Ewch i’r prif gynnwys

Glanhau afonydd i frwydro’n erbyn newid hinsawdd

1 Mawrth 2016

Ephemera danica Green Drake

Lleihau llygredd afonydd yn cynnig "budd gwirioneddol" yn erbyn newid yn yr hinsawdd

Yn ôl ymchwil newydd gan Brifysgol Caerdydd a Phrifysgol Radboud yn yr Iseldiroedd, gall cynlluniau i wario £3 biliwn ar lanhau afonydd Cymru a Lloegr o dan ddeddfwriaeth Ewropeaidd hefyd helpu i frwydro yn erbyn newid hinsawdd.

Defnyddiodd y tîm astudiaethau labordy a thros 40,000 o samplau o afonydd Prydain i ddangos sut mae rhai anifeiliaid y dŵr yn llai abl i oddef tymheredd cynhesach mewn dŵr llygredig. 

Yn y labordy, roedd gwybed Mai megis y meilart gwyrdd (Effemera danica) a’r pry melynwyrdd (Serratella ignita) yn gallu goroesi tymheredd a oedd 3-5 °C yn uwch pan oedd digonedd o ocsigen o’i gymharu â phan nad oedd digon. 

Yn yr un modd, mewn afonydd yng Nghymru a Lloegr, mae ocsigeneiddio gwael, sy’n cael ei achosi gan lygredd, wedi lleihau nifer y rhywogaethau hyn yn sylweddol, ac yn enwedig mewn amodau cynhesach. 

Dyma'r tro cyntaf i astudiaethau maes ac astudiaethau labordy gael eu defnyddio fel hyn i asesu sut y gall lleihau llygredd helpu i addasu afonydd ar gyfer y newid yn yr hinsawdd.

"Mae pryfed dŵr oer, gan gynnwys llawer o wybed Mai, mewn tair gwaith cymaint o berygl mewn dŵr llygredig,” eglurodd uwch awdur yr astudiaeth, yr Athro Steve Ormerod. 

"Yn gyntaf, does dim cymaint o ocsigen mewn dŵr sydd â thymheredd uwch.  Yn ail, mae ar bryfed angen mwy o ocsigen i ymdopi a’u hanghenion wrth i'r tymheredd godi.  Yn drydydd, defnyddir ocsigen i ymddatod llygredd organig, ac mae hyn yn digwydd gyflymaf mewn dyfroedd cynhesach. 

"Mae'r tair effaith hyn yn golygu mai dyfroedd llygredig a chynnes yw’r cyfuniad gwaethaf."

Creda’r Athro Oremord y gall y canlyniadau hyn ysgogi trafodaeth ynglŷn â gwerth aelodaeth UE Prydain wrth ddiogelu'r amgylchedd. 

Er bod gweithredu cyfreithiau'r UE megis y cyfarwyddeb Fframwaith Dŵr yn gostus, meddai, yn ôl y dystiolaeth hon gallant arwain agweddau pwysig o wella a diogelu’r amgylchedd wrth i'r hinsawdd newid. 

Ychwanegodd Dr Isabelle Durance, Cyfarwyddwr Sefydliad Ymchwil Dŵr newydd Prifysgol Caerdydd:

"Mae ein gwaith yn cynnig gobaith gwirioneddol yn y frwydr yn erbyn newid hinsawdd. Mae angen inni ddod o hyd i ffyrdd o leihau effeithiau’r cynhesu yn y dyfodol, ac mae ein data yn dangos sut y gall rheoleiddio a lleihau llygredd fod yn wirioneddol fuddiol. 

"Mae ein dadansoddiadau yn y gorffennol yn dangos mai mewn afonydd trefol y mae Prydain wedi adfer gyflymaf ar ôl goddef llygredd. Yn aml, dyma lle gwelir yr effeithiau cynhesu mwyaf difrifol o ganlyniad i newid yn yr hinsawdd.”

Gwaith monitro hirdymor Asiantaeth yr Amgylchedd a Chyfoeth Naturiol Cymru sydd wedi darparu’r data maes helaeth ar gyfer yr astudiaeth. 

Cyhoeddir y gwaith yn y cyfnodolyn blaenllaw Global Change Biology .

Rhannu’r stori hon