Ewch i’r prif gynnwys

Gallai prawf arwain at driniaeth fwy effeithiol ar gyfer lewcemia

21 Ionawr 2016

Blood Cells

Prawf gwaed syml, sy'n gallu canfod lefelau o gelloedd lewcemia sy'n weddill ar ôl cemotherapi

Mae gwyddonwyr o Brifysgol Caerdydd yn rhan o dîm o'r DU sydd am ddatblygu prawf gwaed syml, sy'n gallu canfod lefelau o gelloedd lewcemia sy'n weddill ar ôl cemotherapi dwys. 

Gan weithio ochr yn ochr ag arbenigwyr o Goleg y Brenin yn Llundain, fe wnaeth tîm o Ysgol Meddygaeth Prifysgol Caerdydd, dan arweiniad Dr Robert Hills, ddarparu'r data hanfodol gan gleifion presennol sy'n dioddef o lewcemia. 

Mae'r prawf yn helpu i ragweld pa gleifion sy'n dioddef o lewcemia myeloid acíwt (AML) sy'n wynebu risg o weld y canser yn dychwelyd yn y dyfodol, gan helpu i roi arweiniad i feddygon ynglŷn â'r driniaeth bellach sydd ei hangen.

Bu Dr Robert Hills yn cydlynu'r treial clinigol ac yn casglu data ar gyfer y prosiect o'r Uned Treialon Clinigol Haematoleg yng Nghaerdydd. Meddai: "Mae'r data a gasglwyd gennym gan gleifion wedi rhoi gwybodaeth newydd i ni am lewcemia myeloid acíwt (AML).

"Drwy edrych ar y clefyd wrth i bobl gael triniaeth, cawsom gyfle unigryw i ddysgu llawer mwy am y driniaeth orau.

"Yr hyn yr ydym wedi gallu ei nodi yw grŵp o gleifion a fyddai fel arall yn cael eu hystyried yn rhai a fyddai'n ymateb yn gymharol dda. Mewn gwirionedd, mae ganddynt ragolygon gwael iawn, ac nid ydynt yn cael eu gwasanaethu'n dda ar hyn o bryd.

"Mae hyn yn arwain at y posibilrwydd cyffrous y gallwn wneud yr un peth ar gyfer grwpiau eraill o gleifion hefyd."

Rhoddir diagnosis o AML i oddeutu 2,400 o bobl bob blwyddyn yn y DU. Er bod cyfraddau goroesi yn hynod o wael yn gyffredinol, mae'r rhagolygon ar gyfer cleifion iau sy'n gallu goddef triniaeth ddwys yn well, ac mae dros hanner y cleifion dan 40 oed yn goroesi am o leiaf bum mlynedd.

Mewn gwaith ymchwil a gyhoeddwyd ar-lein yn New England Journal of Medicine, defnyddiodd gwyddonwyr brawf 'clefyd gweddilliol lleiaf' (MRD: minimal residual disease) i ragweld ailwaeledd, gan ddefnyddio samplau gwaed 346 o gleifion AML a oedd wedi cael dau rownd o gemotherapi.

Roedd y cleifion i gyd yn dioddef o AML a sbardunwyd gan ddiffygion yn y genyn NPM1 – sef is-fath genetig mwyaf cyffredin y clefyd, sy'n cyfrif am draean yr holl achosion.

Ariannwyd yr ymchwil gan elusen ganser y gwaed Bloodwise a'r Sefydliad Cenedlaethol ar gyfer Ymchwil Iechyd (NIHR), ac mae wedi'i wreiddio yn y treial AML17 a ariennir gan Ymchwil Canser y DU. Prifysgol Caerdydd sy'n noddi ac yn cynnal y gwaith ymchwil, o dan y Prif Ymchwilydd, yr Athro Alan Burnett.

Mae'r siawns orau o wellhad yn cynnwys cemotherapi ac, yn achos cleifion risg uchel, trawsblaniad cell stem. Er bod triniaeth ddwys yn llwyddo i wella'r canser fel arfer, mae ailwaeledd yn gyffredin iawn.

Fel arfer, dim ond cleifion sy'n wynebu risg uchel o ailwaeledd ac sy'n ddigon ffit sy'n cael trawsblaniad cell stem ar ôl cemotherapi.

Canfu'r ymchwilwyr fod profion MRD yn llawer gwell am ragfynegi ailwaeledd na'r dulliau presennol. Ar hyn o bryd, mae'r dulliau hyn yn dibynnu'n bennaf ar ddadansoddi abnormaleddau genetig yng nghelloedd canser cleifion unigol. Mae hyn yna'n dylanwadu ar p'un a ydynt yn cael eu pennu'n 'risg uchel' neu'n 'risg isel' ar ddechrau'r driniaeth.

Cynhaliwyd yr astudiaeth o fewn treial clinigol AML17 y Sefydliad Ymchwil Canser Cenedlaethol (NCRI), a oedd yn trin cleifion o bob cwr o'r DU, Denmarc a Seland Newydd. Roedd pob sampl a ddadansoddwyd gan ddefnyddio profion MRD gan gleifion y pennwyd eu bod yn wynebu 'risg arferol' o ailwaeledd, gan ddefnyddio profion sydd eisoes yn bodoli.

Gall y prawf MRD bennu a yw claf wedi 'gwella'n foleciwlaidd', sy'n golygu nad oes unrhyw arwyddion o foleciwlau diffygiol sy'n awgrymu bod celloedd lewcemia yn y gwaed. Gellir mesur hyn i sensitifrwydd o un gell lewcemia mewn 10,000 o gelloedd iach yn y gwaed.

Mewn 82% o achosion lle'r oedd y prawf MRD wedi canfod presenoldeb y genyn canser NPM1 mewn sampl gwaed ar ôl triniaeth, roedd y claf wedi dioddef ailwaeledd ymhen tair blynedd. Dim ond 30% o gleifion nad oedd dim celloedd lewcemia canfyddadwy yn eu gwaed ar yr adeg hon a ddioddefodd ailwaeledd yn y cyfnod hwnnw.

Dywedodd Alasdair Rankin, Cyfarwyddwr Ymchwil elusen Bloodwise, a ariannodd y gwaith ymchwil: "Mae'r driniaeth ar gyfer lewcemia myeloid acíwt yn wenwynig iawn, ac mae'r cyfraddau goroesi yn ofnadwy o isel, yn enwedig ymysg cleifion hŷn.

"Byddai triniaeth ymlaen llaw i atal ailwaeledd yn y cleifion sy'n wynebu'r risg uchaf yn lleihau lefelau'r driniaeth wenwynig sydd ei hangen, ac yn gwella ei siawns o lwyddo."