Ewch i’r prif gynnwys

Treth Incwm a Chymru

24 Chwefror 2016

Image of coins and notes

Mae adroddiad newydd gan Ganolfan Llywodraethiant Cymru Prifysgol Caerdydd wedi rhybuddio bod angen ystyried yn ofalus y newidiadau posibl yn y modd y caiff Llywodraeth Cymru ei hariannu gan San Steffan i wneud yn siŵr na fydd Cymru gannoedd o filiynau o bunnoedd ar ei cholled o ganlyniad i ddatganoli Treth Incwm yn rhannol.

Mae'r adroddiad, "Treth Incwm a Chymru: Peryglon a Manteision y Model Datganoli Newydd", yn dangos y gallai cyllideb Cymru fod gannoedd o filiynau o bunnoedd ar ei cholled oherwydd y dull sydd wedi'i ddewis i ostwng grant bloc Cymru i gyfrif am y refeniw ychwanegol a geir drwy Dreth Incwm.

Mae'r adroddiad yn dilyn y trafodaethau sy'n mynd rhagddynt rhwng Llywodraethau'r Alban a'r DU ynglŷn â sut caiff y setliad ariannol a gaiff yr Alban o'r Trysorlys ei gyfrifo ar ôl datganoli Treth Incwm yn llawn.

Bron chwe blynedd ar ôl codi'r mater am y tro cyntaf, bydd Llywodraeth Cymru yn dechrau derbyn ei chyfran o'r tua £2biliwn o Dreth Incwm a delir gan drethdalwyr yng Nghymru cyn bo hir. Yn eu hadroddiad, mae academyddion Prifysgol Caerdydd yn dweud:

  • Mae cryn drafod wedi bod ynglŷn â manteision ac anfanteision yr egwyddor o ddatganoli Treth Incwm, ond nid yw'r ystyriaethau ymarferol sy'n gysylltiedig â datganoli materion ariannol yn rhannol wedi cael cymaint o sylw. Fodd bynnag, bydd llwyddiant datganoli treth er mwyn cynyddu grym ariannol a gwneud gwleidyddiaeth yng Nghymru yn wirioneddol atebol, yn dibynnu i raddau helaeth ar y dull a ddefnyddir gan y Trysorlys i ddyrannu arian i Gymru.
  • Mae datblygiadau o bwys wedi dod i'r amlwg ers gwaith Holtham a Silk y bydd angen eu hystyried wrth benderfynu sut i fynd ati i ddatganoli treth. Yn ddiweddar, mae gwahaniaeth sylweddol wedi bod o ran twf y boblogaeth yng Nghymru o'i gymharu â gweddill y DU. Cynyddodd y twf yng Nghymru lai na hanner cyfradd y DU yn gyffredinol rhwng 2008 a 2014. Gan amlaf, mae hyn yn golygu y bydd twf arafach yn y sylfaen dreth yng Nghymru. Yn ogystal, bydd polisi Llywodraeth y DU i gynyddu'r lwfans personol ar fyrder wedi golygu bod cyfradd anghymesur o incymau yng Nghymru wedi'i thynnu o sylfaen y Dreth Incwm o'i chymharu â'r DU yn gyffredinol. Byddai cam o'r fath yn lleihau cyllideb Cymru yn sylweddol pe ddefnyddir y dulliau a gynigir ar hyn o bryd i addasu grant bloc Cymru.
  • Mae'r hyn sydd wedi digwydd yn yr Alban wedi dangos y bydd y dadleuon hyn yn rhai dwys yn ôl pob tebyg. Drwy ddefnyddio'r tri dull a gynigir ar gyfer y system newydd o ddyrannu arian i'r Alban, mae'r adroddiad yn dangos y gallai cyllideb Cymru fod gannoedd o filiynau o bunnoedd ar ei cholled yn sgîl y dull sydd wedi'i ddewis i ostwng grant bloc Cymru i gyfrif am y refeniw ychwanegol a geir drwy Dreth Incwm.
  • O ystyried faint o arian sydd yn y fantol i Gymru, yn ogystal â bwriad Llywodraeth y DU i barhau i gynyddu'r lwfans personol, mae'n hanfodol bod pobl yn deall i'r dim y prif faterion sydd o dan sylw yn y drafodaeth hon a'r peryglon sy'n hysbys. Fel sydd wedi'u pwysleisio'n glir gan eraill, efallai na fydd yr atebion a gyflwynir yn ystod trafodaethau sy'n canolbwyntio ar yr Alban yn cynnig ateb derbyniol yng Nghymru o anghenraid lle mae'r amgylchiadau yn wahanol iawn.
  • Gan fod ansicrwydd o hyd, a'r ffaith nad oes unrhyw amserlen ffurfiol ar gyfer datganoli Treth Incwm i Gymru yn rhannol, mae'n rhy gynnar cael unrhyw drafodaethau cyn etholiadau'r Cynulliad am newid cyfraddau a pholisïau treth.

Wrth roi ei farn ynglŷn â'r materion a nodwyd yn yr adroddiad, dywedodd Ed Poole o Ganolfan Llywodraethiant Cymru: "Mae'r adroddiad hwn yn dadlau bod angen mynd i'r afael â nifer o faterion ymarferol sy'n gysylltiedig â datganoli Treth Incwm yn rhannol. Dylid croesawu'r atebolrwydd cynyddol a ddaw yn ei sgîl, ond ni ddylai cyllideb Llywodraeth Cymru fod ar ei cholled oherwydd canlyniadau anfwriadol polisïau treth Llywodraeth y DU fel newid y lwfans personol.

"Yn ystod tymor pum mlynedd y Cynulliad, gallai dull addasu'r grant bloc sy'n rhoi Cymru o dan anfantais, olygu y byddai cyllideb Cymru ar ei cholled o gannoedd o filiynau o bunnoedd. Mae'r ffaith y bydd hyn yn destun trafod dros gyfnod maith yn ôl pob tebyg yn golygu ei bod yn amhosibl dechrau cyfrifo cyfanswm effaith unrhyw newidiadau i gyfraddau Treth Incwm."

Ychwanegodd Guto Ifan o'r Ganolfan: "Mae ein hadroddiad yn cyd-fynd ag adolygiad yn 2015 gan Ganolfan Bingham ar gyfer Trefn y Gyfraith a argymhellodd bod angen sefydlu comisiwn dyfarnu annibynnol i gynghori'r Trysorlys ynghylch materion sy'n gysylltiedig â datganoli a grantiau. Byddai'r corff hwn hefyd yn gyfrifol am benderfyniadau pe byddai anghydfod rhwng y gwahanol lywodraethau'r DU na ellir eu datrys drwy'r prosesau gweinidogol ar y cyd."