Goroesi asteroid
14 Ebrill 2016
Mae tîm o dan arweiniad arbenigwyr ym Mhrifysgol Caerdydd wedi darparu tystiolaeth newydd i egluro sut gallodd creaduriaid y dyfnfor oroesi'r asteroid trychinebus a laddodd y dinosoriaid 65 miliwn o flynyddoedd yn ôl.
Fel y dinosoriaid eu hunain, diflannodd ymlusgiaid morol mawr, infertebratau ac organebau microsgopig ar ôl i asteroid trychinebus daro'r Ddaear, gan greu cynnwrf aruthrol yng nghefnforoedd y byd. Ond, llwyddodd creaduriaid y dyfnfor i oroesi.
Mae hyn wedi peri penbleth i ymchwilwyr, oherwydd credir yn eang bod yr asteroid wedi lladd cyflenwad bwyd y cefnforoedd, drwy ddinistrio algâu a bacteria rhydd.
Fodd bynnag, mewn astudiaeth a gyhoeddwyd yn rhifyn mis Ebrill o'r cyfnodolyn Geology, mae tîm o dan arweiniad ymchwilwyr o Ysgol Gwyddorau'r Ddaear a'r Amgylchedd ym Mhrifysgol Caerdydd, yn cynnig tystiolaeth gref sy'n awgrymu bod rhai mathau o algâu a bacteria wedi byw ar ôl y trychineb asteroid, a'u bod, wrth suddo, yn ffynhonnell gyson o'r mymryn lleiaf o fwyd ar gyfer creaduriaid a oedd yn byw ar lawr y cefnfor.
Roedd y tîm yn gallu dod i'r casgliadau hyn drwy ddadansoddi data newydd o gyfansoddiad cemegol cregyn ffosil o wyneb y môr ac organebau o lawr y cefnfor o'r cyfnod hwnnw, a gymerwyd drwy ddrilio creiddiau o lawr y cefnfor yn Ne'r Iwerydd.
Roedd hyn yn rhoi syniad i ymchwilwyr am symudiad mater organig rhwng wyneb a llawr y môr, ar ôl i'r asteroid daro'r Ddaear. Ar sail hyn, daethant i'r casgliad bod y mymryn lleiaf o fwyd yn cyrraedd y dyfnfor yn gyson.
At hynny, roedd y tîm yn gallu cyfrifo bod cyflenwad bwyd y cefnforoedd wedi'i adfer yn llawn tua 1.7 miliwn o flynyddoedd ar ôl i'r asteroid daro'r Ddaear, sef bron i hanner yr amcangyfrifon gwreiddiol, gan ddangos bod cadwyni bwyd y môr wedi gwella'n gyflymach nag y tybiwyd yn wreiddiol.
Dywedodd Heather Birch, myfyriwr PhD ym Mhrifysgol Caerdydd o Ysgol Gwyddorau'r Ddaear a'r Amgylchedd, a arweiniodd yr astudiaeth: "Fe wnaeth y trychineb byd-eang a achosodd ddiflaniad y dinosoriaid ddifrodi ecosystemau'r môr hefyd. Diflannodd ymlusgiaid morol mawr, fel y gwnaeth mathau amrywiol o infertebratau megis yr amonitau eiconig.
"Mae ein canlyniadau'n dangos bod rhai mathau o organebau sy'n ffotosyntheseiddio, fel algâu a bacteria, wedi byw ar ôl i'r asteroid daro'r Ddaear, er gwaethaf y ffaith i lawer iawn o organebau a oedd yn byw yn y dŵr ddiflannu fwy neu lai ar unwaith.
"Roedd hyn yn darparu'r mymryn lleiaf o fwyd ar gyfer organebau a oedd yn byw ger llawr y cefnfor, a'u galluogi i oroesi'r trychineb. Dyma ateb i un o'r hen gwestiynau ynglŷn â'r cyfnod hanes hwn.
"Er hynny, cymerodd bron i ddwy filiwn o flynyddoedd i gyflenwad bwyd y dyfnfor gael ei adfer yn llawn, wrth i rywogaethau newydd esblygu i feddiannu bylchau ecolegol a adawyd gan organebau diflanedig."
Ar hyn o bryd, mae llawer o wyddonwyr yn credu mai asteroid 10 km o led a darodd Benrhyn Yucatán ym Mecsico a achosodd i lawer iawn o fywyd ar y Ddaear ddiflannu tua 65 miliwn o flynyddoedd yn ôl. Credir bod malurion ar ôl i'r asteroid daro'r Ddaear wedi rhwystro ynni'r Haul rhag cyrraedd y Ddaear. Ar ôl i'r malurion setlo, credir eu bod wedi arwain at gloi nwyon tŷ gwydr yng ngwres yr Haul, gan achosi i'r tymheredd godi'n sylweddol.
Credir bod y cyfnod hwn o dywyllwch a ddilynwyd gan wres hynod boeth, sef y ffin Cretasig-Paleogene (Cretaceous-Paleogene boundary), wedi lladd bron i hanner holl rywogaethau'r byd.
Mae gwyddonwyr hefyd yn honni y byddai'r asteroid wedi llenwi atmosffer y Ddaear â sylffwr triocsid, gan greu cwmwl nwy a fyddai wedi achosi llawer iawn o law asid sylffwrig mewn ychydig ddyddiau, gan wneud wyneb y môr yn rhy asidig i greaduriaid y cefnfor uchaf fyw ynddo.