Ewch i’r prif gynnwys

Prifysgol Caerdydd a Circle IT yn cytuno ar bartneriaeth TG o bwys

10 Rhagfyr 2019

David Edwards (left), Director of IT, Cardiff University, and Roger Harry, Founder and Owner of Circle IT.
David Edwards (chwith), Cyfarwyddwr TG, Prifysgol Caerdydd, a Roger Harry, Sylfaenydd a Pherchennog Circle IT

Mae Prifysgol Caerdydd a darparwr atebion TG a gwasanaethau a reolir, Circle IT, wedi cyhoeddi partneriaeth o bwys fydd yn gweld isadeiledd rhwydwaith y Brifysgol a’i gwasanaethau cefnogi yn cael eu hailwampio’n sylweddol.

Bydd cytundeb y bartneriaeth yn cyflwyno mynediad gwifrog a di-wifr at y rhwydwaith i staff a myfyrwyr ar draws pob un o dros 300 o adeiladau’r Brifysgol dros y degawd nesaf.

Bydd defnyddwyr yn elwa ar welliannau i gapasiti data, gwydnwch y rhwydwaith, profiad Wi-Fi, diogelwch ac integreiddiad technolegau newydd.

Bydd hwn yn un o’r rhwydweithiau Wi-Fi mwyaf a gyflwynir yn Ewrop, gan gwmpasu miloedd o bwyntiau mynediad di-wifr a channoedd o switshys.

Mae’r Brifysgol yn gofyn am fynediad o safon uchel at y rhwydwaith er mwyn hwyluso gweithgareddau ymchwilio ac addysgu.

Mae gan Circle IT, o Gaerdydd, gofnod llwyddiannus o brosiectau tebyg, ac wedi ennill y contract ar ôl ymarfer caffael cystadleuol.

Bydd y prosiect yn cynnwys ambell i werthwr allweddol a ddewiswyd i gyflwyno rhwydweithio canolfan ddata, ymgynefino a gwasanaethau hanfodol eraill.

Meddai David Edwards, Cyfarwyddwr TG Prifysgol Caerdydd: “Rydym yn falch o ddod o hyd i bartner y gallwn ymddiried ynddi cymaint â Circle IT. Yn y pen draw, nhw oedd yn bodloni ein gofynion uchelgeisiol orau ar gyfer isadeiledd ein rhwydwaith.

“A ninnau’n brifysgol ar flaen y gad ym maes ymchwil, ac yn rhan o Grŵp Russell, mae’n hanfodol bod isadeiledd ein rhwydwaith yn galluogi’r ymchwil hon heb gyfyngu ar ein dyheadau.

“Bydd y rhwydwaith newydd yn hwyluso ein dysgu a’n haddysgu o’r radd flaenaf, ond ar ben hynny, bydd yn hanfodol er mwyn cynnig profiad ardderchog i’n myfyrwyr, p’un a ydynt ar y campws neu mewn preswylfa.

“Bydd y cyflwyniad hwn yn sail i hynny i gyd, ac mae’n hollbwysig i’r hyn yr ydym yn gobeithio ei gyflwyno yn y degawd nesaf.

“Hoffwn ddiolch i 4C Strategies (ymgynghorwyr annibynnol) a Blake Morgan (cyfreithiol) a’n helpodd ni gyda’r broses ddialog gystadleuol, gymhleth a thrylwyr ac i gyflawni’r deilliant oedd ei eisiau arnom.”

Dywedodd Roger Harry, Sefydlydd Circle IT: “Mae gennym lawer o barch at y tîm o Brifysgol Caerdydd a phopeth y maent wedi’i gyflawni, ac rydym yn falch o lansio’r hyn yr ydym yn siŵr fydd yn bartneriaeth hir a ffrwythlon.

“Y tu hwnt i’r cysylltiad Cymreig, mae gennym hanes cyfoethog o gyflwyniadau llwyddiannus ym maes addysg a dirnadaeth o ofynion y rhwydwaith, felly mae partneriaeth o’r fath yn gwneud synnwyr.

“Ar ben hynny, mae’n fantais wych i’r economi lleol, gan arwain at swyddi a chyfleoedd newydd yn ein cymuned gyffredin.”

Bydd y rhwydwaith newydd yn cefnogi TG y Brifysgol mewn meysydd lle ceir galw cynyddol am dechnoleg, megis e-ddysgu a data mawr mewn ymchwil ac arloesedd.

Bydd hefyd yn addasu i dechnolegau newydd sy'n dod i'r amlwg megis Deallusrwydd Artiffisial a Rhyngrwyd y Pethau er budd addysg ac ymchwil y Brifysgol.

Bydd Circle IT a’r Brifysgol yn gweithio gyda’i gilydd ar isadeiledd y rhwydwaith er mwyn galluogi’r Brifysgol i ehangu ei rhwydwaith a chael cefnogaeth ar gyfer gwasanaeth 24/7.

Hefyd, bydd y bartneriaeth yn bwydo i mewn i genhadaeth ddinesig y Brifysgol er mwyn gwella addysg, iechyd, cyfoeth a lles ei chymunedau.

Bydd cyfarpar y rhwydwaith blaenorol yn cael ei roi i elusennau ac ysgolion lleol, a bydd y contract yn creu nifer o swyddi newydd ac yn cynnig cyfleoedd i fyfyrwyr ddysgu a datblygu drwy leoliadau diwydiannol a darlithoedd gwadd.

Rhannu’r stori hon

Rydym yn cael dylanwad economaidd a chymdeithasol sylweddol ar Gymru a’r DU, ac rydym yn cyfrannu ym meysydd cyflogaeth, ariannu ymchwil a gweithgareddau dysgu ac addysgu.