Ewch i’r prif gynnwys

Pharmabees yn mynd i ŵyl gwrw

9 Mawrth 2020

Mae tîm Pharmabees wedi cynnal stondin yn yr Ŵyl Gwrw, Jin a Seidr yn Undeb y Myfyrwyr. Cynhaliwyd y digwyddiad ar 27 a 28 Chwefror yn y Neuadd Fawr a daeth llawer o staff a myfyrwyr fel ei gilydd.

Roedd y tîm Pharmabees gerllaw i drafod priodweddau gwrthfacteriol mêl a chynhwysion botanegol a geir yn eu Cwrw Mêl, yr oeddynt yn ei werthu o’r stondin i godi arian ar gyfer eu gweithgareddau addysgiadol. Roedd y cwrw’n fenter rhwng yr Ysgol Fferylliaeth a Gwyddorau Fferyllol a Bragdy Bang On, BBaCh ym Mhen-y-Bont. Nod y fenter oedd codi ymwybyddiaeth o ymchwil Pharmabees i fêl, drwy ddull arloesol. Mae ymchwil yn yr Ysgol Fferylliaeth wedi canfod bod gan fathau penodol o fêl a chynhwysion botanegol gyfansoddion gwrthficrobaidd, ac mae’r cyfansoddion naturiol hyn wedi’u hymgorffori yn eu cwrw.

Ynghylch y digwyddiad, dywedodd yr Athro Les Baillie, arweinydd prosiect Pharmabees, “Roeddem am ddod i’r digwyddiad hwn i gefnogi Undeb y Myfyrwyr, ond rydym wedi synnu at gynifer o fyfyrwyr ddaeth i siarad â ni oedd wedi clywed am ein hymchwil yn barod. Mae rhai wedi gwirfoddoli i fod yn Llysgenhadon STEM hyd yn oed. Enghraifft dda iawn yw hon o ymchwil yn arwain dysgu, ac mae hyn yn galonogol iawn i’n prosiect.”

Rhannu’r stori hon