Ewch i’r prif gynnwys

Hwb Ariannol ar gyfer Arloesedd Clinigol

3 Chwefror 2016

Cells

£650,000 gan y Cyngor Ymchwil Meddygol (MRC) yn rhoi hwb i arloesedd yng Nghaerdydd

Mae Prifysgol Caerdydd wedi sicrhau £650,000 gan y Cyngor Ymchwil Meddygol (MRC) i gefnogi agenda arloesedd y Brifysgol. Cafwyd yr arian gan ddau o fentrau MRC, sef cynllun Confidence in Concept, a chronfa Proximity to Discovery: Industry Engagement.

Mae cynllun Confidence in Concept yn rhan o strategaeth ymchwil drosiadol MRC, ac yn rhan o Gatalydd Biofeddygol MRC / Innovate UK. Mae'r arian hwn yn darparu cefnogaeth ymatebol ac effeithiol ar gyfer y cyfleoedd trosiadol gorau sy'n codi yn y DU ym maes y gwyddorau bywyd.

Mae menter gysylltiedig MRC, cronfa Proximity to Discovery: Industry Engagement, yn cefnogi'r defnydd o ddulliau creadigol i feithrin perthynas gyda phartneriaid yn y diwydiant. Y nod yw sefydlu prosiectau cydweithio newydd drwy gefnogi rhyngweithio cynnar a chyfnewid gwybodaeth rhwng y diwydiant ac ymchwilwyr academaidd.

Dywedodd yr Athro Ian Weeks, Deon Cyswllt ar gyfer Arloesedd Clinigol yng Ngholeg y Gwyddorau Biofeddygol a Bywyd: "Rydym yn falch iawn ein bod wedi sicrhau'r arian hwn i gefnogi ein hagenda arloesedd. Mae'n gwbl hanfodol bod ein gwaith ymchwil yn troi'n therapïau newydd, ac yn ddyfeisiau meddygol a diagnostig newydd, er budd i gleifion. Bydd yr arian hwn gan y Cyngor Ymchwil Meddygol yn ein helpu i gysylltu â chydweithwyr yn y GIG a'r diwydiant, i gyflymu'r gwaith pontio hwn."

Mae'r dyfarniadau diweddaraf yn cyfrannu at gyfanswm o £1.325m a dderbyniwyd gan y Brifysgol gan y cronfeydd hyn yn ystod y tair blynedd ddiwethaf. Maent yn allweddol wrth gefnogi ymrwymiad y Brifysgol i bartneriaeth â'r GIG a'r diwydiant, er mwyn sefydlu llwybrau arloesol o sicrhau budd i gleifion, budd economaidd ym maes iechyd a chreu cyfoeth.

Rhannu’r stori hon