Ewch i’r prif gynnwys

Cipolwg newydd ar gromosom 21 a’i effeithiau ar syndrom Down

31 Ionawr 2020

Stock image of a chromosome

Mae gwyddonwyr wedi adnabod rhannau penodol o gromosom 21 sy’n achosi problemau i allu llygod â syndrom Down i gofio a phenderfynu.

Maent yn dweud mai hwn yw’r tro cyntaf mae’r rhannau wedi’u hadnabod - ac yn awgrymu y gallai’r canfyddiadau daflu goleuni newydd ar y cyflwr ymhlith bodau dynol.

Mae gan y rhan fwyaf o bobl 46 o gromosomau, sy’n cynnwys gwybodaeth enynnol ym mhob cell, ac maent wedi’u rhannu’n 23 pâr.

Ond mae gan bobl sydd â syndrom Down (DS) gopi ychwanegol o gromosom 21, sy’n cario dros 200 o enynnau.

Yn yr astudiaeth, a gyhoeddwyd yn Cell Reports, defnyddiodd ymchwilwyr yng Ngholeg Prifysgol Llundain, gyda chefnogaeth Prifysgol Caerdydd a Sefydliad Francis Crick, lygod fel modelau i geisio darganfod sut mae’r genynnau ychwanegol hyn yn achosi anabledd dysgu.

Mae cromosom 21 a’i enynnau hefyd i’w gweld mewn llygod.

Fodd bynnag, mae’r genynnau wedi gwasgaru i dair rhan lai ar dri chromosom llygoden gwahanol – 16, 10 a 17, sy’n cynnwys 148 genyn, 62 genyn a 19 genyn yn y drefn honno.

Meddai Dr Tara Canonica, ymchwilydd yn Ysgol Seicoleg Prifysgol Caerdydd: “Roedd hi’n gyffrous iawn arsylwi bod gan y tri grŵp genynnol bwysigrwydd gwahanol ar gyfer swyddogaeth y cof.

“Mae profion pellach yn ein labordy yng Nghaerdydd wedi estyn rôl hanfodol grŵp genynnol cromosom 10 ac 16, ond nid grŵp genynnol cromosom 17, i ystod ehangach o brofion gwybyddol.

“Mae ein canfyddiadau’n helpu i ddatglymu’r berthynas gymhleth rhwng gorddosio genynnol a thrafferth y cof gyda Syndrom Down.”

Dywedodd y cyd-awdur, yr Athro Matthew Walker o UCL, mai “syndod llwyr” oedd y canfyddiadau.

“Nid oeddem yn disgwyl y byddai’r tri grŵp genynnol gwahanol yn ymddwyn yn hollol wahanol,” meddai.

“Yn draddodiadol, mae gwyddonwyr wedi gweithio ar y rhagdybiaeth mai genyn unigol, neu enynnau unigol, oedd achos tebygol anableddau deallusol sy’n gysylltiedig â syndrom Down.

“Rydym wedi dangos – am y tro cyntaf – bod genynnau gwahanol a lluosog yn cyfrannu at yr amrywiaeth o broblemau gwybyddol sy’n gysylltiedig â syndrom Down.”

Edrychodd yr ymchwilwyr ar effeithiau’r genynnau ym mhob un o’r tair rhan wahanol o’r llygoden, ar ddysgu a’r cof.

Cafodd tri grŵp o lygod eu haddasu’n enynnol i gario copi ychwanegol o un o’r grwpiau genynnol ar y cromosomau llygoden a adnabuwyd.

Cafodd gallu cofio a phenderfynu pob grŵp ei fesur drwy brofion llywio, lle bu angen i’r llygod lywio eu ffordd drwy ddrysfa T chwith-de seml.

Cafodd gweithgarwch trydanol eu hymenyddiau eu monitro hefyd.

Canfu’r ymchwilwyr fod cof gwaeth gan un o’r mathau o lygod, a signalau ymennydd afreolaidd, yn rhan o’r ymennydd o’r enw hipocampws – sy’n bwysig i’r cof.

Hefyd, darganfuon nhw fod gan fath arall allu gwaeth i wneud penderfyniadau a bod signalu ymennydd gwael rhwng yr hipocampws a’r cortecs cyndalcennol, sydd ei angen ar gyfer cynllunio a phenderfynu.

Nawr, bydd ymchwilwyr yn ceisio darganfod pa enyn neu enynnau, o’r grwpiau genynnol llai, sy’n gyfrifol am allu gwaeth i gofio a phenderfynu.