a MPhil, yn cynnwys sut i wneud cais, ar gael yn y chwiliwr cwrs.