Ewch i’r prif gynnwys

Prosiect drilio dyfnfor i astudio hanes newid hinsawdd

29 Ionawr 2016

Boat
Image credit: John Beck, IODP/TAMU.

Yr Athro Ian Hall yn arwain taith i astudio dylanwad un o geryntau cefnfor cryfaf y byd ar newid hinsawdd byd-eang

Heddiw, bydd tîm rhyngwladol o ymchwilwyr, o dan arweiniad yr Athro Ian Hall o Ysgol Gwyddorau'r Ddaear a'r Amgylchedd ym Mhrifysgol Caerdydd, yn cychwyn ar eu taith i Gefnfor yr India. Eu nod fydd astudio un o geryntau cefnfor cryfaf y ddaear, Cerrynt Agulhas, a'i ddylanwad ar yr hinsawdd fyd-eang dros y pum miliwn o flynyddoedd diwethaf.

Bydd yr Athro Hall a'i dîm o Daith 361 Rhaglen Ryngwladol Darganfod y Cefnforoedd (IODP) (sy'n cynnwys yr Athro Stephen Barker a Dr Margit Simon, sydd hefyd o Brifysgol Caerdydd) yn defnyddio llong JOIDES Resolution i ddrilio'n ddwfn i lawr y môr oddi ar arfordir De Affrica. Eu nod fydd chwilio am dystiolaeth sy'n egluro rôl allweddol Cerrynt Agulhas wrth i'r hinsawdd wedi newid yn y gorffennol, a sut gall newidiadau tebyg effeithio ar y byd yr ydym yn byw ynddo heddiw.

Bydd creiddiau'r gwaddod y byddant yn eu casglu yn cynnig cipolwg ar orffennol Cefnforoedd India a'r Iwerydd, gan alluogi'r tîm i archwilio sut mae dŵr cynnes a hallt Agulhas wedi mynd o'r naill i'r llall.

Mae Cerrynt Agulhas, sy'n gannoedd o gilomedrau o led a miloedd o fetrau o ddyfnder, yn cludo llawer iawn o ddŵr cynnes a hallt o Gefnfor yr India i'r de i ben pellaf De Affrica.

Er bod y rhan fwyaf o lif y dŵr yn troi mewn cylch ac yn aros yng Nghefnfor yr India, mae rhywfaint o'r dŵr yn cael ei golli ac yn mynd i Gefnfor yr Iwerydd mewn chwyrliadau enfawr, a elwir yn gylchoedd Agulhas. Gall y dŵr cynnes a hallt hwn wneud ei ffordd i ogledd Cefnfor yr Iwerydd drwy Lif y Gwlff. Yno, mae'n oeri maes o law ac yn suddo, gan gludo rhagor o ddŵr i gyfeiriad y gogledd a chynnal llif gylchol a pharhaus ceryntau'r cefnforoedd mewn proses a wyddwn sy'n dylanwadu ar newid hinsawdd gogledd-orllewin Ewrop ac yn fyd-eang.

Dywedodd yr Athro Hall: "Mae gennym eisoes dystiolaeth gyffrous o greiddiau gwaddod sy'n awgrymu bod y dŵr sy'n cael ei golli o Gerrynt Agulhas, gan beri i ddŵr hallt a chynnes symud rhwng Cefnforoedd yr India a'r Iwerydd, wedi bod yn ffactor pan mae'r hinsawdd byd-eang wedi amrywio'n fawr yn ystod y 100,000 o flynyddoedd diwethaf, gan gynnwys y cyfnod pan gafwyd cynhesu byd-eang eithafol ar ôl yr oes iâ ddiwethaf.

"Drwy edrych yn agosach ar y creiddiau gwaddod hyn, rydym yn disgwyl dod o hyd i dystiolaeth o sut mae Cerrynt Agulhas wedi dylanwadu ar yr hinsawdd ranbarthol a byd-eang dros gyfnodau llawer hwy. Felly, bydd yn rhoi manylion am sut mae'r cysylltiadau o fewn y system hinsawdd yn gweithio.  Mae gan hyn oblygiadau ar gyfer deall sut gallai'r system hinsawdd weithio mewn byd sy'n cynhesu"

Fel elfen ddiddorol ac ychwanegol i'r daith, bydd y tîm ymchwil hefyd yn edrych ar rôl bosibl Cerrynt Agulhas a newid yn yr hinsawdd, yn esblygiad diwylliant dynol modern cynnar.

Dywedodd yr Athro Steve Barker: "Yn Ne Affrica, mae darganfyddiadau archaeolegol mewn ogofâu yn rhoi darlun rhyfeddol o rywfaint o'r dystiolaeth gynharaf o esblygiad diwylliant dynol modern. Mae'r diwylliannau datblygedig hyn o ganol Oes y Cerrig yn dangos sut roedd y meddwl dynol yn ffynnu rhwng 100,000 a 40,000 o flynyddoedd yn ôl.

"Mae ein hastudiaethau blaenorol o Gerrynt Agulhas wedi rhoi tystiolaeth gefndirol sy'n awgrymu y gallai rhai o'r newidiadau mawr hyn yn yr hinsawdd fyd-eang, y dylanwadwyd arnynt gan Gerrynt Agulhas, fod wedi chwarae rhan bwysig yn natblygiad y diwylliannau dynol cynnar hyn."

Bydd yr Athro Hall a'i dîm yn mynd ar long JOIDES Resolution ym Mauritius ar gyfer digwyddiad nodedig i Brifysgol Caerdydd. Bydd yr Athro Hall yn cael allweddi'r llong gan yr Athro Chris Macleod, sydd hefyd o Ysgol Gwyddorau'r Ddaear a'r Amgylchedd. Mae'r Athro Macleod wedi bod ar fwrdd y llong ers mis Rhagfyr yn arwain ei brosiect ei hun yn astudio cyfansoddiad cramen y cefnfor yng Nghefnfor yr India.

Dywedodd yr Athro Karen Holford, Dirprwy Is-Ganghellor, Coleg y Gwyddorau Ffisegol a Pheirianneg: "Mae'n braf gweld rôl mor hanfodol gan Brifysgol Caerdydd mewn arbrofion gwyddoniaeth sylfaenol sy'n ymchwilio i sut mae ein planed yn gweithio. Mae gweld dau o'n hymchwilwyr yn arwain teithiau olynol ar fwrdd llong JOIDES Resolution yn gamp aruthrol ar gyfer y Brifysgol, ac mae'n dangos effaith arwyddocaol y gwaith ymchwil a wneir gan Ysgol Gwyddorau'r Ddaear a'r Amgylchedd. Rwy'n dymuno pob lwc i'r Athro Hall ar ei daith, ac edrychaf ymlaen at groesawu'r Athro Macleod yn ôl i Gaerdydd ar ôl tri mis o waith ymchwil dwys yng Nghefnfor India."

Rhannu’r stori hon