Ewch i’r prif gynnwys

Stori i blant am COVID-19 wedi ei chyfieithu i'r Gymraeg

10 Mehefin 2020

Boy reading on e reader

Mae plant ledled Cymru wedi cael y cyfle i drafod a deall effaith COVID-19 wedi i staff Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Caerdydd, gyfieithu stori am y pandemig i’r Gymraeg.

Enw’r llyfr yw "Ti yw fy Arwres: Sut y gall plant frwydro yn erbyn COVID-19!" ac mae wedi ei ysgrifennu ar gyfer plant rhwng 6 ac 11 oed. Yn y stori, mae creadurol hudol o’r enw Ario yn esbonio sut y gall plant eu diogelu eu hunain, eu teuluoedd, a'u ffrindiau rhag y coronafeirws a sut y gallant reoli eu teimladau ar amser anodd.

Daeth dros 50 o sefydliadau yn y sector dyngarol ynghyd er mwyn llunio'r stori wreiddiol, gan gynnwys Sefydliad Iechyd y Byd, Cronfa Blant y Cenhedloedd Unedig, Uwch-gomisiynydd y Cenhedloedd Unedig dros Ffoaduriaid, Ffederasiwn Rhyngwladol Cymdeithasau’r Groes Goch a’r Cilgant Coch, ac Achub y Plant.

Mae’r stori wedi cael ei chyfieithu i fwy na 90 o ieithoedd, a staff Ysgol y Gymraeg yn y Brifysgol yn ymgymryd â'r her ar gyfer plant Cymraeg.

Dywedodd Dr Dylan Foster Evans: “Mae plant wedi wynebu llawer iawn o bwysau dros yr wythnosau diwethaf wrth iddynt geisio addasu i ffordd wahanol iawn o fyw. Mae llenyddiaeth yn arf pwerus sy'n ein helpu i drafod llawer o faterion heriol ac mae'n bwysig fod pawb yn cael y cyfle i wneud hynny yn eu hiaith eu hunain. Rydym yn gobeithio bod ein cyfieithiad wedi cefnogi plant a theuluoedd Cymraeg wrth iddynt geisio dod i delerau â'r pandemig gyda'i gilydd."

Yn ystod camau cynnar y prosiect, gwnaeth mwy na 1,700 o blant, rhieni, darparwyr gofal ac athrawon o bedwar ban y byd rannu sut yr oeddent yn ymdopi â phandemig COVID-19. Defnyddiwyd eu hymatebion gan y sgriptiwr a'r darlunydd Helen Patuck i lunio'r stori.

Meddai Dr Tedros Adhanom Ghebreyesus, Cyfarwyddwr Cyffredinol Sefydliad Iechyd y Byd: “Mae achosion brys dyngarol blaenorol wedi dangos inni pa mor hanfodol yw mynd i'r afael ag ofnau a phryderon pobl ifanc pan fydd eu bywydau yn newid mewn modd sylfaenol. Rydym yn gobeithio y bydd y llyfr hwn, a’r darluniau hyfryd sy'n mynd â phlant ar daith drwy barthau amser a chyfandiroedd, yn eu helpu i ddeall beth y gallant ei wneud i fod yn gadarnhaol a chadw'n ddiogel yn ystod y cyfnod hwn o achosion coronafeirws."

Rhannu’r stori hon

Mae'r Ysgol wedi ymrwymo i ddatblygu iaith, cymdeithas a hunaniaeth Cymru gyfoes drwy addysg ac ymchwil o'r safon uchaf.