Ewch i’r prif gynnwys

‘My Life in Music’ gan yr Athro Kenneth Hamilton

22 Ionawr 2020

Professor Kenneth Hamilton playing a piano

Yr Athro Kenneth Hamilton, Pennaeth yr Ysgol, yn talu teyrnged i’w rieni ar raglen BBC Radio 3, ‘My Life in Music’.

Bu’r Athro Hamilton yn archwilio’r syniad bod cerddoriaeth yn gallu bod yn rhy ddwys i’w goddef oherwydd atgofion cysylltiedig, ac yn rhannu sut cafodd ei feddwl ei lenwi gan waith John Dowland, ‘Now, oh now I needs must part’, pan fu farw ei fam yn ddiweddar.

Y rhaglen hon oedd darllediad cyntaf recordiad diweddar yr Athro Hamilton o ddarn Dowland, a drefnwyd gan Percy Grainger.  Bydd y recordiad yn rhan o’r albwm sydd ar fin cael ei ryddhau gan yr Athro Hamilton, ‘Romantic Piano Encores’, gan gwmni recordiau Prima Facie.

Yn y traethawd, mae’n dweud: ‘Efallai bod grym pob cerddoriaeth, hyd yn oed y campweithiau mwyaf, yn deillio’n rhannol nid o’r nodau ar y dudalen yn unig, ond o’r cysylltiadau cysegredig.  O’r amgylchiadau pryd y’i clywyd gyntaf, a’r atgofion a ddaw yn ei sgil fyth oddi ar hynny.  Mewn geiriau eraill, dyma sain hiraeth.  Hiraethu am y gorffennol.  Neu gallem ni ei ddehongli fel hiraeth am gael dychwelyd i ryw hen gartref a gollwyd.

‘Ymhlith milwyr cyflog o’r Swistir oedd yn gwasanaethu mewn gwledydd tramor yn yr 17eg ganrif, roedd cerddoriaeth yr alpau yn creu’r fath hiraeth nes bod gwaharddiad ar ei pherfformio’n gyhoeddus, gyda chosb marwolaeth, mae’n debyg, rhag i hynny agor llifddorau Pavlovaidd wrth i luoedd wrthgilio o’r catrodau.

‘Rwyf innau wedi cael fy ngwahardd rhag chwarae darn o gerddoriaeth ers blynyddoedd lawer.  A dyma fe, trefniant rhyfeddol Percy Grainger o waith John Dowland ‘Now, oh now I needs must part’.  Yn ffodus, rwyf wedi fy ngwahardd rhag perfformio’r darn mewn cyngherddau’n unig, nid rhag ei recordio.  Yn fwy penodol, mae’r gwaharddiad ar berfformiadau cyngerdd lle mae fy ngwraig yn bresennol, oherwydd all hi ddim goddef gwrando arno.

‘Fel yn achos hiraeth milwyr o’r Swistir, gwaharddiad yn sgil cysylltiad yw hwn.  Rheswm cwbl bersonol sydd gan fy ngwraig dros fethu goddef clywed y darn bendigedig hwn, sy’n eich cyffwrdd i’r fath raddau.  Fe’i chwaraeais yn angladd ei thad rai blynyddoedd yn ôl.  Bu farw’n llawer rhy gynnar, ac iddi hi, mae’r cysylltiad hwnnw bellach yn rhan annatod o’r darn.

‘Rai blynyddoedd yn ddiweddarach bu farw fy nhad innau. Roeddwn i yn yr Almaen ar y pryd.  Pan glywais i’r newyddion roeddwn i ar fy ffordd i berfformiad o ‘Twilight of the Gods’ gan Wagner.  Rhoddodd hyd nefolaidd gwaith Wagner bum awr dda i mi fyfyrio ar fywyd a marwolaeth fy nhad. Cefais gysur yn y diweddglo dyrchafol, gan fod ein bywydau ninnau’n parhau wrth i’r cord terfynol gwaredigol ddistewi.  Dyma byddai fy nhad wedi’i ddymuno.  Doedd yntau ddim yn un mawr am alaru.

‘Bu farw fy mam yn ddiweddar iawn.  Wrth iddi farw, roedd ei hoff ganeuon Ffrengig yn chwarae yn y cefndir, ond trodd fy meddwl innau yn ôl at ‘Now, oh now I needs must part’ gan Dowland.  Fe fues i’n myfyrio, nid yn unig ar ei marwolaeth, ond hefyd ar ei bywyd, a gychwynnodd yn hanner cyntaf yr 20fed ganrif - roedd hi’n 90 pan fu hi farw - a gorgyffwrdd yn sylweddol ȃ’r 21ain.

‘Byddai Grainger ei hun yn mwynhau chwarae’r darn hwn bob nos yn ei gartref yn White Plains, Efrog Newydd, cyn mynd i’r gwely.  Wrth ailadrodd yr alaw, mae’r dôn waelodol yn goroesi.  Ond nid cordiau o’r 16eg ganrif sydd o’i chwmpas bellach.  Yn hytrach, mae ar wely o harmonïau modern.  Dull cerddorol o deithio trwy amser sy’n esgor ar lu o atgofion. Taith bersonol o fyfyrio.  Drych, efallai, o daith bywyd fy mam, o’r 20fed ganrif i’r 21ain.

‘Ac ydy, mae’n drist, ond mae hefyd yn cynnig her chwerw-felys hiraeth.  Y positif a’r poenus gyda’i gilydd.  Mae’r gerddoriaeth yn hudol, yn bruddglwyfus, ac eto’n rhyfeddol o ddyrchafol.  Mae Grainger yn dewis cloi darn Dowland trwy ychwanegu ato.  Diweddglo hiraethus sy’n llawenhau yn yr atgofion.  Canmol bywyd a gafodd ei fyw, a bywyd a fydd yn parhau.  P’un ai yn y plant neu’r wyrion.

‘Mae’n rhoi cysur i mi, nid oherwydd ei fod yn fodd i mi ail-fyw gorffennol na allaf ei gyrraedd bellach, ond oherwydd ei fod yn fy atgoffa i fod yn ddiolchgar fy mod innau’n parhau ac yn cyflawni rhyw ran fechan o’r dyfodol.  Dyna rodd y gerddoriaeth i mi, ac yn y pen draw, dyna rodd fy rhieni i mi hefyd.’

Talodd Syr Nicholas Kenyon deyrnged i’r darllediad yn yr Observer, a disgrifiodd y darn fel “cyfraniad teimladwy [...] stori bersonol am golled a marwolaeth sy’n cael ei chyfleu’n glir dros donnau’r radio. Dyma enghraifft o ddarlledu ar ei orau.”

Mewn ymateb i lawer o geisiadau gan wrandawyr y sioe, mae cwmni recordiau Prima Facie wedi rhyddhau copi o ‘Now, o now, I needs must part’, ymlaen llaw, sydd ar gael i’w lawrlwytho am ddim.

Rhannu’r stori hon

Mae'r Ysgol yn cynnig amgylchedd cynhalgar lle gall myfyrwyr a staff weithio gyda’i gilydd ar amrywiaeth mawr o feysydd ysgolheictod cerddorol, cyfansoddi a pherfformio.