Ewch i’r prif gynnwys

Cadeirydd Sêr Cymru yn ymuno â Phrifysgol Texas

2 Gorffennaf 2020

Professor Diana Huffaker
Professor Diana Huffaker

Y mae’r Athro Diana Huffaker, yr ymchwilydd Lled-ddargludyddion Cyfansawdd (CS) blaenllaw a Chadeirydd Sêr Cymru, yn ymuno â Phrifysgol Texas ar ôl pum mlynedd yng Nghymru.

Y mae’r Athro Huffaker, dinesydd o’r UD, a gwblhaodd ei doethuriaeth mewn Gwyddorau Deunydd ym Mhrifysgol Texas yn Gyfarwyddwr Gwyddonol ar gyfer Sefydliad Lled-ddargludyddion Cyfansawdd Prifysgol Caerdydd ar hyn o bryd.

Yn ystod ei deiliadaeth yng Nghymru, y mae’r Athro Huffaker wedi helpu i gael gafael ar £50m gan Lywodraeth y DU er mwyn datblygu’r Catapwlt Rhaglenni Lled-ddargludyddion Cyfansawdd, sefydlu grŵp ymchwil blaenllaw a dod â charfan o ymchwilwyr rhyngwladol mewn disgyblaethau CS at ei gilydd.

Yn ôl yr Athro Huffaker: “Roeddwn i’n wirioneddol yn gwerthfawrogi’r cyfle anhygoel gan brosiect Sêr Cymru i gysylltu gwyddor sylfaenol ac effaith economaidd, sydd wedi bod yn rhan ganolog o fy ngweithgarwch erioed. Mae Sêr Cymruwedi galluogi Caerdydd i ddatblygu craidd o wyddonwyr ifanc gwych a brwdfrydig sy’n dangos rhagoriaeth ryngwladol, a bydd eu gwaith yn cael ei arwain gan y weledigaeth hon. Ac wrth gwrs, fe wnes i wirioneddol fwynhau cwrdd â phobl a chreu ffrindiau yng Nghaerdydd ac ar draws Llywodraeth Cymru. Am le arbennig.”

Cafodd yr Athro Huffaker ei hariannu i ddod i Gymru o Brifysgol California, Los Angeles (UCLA) gan Lywodraeth Cymru drwy gynllun Sêr Cymru i fod yn Gadeirydd mewn Peirianneg Uwch a Deunyddiau. Mae hi’n un o naw cadeirydd tebyg a ariennir yn gyhoeddus er mwyn denu gwyddonwyr o safon byd-eang i Gymru.

Dywedodd y Gweinidog dros Addysg, Kirsty Williams: “Hoffwn ddiolch i’r Athro Huffaker am ei gwaith fel un o’n Cadeiryddion Sêr Cymru nodedig ac am yr effaith hirdymor y bydd hi’n ei chael ar ddarpar fyfyrwyr yng Nghymru. Mae’r Athro Huffaker yn enghraifft wych o’r dalent academaidd o’r radd flaenaf y mae ein rhaglen Sêr Cymru yn ei denu’n llewyrchus o bob cwr o’r byd. Mae gan Gymru gysylltiadau addysg cryf gyda’r Unol Daleithiau, a thaleithiau’r de yn benodol, ac rwy’n dymuno’r gorau i’r Athro Huffaker yn ei rôl nesaf yn Texas.”

Ychwanegodd yr Athro Rudolf Allemann, y Rhag Is-Ganghellor, Rhyngwladol a Recriwtio Myfyrwyr a Phennaeth Coleg y Gwyddorau Ffisegol a Pheirianneg: “Rydym yn ddiolchgar am y cyfraniad hollbwysig y mae’r Athro Huffaker wedi’i wneud i Gaerdydd yn ystod ei phum mlynedd fel Cadeirydd Sêr Cymru mewn deunyddiau a dyfeisiau blaengar. Mae gwaith Diana o ddenu noddwyr a recriwtio carfan o ymchwilwyr CS o fri rhyngwladol i ymuno â ni wrth i ni weithio tuag at glwstwr Lled-ddargludyddion Cyfansawdd cynta’r byd– CSconnected - wedi bod yn rhagorol. Rydym yn dymuno’n dda i Diana yn ei swydd newydd.”

Yn ystod ei chyfnod yn yr Ysgol Ffiseg a Seryddiaeth, cyhoeddodd yr Athro Huffaker nifer o bapurau gwyddonol ar Led-ddargludyddion Cyfansawdd - teclynnau electronig pitw cyflym sy’n cael eu defnyddio mewn cymwysiadau o loerenni a radar i lechi a dyfeisiau symudol.

Mae gwaith ymchwil yr Athro Huffaker yn canolbwyntio ar ddatblygu deunyddiau unigryw a fydd yn arwain at gynhyrchu dyfeisiau newydd sydd â swyddogaethau newydd. Mae hi'n fwyaf adnabyddus am ei gwaith arloesol ar ddatblygu deunyddiau 'dot cwantwm' CS arloesol, a gaiff eu defnyddio ym meysydd optoelectroneg a ffiseg laser.

Yn ôl yr Athro Peter Smowton, Rheolwr Gyfarwyddwr Sefydliad Lled-ddargludyddion Cyfansawdd Prifysgol Caerdydd: “Mae’r Athro Diana Huffaker wedi gwneud cyfraniadau pwysig at ddatblygiad y Sefydliad Lled-ddargludyddion Cyfansawdd ac wedi datblygu cryfderau ymchwil newydd sbon yng Nghaerdydd ar, er enghraifft, epitacsi lled-ddargludyddion cyfansawdd cymhleth ac araeau synhwyrol isgoch canol. Hoffem ni ddiolch i Diana am ei gwaith rhagorol, am adael gwaddol parhaol a dymuno pob llwyddiant iddi yn ei rôl newydd gyffrous ym Mhrifysgol Texas.”

Roedd yr Athro Huffaker yn gweithio ar y cyd rhwng yr Ysgol Ffiseg a Seryddiaeth a’r Ysgol Peirianneg.

Yn ôl yr Athro Sam Evans, Pennaeth yr Ysgol Peirianneg: “Mae’r Athro Huffaker wedi dod â thîm eithriadol o ymchwilwyr ynghyd, ac wedi gosod sylfaen gadarn i ni barhau a’r gwaith yn y maes cyffrous hwn.”

Bydd y Sefydliad Lled-ddargludyddion Cyfansawdd (ICS) yn symud i gartref pwrpasol ar gyfer arloesedd CS yn 2021-22. Bydd y Cyfleuster Ymchwil Drosiadol yn rhoi cyfle i’r diwydiant ac ymchwilwyr academaidd weithio law yn llaw gyda dau sefydliad blaenllaw er mwyn archwilio prosesau gwyddonol yfory a datblygu cynhyrchion masnachol.

Rhannu’r stori hon

Dyma Ysgol gyfeillgar, y mae’n hawdd troi ati, gydag ymrwymiad cryf i ragoriaeth wrth addysgu ac ymchwil o’r radd flaenaf mewn ffiseg a seryddiaeth.