Ewch i’r prif gynnwys

Hyder mewn Gofal

9 Chwefror 2016

father and son high five in park

Treial yn ceisio gwella cyfleoedd mewn bywyd i blant sy'n derbyn gofal yng Nghymru

Gwella cyfleoedd mewn bywyd i blant sy'n derbyn gofal ledled Cymru sy'n cael y prif sylw gan dreial pwysig newydd o dan arweiniad Prifysgol Caerdydd.

Dengys ffigurau diweddar gan elusen gofal maeth bod tua un plentyn o bob deg sy'n derbyn gofal yn y DU yn symud i leoliad arall o leiaf dair gwaith mewn blwyddyn.

Dengys data'r Llywodraeth bod plant sy'n derbyn gofal bedair gwaith yn fwy tebygol na'u cyfoedion o ddioddef problemau iechyd meddwl, yn llai tebygol na'u cyfoedion o wneud yn dda yn yr ysgol ac weithiau'n profi cam-drin pellach neu esgeulustod mewn lleoliad gofal.

Nod y treial 'Hyder mewn Gofal' sydd wedi'i hariannu gan y Loteri Fawr yw mynd i'r afael â hyn drwy helpu plant sy'n derbyn gofal i symud yn fwy llwyddiannus i fyd oedolion.

Bydd yn gwerthuso effeithiolrwydd cwrs hyfforddiant newydd 12 wythnos o hyd, sy'n darparu cyngor ymarferol a strategaethau sydd wedi'u dylunio i wella'r berthynas rhwng gofalwyr a phlant.

Mae'r cwrs hefyd am wella sut mae gofalwyr yn ymdopi â'u cyfrifoldebau gofal, yn ogystal â chynyddu eu sgiliau gofal.

Bydd llwyddiant y cwrs - o'r enw 'Fostering Changes'- yn cael ei werthuso drwy ddadansoddi adborth gan ofalwyr ar ôl ei gwblhau.

Bydd hefyd yn mesur pa mor dda mae gofalwyr yn teimlo eu bod yn gallu gofalu am y plant ar ôl eu hyfforddiant, a bydd yn ystyried unrhyw symudiadau heb eu cynllunio ac ymgysylltiad plant ag addysg.

Dywedodd cyfarwyddwr y treial, Dr Michael Robling, o Ganolfan Treialon Ymchwil Prifysgol Caerdydd:

"Mae'r treial yn gyfle cyffrous i brofi ymyriadau yn y sector gofal cymdeithasol yn drylwyr, ac mae'n dwyn ynghyd arbenigedd o ran dulliau treialu a gofal cymdeithasol plant o'r Brifysgol gyfan."

Drwy gynhyrchu tystiolaeth gadarn ynglŷn ag effeithiolrwydd tymor hwy'r cwrs Fostering Changes ar gyfer gofalwyr maeth a gofalwyr sy'n berthnasau, bydd y treial yn cyfrannu at y sail dystiolaeth ryngwladol ar wella canlyniadau i blant sy'n derbyn gofal.

Mae'r treial am recriwtio 490 o ofalwyr a chaiff ei gynnal tan 2017. Daw ar adeg pan fo pwysau cynyddol ar niferoedd y gofalwyr maeth.

Yn ôl y Rhwydwaith Maethu, mae angen tua 9,070 o deuluoedd maeth newydd ledled y DU eleni i ddarparu gofal sefydlog a chariadus ar gyfer plant.

Mae Hyder mewn Gofal yn gonsortiwm o'r sefydliadau blaenllaw sy'n gweithio gyda phlant sy'n cael eu maethu ac sy'n derbyn gofal yng Nghymru a ledled y DU, ac mae'n cynnwys Prifysgol Caerdydd, y Rhwydwaith Maethu, Gweithredu dros Blant, Barnardo's a TACT.