Ewch i’r prif gynnwys

Anrhydeddau Blwyddyn Newydd

9 Ionawr 2020

Professor Sophie Gilliat-Ray and Professor Ian Weeks
Professor Sophie Gilliat-Ray and Professor Ian Weeks

Mae llwyddiannau rhagorol arbenigwyr y Brifysgol wedi cael eu cydnabod ar restr Anrhydeddau Blwyddyn Newydd y Frenhines ar gyfer 2020.

Mae’r Athro Sophie Gilliat-Ray, o’r Ysgol Hanes, Archaeoleg a Chrefydd, yn derbyn OBE am wasanaethu Addysg a Chymunedau Mwslimaidd ym Mhrydain.

Mae gwaith yr Athro Gilliat-Ray yn canolbwyntio ar astudiaethau cymdeithasol, gwyddonol ac anthropolegol crefydd ym mywyd cyhoeddus Prydain, ac mewn sefydliadau cyhoeddus yn arbennig.

Mae hi wedi cynnal ymchwil helaeth i gaplaniaeth, yn enwedig mewn carchardai ac ysbytai, ers 1994. Mae cyfarwyddwr sefydlol Canolfan Islam-UK y Brifysgol, yr Athro Gilliat-Ray, wedi ymrwymo i ymchwil sy’n hyrwyddo dealltwriaeth o Islam a bywyd cymunedau Mwslimaidd ym Mhrydain.

Braint yw derbyn y gydnabyddiaeth hon. Hoffwn i ddiolch i’r rheiny a wnaeth fy enwebu, a’r llu o gydweithwyr a ffrindiau sydd wedi cefnogi fy ngwaith dros y blynyddoedd. Rwy’n arbennig o ddyledus i’r cymunedau Mwslimaidd Prydeinig hynny sydd wedi bod mor hael eu hanogaeth a’u cefnogaeth ac wedi bod yn ffynhonnell o ysbrydoliaeth i mi.

Yr Athro Sophie Gilliat-Ray Professor in Religious and Theological Studies, Head of Islam UK Centre

Mae’r Athro Ian Weeks, Deon Arloesedd Clinigol i Goleg Gwyddorau Biofeddygol a Bywyd y Brifysgol, wedi cael OBE am wasanaethu trosglwyddiad gwybodaeth ac arloesedd meddygol.

Ers dros 30 mlynedd, mae’r Athro Weeks wedi ymgymryd ag ymchwil ac arloesedd at ddiben datblygu profion diagnostig newydd ar gyfer clefydau dynol, a’u gweithgynhyrchu.

O ganlyniad i weithio gyda chydweithwyr o’r byd academaidd, y gwasanaethau iechyd a diwydiant, mae profion cyflym a chywir bellach ar gael i lawer o filiynau o gleifion ar draws y byd, gan gynnwys profion diagnostig ar gyfer canser, heintiau, diabetes a llawer o afiechydon eraill, yn ogystal â phrofion banc gwaed sy’n sgrinio gwaed a roddir am bathogenau megis HIV a hepatitis.

Mae diddordebau cyfredol yr Athro Weeks yn ymwneud â datblygiad “meddygaeth drachywir” lle mae gwybodaeth o sawl dull diagnostig yn cael ei dadansoddi ar yr un pryd gan ddeallusrwydd artiffisial er mwyn cynorthwyo gweithwyr gofal iechyd i bennu clefyd y claf yn fwy cyflym a chywir. Felly, bydd hyn yn hwyluso’r gwaith o bennu’r driniaeth fwyaf priodol yn gynnar.

Meddai’r Athro Weeks: “Rwyf wrth fy modd yn cael yr anrhydedd hon, sy’n tystio i sgiliau, arbenigedd ac ymrwymiad nifer o gydweithwyr ar draws ystod o wahanol sefydliadau cyhoeddus a sector preifat rydw i wedi bod yn ddigon ffodus i allu cael gweithio gyda nhw dros y blynyddoedd."

Mae cydweithrediadau o’r fath wedi rhoi’r cyfle i mi weithio mewn meysydd technoleg amrywiol yn ystod fy ngyrfa, ac mae’n glir bod cwmpas arloesedd meddygol yn gofyn am fewnbwn gan nifer enfawr o bobl â setiau sgiliau gwahanol er mwyn datblygu technolegau gofal iechyd sy’n cyflwyno manteision sy’n newid bywydau cleifion.

Yr Athro Ian Weeks Dean of Clinical Innovation

Fe gafodd yr Athro Phillip Jones o Ysgol Pensaernïaeth Cymru ei gydnabod ag OBE am wasanaethu pensaernïaeth a datgarboneiddio.

Ac yntau’n Gadair y Gwyddorau Pensaernïol a’r Sefydliad Ymchwil Carbon-Isel (LCRI), ac yn gyd-gyfarwyddwr Sefydliad Ymchwil Systemau Ynni’r Brifysgol, mae ymchwil yr Athro Jones yn canolbwyntio ar ddyluniadau ynni-isel, carbon-Isel a chynaliadwy yn yr amgylchedd adeiledig.

Yn 2015, datblygodd yr Athro Jones y tŷ ynni-positif cost-isel cyntaf ar y cyd â thîm o’r Ysgol.

Cafodd y tŷ ei ddylunio a'i adeiladu'n rhan o brosiect LCRI SOLCER, a hwn oedd y cyntaf i gyfuno sawl elfen am y tro cyntaf, sef llai o alw am ynni, cyflenwad ynni adnewyddadwy yn rhan o’r adeilad, a lle i storio ynni.

Mae’r Athro Jones hefyd wedi ymgynghori ynghylch yr amgylchedd ar gyfer prosiectau sy’n cynnwys dadansoddiad ynni o ddatblygiad Ynys Perl yn Qatar (2007), ffiseg adeiladu ar gyfer tŵr ynni-isel

Lighthouse a ddyluniwyd gan Atkins yn Nubai (2008) a dadansoddiad amgylcheddol o’r estyniad i Amgueddfa Kunsthaus yn Zurich (2011).

Fe yw Cadeirydd Bwrdd Cymru Gynnes CYF, rhaglen diddordeb cymunedol sy’n canolbwyntio ar leihau tlodi tanwydd ac yntau yw Cadeirydd Pwyllgor Cynghorol Rheoliadau Adeiladu Llywodraeth Cymru.

Meddai’r Athro Jones: “Rwyf wrth fy modd yn derbyn OBE am wasanaethu Pensaernïaeth a Datgarboneiddio. Hoffwn i ddiolch i bawb rydw i wedi gweithio gyda nhw dros y blynyddoedd am eu cefnogaeth. Dyma gydnabyddiaeth gadarnhaol am ein cynnydd tuag at amgylchedd adeiledig sero-carbon mwy cynaliadwy.”

Derbyniodd yr Athro Timothy Walsh, o’r Ysgol Meddygaeth, OBE am wasanaethu Microbioleg a Datblygiad Rhyngwladol.

Ers dros 20 mlynedd, mae’r Athro Walsh wedi bod yn astudio ymwrthedd gwrthficrobaidd (AMR).

Mae’n ficrobiolegydd arweiniol i Banel Cynghorol Arbenigol Cronfa Fleming – rhaglen adeiladu capasiti ymwrthedd gwrthficrobaidd gwerth £265 miliwn gyda diddordeb arbennig yn Nigeria, Pakistan a Bangladesh – ac mae’n gynghorydd i Sefydliad Iechyd y Byd, Canolfan Tsieina ar gyfer Rheoli ac Atal Clefydau a Médecins Sans Frontières.

Mae hefyd yn arwain prosiect sy’n archwilio baich sepsis ymhlith babanod newydd-anedig ym Mhakistan, India, Bangladesh, Rwanda, De Affrica, Nigeria ac Ethiopia. Hyd yn hyn, mae’r prosiect wedi cofrestru 36,000 o famau ac wedi dadansoddi 2,600 o achosion o sepsis.

Yn ddiweddar, dyfarnwyd grant MRC iddo i sefydlu system gwyliadwriaeth AMR ledled Fietnam ar y cyd â Phrifysgol Rhydychen a Chanolfan Ymddiriedolaeth Wellcome yn Hanoi. Ar ben hynny, mae’n cynnal astudiaethau clinigol sy’n archwilio baich AMR yng nghymuned ac ysbytai yn Sao Paolo (Brasil), Phitsanulok (Gwlad Thai) a Tanta (yr Aifft).

Ali Abdi
Ali Abdi

Rheolwr Partneriaethau’r Porth Cymunedol yw Ali Abdi, ac mae wedi cael BEM am wasanaeth gwirfoddol i gymuned BAME Caerdydd.

Ymunodd Ali â thîm Porth Cymunedol y Brifysgol ym mis Hydref 2015. Mae ei waith yn canolbwyntio ar feithrin partneriaeth lwyddiannus rhwng Prifysgol Caerdydd a chymuned Grangetown a rheoli digwyddiadau cymunedol ym Mhafiliwn Bowlio Grange.

Dywedodd Ali: “Roedd clywed fy mod i ar Restr Anrhydeddau Blwyddyn Newydd y Frenhines yn gryn syndod, ond wrth gwrs, rydw i wrth fy modd ac mae’n anrhydedd fawr. Mae helpu cymuned Grangetown yn rhywbeth rydw i wastad wedi’i wneud. Mae’n rhywbeth greddfol ac mae’n ymwneud ag ymdrechu i wneud gwahaniaeth ac nid er mwyn cydnabyddiaeth, er bod hyn yn newyddion annisgwyl ond dymunol i mi."

Rwy’n ymfalchïo mewn arwain nifer o ymyriadau er budd amrywiaeth a chynhwysiant sy’n gwneud prosiectau, gweithgareddau a rhaglenni’n fwy hygyrch i gymunedau BAME. Rydw i wedi gweithio gyda rhai pobl wych dros y blynyddoedd ac wedi dysgu ganddynt, a hoffwn i ddiolch iddyn nhw i gyd am eu cefnogaeth.

Ali Abdi Partnerships and Facilities Manager

Dyma’r cynfyfyrwyr sydd wedi cael cydnabyddiaeth:

  • Brian Wilson LVO (Dip.Ôl-radd 1971) – CBE
  • Martin Semple (Tystysgrif Ôl-radd 1991) - MBE
  • Richard Tuffrey (BSc 1980, Dip.Ôl-radd 1983) - MBE
  • Yr Athro Dr Jane Melton (BSc 1987) - MBE
  • Cerian Angharad (BSc 1992) - MBE
  • Yr Athro Elizabeth Hughes (BSc 1979) - MBE
  • Syr Thomas Hughes (MSc 2000) - OBE
  • Javad Marandian (BEng 1988) - OBE
  • Brian Ellam (BMus 1985) - BEM
  • Syr Keith Thomas FBA (Anrh 1995) – CH

Ceir rhestr lawn yr Anrhydeddau Blwyddyn Newydd 2020 yma.

Rhannu’r stori hon

Rydym yn rhagori mewn addysg, ymchwil ac arloesi ac yn adeiladu perthnasoedd wrth ddangos ein hymrwymiad i Gymru.