Ewch i’r prif gynnwys

Gallai darganfyddiad newydd dynnu sylw at ardaloedd sy'n llai tebygol o gael daeargrynfeydd

2 June 2020

Ocean floor

Mae gwyddonwyr o Brifysgol Caerdydd wedi dod o hyd i gyflyrau penodol sy'n digwydd ar hyd gwely'r cefnfor lle mae dau blât tectonig yn fwy tebygol o ymgripio'n araf heibio ei gilydd, yn hytrach na llithro'n sylweddol a chreu daeargrynfeydd trychinebus.

Mae’r tîm wedi dangos bod digon o ddŵr yn gallu mynd i mewn i’r toriadau ar wely’r môr, ar ffin dau blât tectonig, a bod hyn yn sbarduno ffurfiant mwynau gwan sydd yn eu tro yn helpu’r ddau blât tectonig i lithro’n araf heibio ei gilydd.

Gallai'r canfyddiadau newydd, sydd wedi'u cyhoeddi yng nghyfnodolyn Science Advances, helpu gwyddonwyr i ddeall faint o straen sydd ar linellau penodol o wendid a ph'un a allai’r platiau tectonig ysgogi daeargryn ai peidio.

Gallai hyn, yn ei dro, gyfrannu o bosibl ar ddatrys un o'r heriau mwyaf sy'n wynebu seismolegyddion, sef gallu rhagweld daeargrynfeydd gyda digon o gywirdeb i arbed bywydau a lleihau'r niwed economaidd a achosir ganddynt.

Mae haen allanol y Ddaear, y lithosffer, wedi'i wneud o blatiau tectonig sy'n symud dros yr asthenosffer gwaelodol fel fflotiau ar bwll nofio ar gyfraddau o gentimedrau y flwyddyn.

Mae straen yn dechrau cronni lle mae'r platiau hyn yn cwrdd a chaiff ei ryddhau ar adegau penodol naill ai gan ddaeargrynfeydd, lle mae un plât yn llithro'n gatastroffig o dan y llall ar gyfradd o fetrau yr eiliad, neu drwy ymgripio lle mae’r platiau'n llithro heibio ei gilydd yn araf ar gyfradd o gentimedrau y flwyddyn.

Am amser hir mae gwyddonwyr wedi ceisio canfod beth sy'n achosi ffin plât penodol i naill ai ymgripio neu achosi daeargryn.

Credir yn gyffredinol mai'r hyn sy'n achosi platiau tectonig i lithro ar ffin plât cefnforol a phlât cyfandirol yw haen wan o gerrig gwaddodol ar ben gwely'r cefnfor; fodd bynnag, mae tystiolaeth newydd wedi awgrymu y gallai'r cerrig sydd ymhellach o dan yr arwyneb yn y gramen gefnforol hefyd chwarae rhan a gallent fod yn gyfrifol am yr ymgripio yn hytrach na daeargrynfeydd.

Yn eu hastudiaeth, edrychodd y tîm o Brifysgol Caerdydd a Phrifysgol Tsukuba yn Japan am dystiolaeth ddaearegol o ymgripio mewn cerrig ar hyd arfordir Japan, yn benodol mewn cerrig yn y gramen gefnforol a oedd wedi'u claddu'n ddwfn mewn rhanbarth tansugno, ond a oedd bellach yn weladwy ar arwyneb y Ddaear yn sgîl blynyddoedd o ymgodi ac erydu.

Gan ddefnyddio technegau delweddu o'r radd flaenaf roedd y tîm yn gallu arsylwi strwythur microsgopig y cerrig sydd yn y gramen gefnforol a'u defnyddio i amcangyfrif faint o straen oedd ar ffin y plât tectonig.

Dangosodd eu canlyniadau bod y gramen gefnforol yn llawer gwannach nag y rhagdybir gan wyddonwyr yn flaenorol mewn gwirionedd.

“Mae hyn yn golygu, o leiaf yn yr hen ranbarth tansugno Japaneaidd, gallai ymgripio araf mewn cramen gefnforol wan a gwlyb achosi i lithosffer y cefnfor lithro o dan y cyfandir sy'n ei orchuddio heb greu daeargrynfeydd," meddai prif awdur yr astudiaeth, Christopher Tulley, o Ysgol Gwyddorau’r Ddaear a’r Môr Prifysgol Caerdydd.

“Mae ein hastudiaeth felly'n cadarnhau y gall y gramen gefnforol, a ystyrir fel rheol i fod yn gryf ac yn dueddol o newid ei siâp drwy ddaeargrynfeydd, newid ei siâp drwy ymgripio, ar yr amod bod ganddi ddigon o ddŵr."

Rhannu’r stori hon

Mae'r Ysgol wedi ymrwymo i sicrhau’r safonau uchaf mewn ymchwil ac addysg ac – o dan arweiniad ymchwil – i ddarparu amgylchedd cyfoethog ac amrywiol.