Ewch i’r prif gynnwys

Dyfarnu gwobrau i fyfyrwyr ar y Diploma Ôl-raddedig mewn Pensaernïaeth: Cwrs Ymarfer Proffesiynol

29 Mehefin 2020

PGDip student

Mae dau fyfyriwr ar y Diploma Ôl-raddedig mewn Pensaernïaeth: Ymarfer Proffesiynol wedi derbyn gwobrau o fri yn ddiweddar am eu gwaith

Mae Danielle Simpson a Ross Hartland yn rhannu Gwobr Stanley Hall Cox am y myfyriwr Diploma gorau, a roddwyd gan Stride Treglown. Dyfarnwyd gwobr Cymdeithas y Gyfraith Adeiladu i Ross Hartland am y perfformiad gorau yn y modiwl Contractau Adeiladu. Yn ogystal â Danielle a Ross, cafodd dau fyfyriwr arall Ddiploma gyda Rhagoriaeth: Stalo Pitta ac Amelia Brown.

Nododd yr arholwr allanol hefyd fod 'Cynnwys y cwrs a chyflwyniadau myfyrwyr yn dal i fod ar safon uchel iawn.'

Dywedodd yr Athro Sarah Lupton, Cadeirydd Personol a Chyfarwyddwr y Cwrs: “Rwy'n falch iawn ein bod wedi gallu cyflawni'r cwrs llawn yn unol â'r rhaglen wreiddiol, a hoffwn longyfarch yr holl fyfyrwyr ar y gwaith ardderchog a gyflwynwyd, a'u perfformiadau yn y cyfweliadau. Diolch yn fawr iawn i bawb a gyfrannodd fel tiwtoriaid, cyflwynwyr seminarau ac arholwyr."

Nod y Diploma Ôl-raddedig mewn Pensaernïaeth: Ymarfer Proffesiynol yw gallu ymgymryd â'r rhaglen tra byddant yn gweithio’n amser llawn mewn practis pensaernïol neu sefydliad cysylltiedig yn y diwydiant adeiladu. Ar gyfer y sesiwn nesaf, rydym yn rhagweld y bydd ar-lein yn gyfan gwbl, gan ddefnyddio amrywiaeth o ddulliau dysgu o bell gan gynnwys digwyddiadau fydd yn cael eu ffrydio'n fyw, megis gweminarau a gweithdai ar-lein dan arweiniad arbenigwyr, yn ogystal â thiwtorialau unigol rheolaidd, gyda chefnogaeth adnodd ar-lein helaeth o nodiadau cwrs manwl a chyflwyniadau fideo sydd wedi'u recordio ymlaen llaw.

Ar hyn o bryd mae Ysgol Pensaernïaeth Cymru yn croesawu ceisiadau ar gyfer y Meistr mewn Gweinyddiaeth Dylunio, a'r Diploma Ôl-raddedig mewn Pensaernïaeth: Ymarfer Proffesiynol, gyda chyfarwyddyd yr Athro Sarah Lupton. Os oes gennych unrhyw ymholiadau, ebostiwch lupton@caerdydd.ac.uk

Rhannu’r stori hon