Ewch i’r prif gynnwys

Caerdydd ac Airbus yn chwalu dirgelion Deallusrwydd Artiffisial ar gyfer Seibr-ddiogelwch

28 Chwefror 2020

Two individuals looking at computer screens

Mae Airbus yn cydweithio ag arbenigwyr o Brifysgol Caerdydd i ddatblygu ffyrdd newydd o ganfod seibr-ymosodiadau gan ddefnyddio AI – a datrys dirgelion ‘blwch du’ canfyddedig algorithmau AI.

Mae’r gorfforaeth awyrofod o Ewrop, sy’n arweinydd byd ym maes seibr-arloesedd ac ymchwil, wedi ffurfio Partneriaeth Trosglwyddo Gwybodaeth uwch (eKTP) gydag Ysgol Cyfrifiadureg a Gwybodeg Caerdydd.

Dyfarnwyd cyllid i’r bartneriaeth i wella mabwysiad galluoedd canfod ac ymateb awtomatig trwy ddod o hyd i ffyrdd newydd o ‘esbonio’ sut mae AI wedi penderfynu bod presenoldeb maleisus ar y rhwydwaith, a phrofi hynny i arbenigwyr gweithrediadau.

Nodau’r prosiect yw lleihau cost seibr-ymosodiadau, ac ychwanegu at arbenigedd seibr-ddiogelwch blaenllaw’r cwmni.

Mae seibr-droseddu’n costio bron £460bn y flwyddyn i’r byd, gyda busnesau ar draws y byd yn wynebu colledion cynyddol o ganlyniad uniongyrchol i seibr-ymosodiadau.

Wedi’i ariannu’n rhannol trwy eKTP a ddyfarnwyd gan Lywodraeth Cymru ac Innovate UK, bydd Cydymaith yn gweithio gydag Airbus i wreiddio gwybodaeth a gallu newydd yng ngweithrediadau seibr-ddiogelwch rheng flaen Airbus, sy’n diogelu 130,000 o gyflogeion ledled Ewrop o Toulouse, trwy’r Seibr-Labordy newydd yng Nghasnewydd.

Dywedodd Kirsty Williams, y Gweinidog Addysg: “Cymru yw’r unig ran o’r Deyrnas Unedig sy’n cynnig y Bartneriaeth Trosglwyddo Gwybodaeth uwch.  Rwy’n falch bod Llywodraeth Cymru yn cefnogi’r prosiect hwn, ac rwyf wrth fy modd bod ein prifysgolion, ein busnesau a’n graddedigion yn elwa o fanteision y rhaglen ragorol hon.”

Yn ogystal ag ‘esbonio’ penderfyniad mai AI yn ei wneud, bydd yr eKTP yn datblygu dulliau newydd o brofi gwydnwch dulliau AI i ganfod technegau seibr-ymosodiadau sy’n esblygu ac yn tueddu i newid dros amser, yn ogystal â gwrthsafiad i ymdrechion i ‘ddrysu’ AI trwy fanipwleiddio’r algorithmau fel eu bod yn gwneud penderfyniad anghywir.

Bydd yr wybodaeth a ddatblygir yn sylfaen ar gyfer derbyn a defnyddio AI yn fwy cyffredinol ar draws Airbus trwy ddatblygiadau mewn AI esboniadwy, gwydn a diogel.

Dywedodd Dr Kevin Jones, Prif Swyddog Diogelu Gwybodaeth y Grŵp yn Airbus: “Mae Cymru yn rhan hanfodol o weithrediad byd-eang Airbus, ac mae’n addas bod ein harloesedd seibr-ddiogelwch yn ne Cymru yn chwarae rôl mor hollbwysig wrth ddiogelu ein busnes helaeth.

“Mae Airbus wedi meithrin cysylltiadau ardderchog â Llywodraeth Cymru a phrifysgolion fel Caerdydd dros lawer o flynyddoedd. Rwyf wrth fy modd y bydd hyn yn arwain at fwy o bartneriaethau, ac yn rhoi CyberLab Casnewydd ar flaen y gad o ran deall sut bydd Deallusrwydd Artiffisial yn trawsnewid seibr-ddiogelwch.”

Mae Pete Burnap, Athro Gwyddor Data a Seibr-ddiogelwch ym Mhrifysgol Caerdydd, yn aelod o Gyngor AI Llywodraeth y Deyrnas Unedig, sy’n gyfrifol am gefnogi’r ymrwymiad i strategaeth ddiwydiannol y Deyrnas Unedig ym maes AI a data, a’i llwyddiant.

Mae rôl allweddol i’r prosiect hwn wrth sicrhau bod “blwch du” Deallusrwydd Artiffisial yn cael ei ddatgloi, a bod penderfyniadau algorithmig yn cael eu gwneud yn dryloyw, er mwyn meithrin hyder ac ymddiriedaeth yn eu deilliannau a chynyddu’r nifer sy’n ei ddefnyddio mewn gweithrediadau seibr-ddiogelwch a fwyheir gan Ddeallusrwydd Artiffisial.

Yr Athro Pete Burnap

Bydd y prosiect yn cryfhau ymhellach y berthynas rhwng Airbus a’r Brifysgol wrth iddyn nhw gydweithio ar ystod eang o weithgareddau, gan gynnwys Canolfan Ragoriaeth Airbus ym maes Dadansoddi Seibr-ddiogelwch, a lansiwyd yn 2017.

Mae trefniant cydweithio amlddisgyblaeth Caerdydd gydag Airbus yn cynnwys meysydd o ddiddordeb i’r ddwy ochr, gan gynnwys deallusrwydd artiffisial ar gyfer seibr-ddiogelwch, modelu risg ac effaith uwch, a’r ffactorau dynol sy’n gysylltiedig â seibr-ddiogelwch a gwneud penderfyniadau mewn gweithrediadau diogeledd.

Bydd y bartneriaeth yn hybu ymhellach enw da Cymru am seibr-ragoriaeth ac yn cefnogi ei nodau, sef arwain mentrau ymchwil seibr-ddiogelwch a phartneriaethau ymchwil academaidd.

https://www.airbus.com/innovation/open-innovation/airbus-cyber-innovation.htm

Rhannu’r stori hon

Mae gan yr Ysgol, sy'n blaenoriaethu ymchwil, enw da am addysgu ardderchog a gweithgareddau ymchwil medrus rhyngwladol.