Ewch i’r prif gynnwys

Deall etholiadau Cymru

9 Mawrth 2016

Senedd Building in Cardiff Bay

Mae dau brosiect newydd am ddim yn cael eu lansio heddiw gan Brifysgol Caerdydd gyda’r nod i roi gwell dealltwriaeth i’r cyhoedd o’r datganoli yng Nghymru cyn etholiadau’r Cynulliad Cenedlaethol ym mis Mai.

Bydd y ddau brosiect, llyfryn ar-lein Canllaw i ddilyn Etholiad Cynulliad Cenedlaethol Cymru i Newyddiadurwyr Cymunedol a chwrs ar-lein Pleidlais Cymru a’r Alban 2016: Deall yr Etholiadau Datganoledig, yn rhoi gwybodaeth a gwell dealltwriaeth i bobl Cymru am Etholiad Cyffredinol Cymru sydd i ddod ym mis Mai.

Crëwyd y canllaw ar gyfer newyddiadurwyr hyperleol gan Ganolfan Newyddiaduraeth Gymunedol Prifysgol Caerdydd mewn partneriaeth â Chanolfan Llywodraethiant Cymru.

Mae Canolfan Newyddiaduraeth Gymunedol y Brifysgol, wedi’i lleoli yn yr Ysgol Newyddiaduraeth, Cyfryngau ac Astudiaethau Diwylliannol mawreddog, yn rhan o brosiectau ymgysylltu Trawsnewid Cymunedau sy’n arddangos ymrwymiad y Brifysgol i gymunedau Caerdydd, Cymru a thu hwnt.

Bydd y Canllaw yn archwilio sut all newyddiadurwyr drafod Etholiad Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn ddiogel ac effeithiol, a meithrin cysylltiadau â’u cymuned leol.

Bydd y canllaw ei hun yn rhoi gwybodaeth i newyddiadurwyr hyperleol am:

  • Offerynnau ymgysylltu ag etholiad a syniadau gan newyddiadurwyr cymunedol
  • Cyngor Cyfraith y Cyfryngau wrth drafod etholiadau 
  • Lledaenu data ar bleidleisio gwleidyddol 
  • Offer ar gyfer gwerthu eu herthyglau a’u safleoedd i’w cymunedau

Cynhelir y cwrs ar-lein, a grëwyd ar y cyd gan Ganolfan Llywodraethiant Cymru mewn partneriaeth â Phrifysgol Caeredin, am bedair wythnos yn ystod ymgyrch yr etholiad gan ganolbwyntio ar sut mae’r Cynulliad yn gweithredu.

Bydd y cwrs yn rhoi gwybodaeth i’r cyhoedd ynghylch:

  • Sut mae’r Cynulliad Cenedlaethol yn gweithredu a sut mae’r gwahanol systemau pleidleisio yn gweithio
  • Pwy a beth yw’r prif chwaraewyr yn yr etholiad 
  • Beth yw prif faterion yr etholiad
  • Dadansoddiad llawn o’r canlyniadau wedi'r etholiad a gynhelir  5 Mai

Wrth gyfeirio at y canllaw newydd, dywedodd Emma Meese, Rheolwraig Canolfan Newyddiaduraeth Gymunedol Prifysgol Caerdydd, “Roedd sylw hyperleol Etholiad Cyffredinol y llynedd ymysg y rhai mwyaf arloesol ac ymgysylltiol yn y Deyrnas Unedig.

“Rydym yn falch iawn medru arddangos gwaith rhagorol y newyddiadurwyr cymunedol ac anogwn ragor o ddarparwyr newyddion yma yng Nghymru i drafod Etholiad Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

“Mae newyddiadurwyr cymunedol yn chwarae rôl hanfodol yn y gwaith o hyrwyddo cyfranogiad democrataidd a sicrhau bod y rhai sydd mewn grym yn atebol. Rydym yn gobeithio y bydd y canllaw newydd hwn yn helpu hyd yn oed rhagor o newyddiadurwyr cymunedol yng Nghymru i gynhyrchu sylw cynhwysfawr yn y wasg ar gyfer yr Etholiad sydd i ddod.”

Ychwanegodd Lleu Williams, Rheolwr Canolfan Llywodraethiant Cymru ym Mhrifysgol Caerdydd, “Gydag etholiad ar gyfer y Pumed Cynulliad ar y gorwel, mae’n hanfodol bod yr etholwyr yn teimlo eu bod yn gallu ymgysylltu gyda materion y diwrnod.

“Mae gan Brifysgol Caerdydd rôl bwysig i’w chwarae wrth helpu pobl i ddeall datganoli yng Nghymru ac mae hon yn rôl rydym yn ei chymryd o ddifri.

“Mae’r canllaw ar gyfer newyddiadurwyr hyperleol a’r cwrs ar-lein yn enghreifftiau o’r modd y gallwn gefnogi democratiaeth yng Nghymru drwy sicrhau bod adnoddau o safon ar gael.”

Mae copi llawn o’r llawlyfr ar gael yma

 

Gallwch gofrestru am gwrs ar-lein yma