Ewch i’r prif gynnwys

Cyfle PhD gyda’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol

24 Mehefin 2020

Researchers working in a busy chemistry lab

Mae Sefydliad Darganfod Meddyginiaethau Prifysgol Caerdydd yn cynnig cyfle unigryw i ymchwilio i Sglerosis Ochrol Amyotroffig drwy gyfrwng y Gymraeg.

Mae Ysgoloriaeth PhD ar gael, wedi'i hariannu'n llawn gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, a fydd yn canolbwyntio ar ymchwil i ddulliau arloesol o drin clefyd niwronau echddygol.

Dywedodd yr Athro Simon Ward, Cyfarwyddwr Sefydliad Darganfod Meddyginiaethau ym Mhrifysgol Caerdydd: "Prif nod ein Sefydliad yw darparu darganfyddiadau cyffuriau modern i wella triniaethau a bywydau y rheiny sydd eu hangen.

"Sglerosis Ochrol Amyotroffig yw'r ffurf mwyaf cyffredin o glefyd niwronau echddygol a does dim iachâd ar hyn o bryd. Does dim meddyginiaethau effeithiol, sy’n golygu bod angen brys i ddod o hyd i therapïau er mwyn newid hynt y clefyd a thrin ei symptomau.

“Mae hwn yn gyfle i unigolyn o gefndir addysg Gymraeg i gwblhau PhD ym maes cemeg feddyginiaethol drwy gyfrwng y Gymraeg. Rydym yn chwilio am ymgeiswyr brwdfrydig sydd ag angerdd cryf dros gemeg feddyginiaethol, yn ddelfrydol o gefndir o astudio cemeg organig neu fiocemeg.

“Mae Cymru'n gartref i ymchwil benigamp ac mae'r cyfle PhD hwn yn cynnig platfform i'r genhedlaeth nesaf o wyddonwyr ddarparu therapïau newydd ar gyfer clefyd niwronau echddygol yn eu hiaith gyntaf."

Rhannu’r stori hon