Ewch i’r prif gynnwys

Myfyrwraig yn feistres ar gyfieithu

14 Rhagfyr 2015

Efa Mared Edwards gyda'i chyfieithiad o lyfr Saesneg o'r enw Longbow Girl
Efa Mared Edwards gyda'i chyfieithiad

Mae Efa Mared Edwards, un o fyfyrwyr ôl-raddedig Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Caerdydd, yn dathlu lansiad ei chyfieithiad Cymraeg o nofel Saesneg Linda Davies, Longbow Girl.

Lansiwyd y cyfieithiad, Meistres y Bwa Hir, mewn digwyddiad arbennig yng Ngwesty Jury’s Inn yng Nghaerdydd ar Ddydd Gwener 27 Tachwedd 2015.

Graddiodd Efa gyda gradd dosbarth cyntaf yn y Gymraeg yn gynharach eleni ac mae hi nawr yn astudio am radd MA mewn Astudiaethau Cymreig a Cheltaidd. Yn ystod yr haf roedd yn gweithio gyda gwasg Atebol ger Aberystwyth pan gafodd y cyfle i gyfieithu’r nofel.

Merch bymtheg oed o'r enw Mari yw Meistres y BwaHirr ac mae byw ar fferm ym Mannau Brycheiniog. Mae’n dod o linach hir o feistri’r bwa hir, ond hi yw'r ferch gyntaf yn eu plith. Mae'n dod o hyd i hen lawysgrif o'r Mabinogion sy'n ei harwain at ddarganfyddiad mawr a fydd yn achub dyfodol ei fferm a'i theulu.

Dywedodd Efa am y profiad: “Y tymor hwn dwi’n canolbwyntio ar gyfieithu llenyddiaeth plant, felly roedd y profiad a gefais i dros yr haf yn werthfawr iawn. Ond mae ’na dipyn o wahaniaeth rhwng cyfieithu llyfrau lluniau i blant ifanc a chyfieithu nofel antur i'r arddegau! Mae'r ddau yn heriol yn eu ffyrdd eu hunain.”

Ychwanegodd Dr Dylan Foster Evans, sydd yn gyfrifol am yr MA mewn Astudiaethau Cymreig a Cheltaidd: “Mae Ysgol y Gymraeg yn ymfalchïo yn llwyddiant arbennig Efa. Mae astudiaethau cyfieithu a llenyddiaeth plant yn arbenigeddau nodedig yn yr Ysgol. Felly mae’n hyfryd gweld Efa yn datblygu ei sgiliau ym maes cyhoeddi proffesiynol.

“Fel Ysgol, rydym yn awyddus i gefnogi cyflogadwyedd ein myfyrwyr a’u paratoi ar gyfer y byd y tu hwnt i’r Brifysgol. Rydym yn meithrin sgiliau a chynnig profiadau i’w galluogi i wneud eu marc ar Gymru ddwyieithog yr unfed ganrif ar hugain.”

Rhannu’r stori hon