Ewch i’r prif gynnwys

Defnyddio prawf peritonitis diagnostig cyflym gyda chleifion am y tro cyntaf

20 Ebrill 2020

Peritonitis

Canlyniadau 'addawol' ar gyfer prawf pwynt gofal a ddatblygwyd gan Brifysgol Caerdydd a Mologic

Mae prawf diagnostig newydd ar gyfer peritonitis ar sail ymchwil dan arweiniad Prifysgol Caerdydd wedi'i ddefnyddio ymysg cleifion am y tro cyntaf.

Cafodd y prawf Periplex ei dreialu ymysg dros 100 o gleifion yn Royal Free Hospital, Llundain, mewn astudiaeth annibynnol dan arweiniad Dr Cate Goodlad. Yn ôl ymchwilwyr, cafwyd canlyniadau "addawol" sy'n awgrymu y gall fod yn ddefnyddiol iawn yn glinigol.

Nod y prawf yw canfod - neu ddiystyru - peritonitis, haint posibl ar leinin mewnol yr abdomen, a'r cymhlethdod mwyaf cyffredin yn sgil dialysis peritoneol (DP) ar gyfer methiant yr arennau.

Mae Periplex yn gweithio drwy ganfod lefelau uwch o foleciwlau'n ymwneud â haint mewn elifion dialysis yn gyflym.

Datblygwyd y teclyn gan Brifysgol Caerdydd a'r cwmni diagnosteg cyflym, Mologic, a chafwyd cyllid gan y Sefydliad Ymchwil Iechyd Cenedlaethol.

Dywed yr ymchwilwyr y bydd yn galluogi cleifion sy'n cael dialysis gartref i gymryd y prawf yno yn y pen draw. Bydd hyn yn arwain at osgoi teithiau diangen i'r ysbyty, sy'n arbennig o bwysig yn ystod pandemig y coronafeirws.

Mewn astudiaeth a gyhoeddwyd yn Kidney International, nododd defnydd cynta'r prawf ymysg cleifion ddiagnosis cywir o beritonitis yn 84% o bawb gafodd ganlyniadau positif gyda Pheriplex.

Rhywbeth sy'n hanfodol bwysig i’w nodi yw bod y prawf Periplex yn bositif ymysg dros 97% o bobl oedd â pheritonitis. Noda'r canfyddiadau hyn y byddai prawf negatif bron yn diystyru'n llwyr y diagnosis hwn, ac yn galluogi'r tîm clinigol i ganolbwyntio ar achosion posibl eraill o symptomau'r person.

Dywedodd yr Athro Matthias Eberl, o Ysgol Meddygaeth Prifysgol Caerdydd: "Ar hyn o bryd, mae diagnosis o beritonitis yn seiliedig ar symptomau fel poen yn yr abdomen, twymyn, elifion dialysis cymylog a chyfrif celloedd gwaed gwyn uchel - ond nid yw'r symptomau hyn wedi datblygu llawer bob tro, ac nid ydynt yn benodol i peritonitis.

"Mae angen prawf diagnostig cyflym ar bwynt gofal er mwyn cyflymu a gwella'r diagnosis, i wella rheoli'r claf ar y camau cyntaf, presgripsiwn a chanlyniadau'r haint."

Ar hyn o bryd mae tua 300,000 o gleifion ar DP ledled y byd, sy'n cynrychioli oddeutu 11% o'r boblogaeth ddialysis yn ei chyfanrwydd.

Gellir ymgymryd â DP gartref ac fel arfer mae'n cynnig ansawdd bywyd gwell a manteision clinigol pendant o'i gymharu â haemodialysis. Er hyn, mae peritonitis yn broblem fawr o hyd.

Ar gyfartaledd, mae cleifion sydd ar DP yn cael peritonitis unwaith bob dwy flynedd, a gall fod yn farwol i rai cleifion. Gall haint a llid hefyd arwain at y driniaeth yn methu'n hirdymor. Os yw hyn yn digwydd, yr unig opsiwn i achub bywyd y claf yw troi at haemodialysis neu gael trawsblaniad.

Dywedodd yr Athro Eberl: “Rydym yn gwybod nad yw'r risg o beritonitis yn ffactor i rai cleifion a meddygon wrth beidio â dewis DP a mynd am haemodialysis yn lle, sy'n fath o driniaeth fwy rhwystrol ac anymarferol.

"Bydd ein prawf yn rhoi tawelwch meddwl i gleifion sy'n poeni am beritonitis, a gyda lwc yn cynyddu nifer y bobl sy'n dewis DP fel triniaeth. Unwaith y bydd ar gael, bydd hefyd yn golygu llai o deithiau diangen i'r ysbyty i gleifion - sy'n hollol allweddol yn ystod pandemig feirws byd-eang."

Bydd prawf clinigol dilynol i ddilysu'r canlyniadau'n cael ei gynnal yn Ysbyty Syr Charles Gairdner yn Perth eleni.

Dywedodd yr Athro Nick Topley, sy'n athro emeritws ym Mhrifysgol Caerdydd: "Bydd hyn yn archwilio gweithrediad y prawf mewn lleoliad clinigol acíwt.

"Bydd yn arwain at gleifion yn gallu hunan-brofi o fewn y 12 mis nesaf. Gobeithio y bydd hyn yn arwain at allu cynnal profion cyflym am heintiau yn ehangach, a chanlyniadau gwell i gleifion."

Mae Prifysgol Caerdydd wedi cyhoeddi gwaith ymchwil o safon fyd-eang i DP dros y 25 mlynedd ddiwethaf. Mae'r gwaith diweddaraf wedi canolbwyntio ar ganfod heintiau'n gynnar er mwyn taclo'r cyfraddau afiachedd a marwolaethau sydd heb newid dros y degawd diwethaf.

Rhannu’r stori hon