Ewch i’r prif gynnwys

Tyfu meinwe llygad yn y lab

9 Mawrth 2016

Stem cells

Adfer golwg cwningod ar ôl trawsblaniad bôn-gelloedd

Mae gwyddonwyr wedi arddangos dull o gynhyrchu sawl math allweddol o feinwe llygaid o fôn-gelloedd dynol, mewn ffordd sy'n efelychu datblygiad y llygad cyfan.

Pan gânt eu trawsblannu i anifail sy'n dioddef o ddallineb cornbilennol, dangosir bod y meinweoedd hyn yn atgyweirio blaen y llygad, ac yn adfer golwg. Dywed gwyddonwyr y gallai hyn baratoi'r ffordd ar gyfer treialon clinigol dynol fydd yn cynnwys trawsblannu blaen y llygad i adfer golwg coll neu sydd wedi'i ddifrodi.

Mae tîm cydweithredol sy'n cynnwys ymchwilwyr o Brifysgol Caerdydd a Phrifysgol Osaka yn Japan yn disgrifio eu canfyddiadau heddiw yn Nature.

Mae'r llygad yn cynnwys meinweoedd arbenigol iawn sy'n deillio o amrywiaeth o gelloedd llinach yn ystod datblygiad.

Mae astudiaethau yn y gorffennol wedi dangos y gall mathau penodol o gelloedd, fel y rheini sy'n creu'r retina neu'r gornbilen, gael eu creu yn y labordy o fôn-gelloedd plwripotent. Fodd bynnag, nid yw'r astudiaethau hyn yn cynrychioli cymhlethdod datblygiad y llygad cyfan.

Mae'r astudiaeth ddiweddaraf hon yn adrodd am gynhyrchu sawl un o gelloedd llinach y llygad, gan gynnwys y lens, y gornbilen a'r gyfbilen, gan ddefnyddio bôn-gelloedd plwripotent dynol.

Mae'r gwyddonwyr wedi gallu dangos y gellir creu'r celloedd epithelial cornbilennol, a'u trawsblannu ar lygaid cwningod a gaiff eu dallu ar gyfer yr arbrawf, i atgyweirio blaen y llygad gyda llawdriniaeth.

Dywedodd cydawdur yr astudiaeth, yr Athro Andrew Quantock: "Mae'r gwaith ymchwil hwn yn dangos y gall gwahanol fathau o fôn-gelloedd dynol efelychu nodweddion y gornbilen, y lens a'r retina.

"Yn bwysig, mae'n dangos y gallai un math o gell - yr epitheliwm cornbilennol - gael ei dyfu ymhellach yn y labordy, ac yna ei drawsblannu ar lygad cwningen, lle'r oedd yn weithredol, gan adfer golwg y gwningen.

"Mae'n bosibl y gallai ein gwaith ddatblygu celloedd i drin rhannau eraill o'r llygad. Gallai hefyd baratoi'r ffordd ar gyfer treialon clinigol dynol yn y dyfodol, fydd yn cynnwys trawsblannu blaen y llygad i adfer golwg."

Caiff tua 4,000 o impiadau cornbilennol eu cyflawni gan y GIG bob blwyddyn, ac mae'r driniaeth hon yn gwbl ddibynnol ar roddwyr organau dynol.

Ariannwyd yr ymchwil gan Asiantaeth Ymchwil a Datblygiad Meddygol Llywodraeth Japan.