Ewch i’r prif gynnwys

'Cynnydd cyflym' mewn cyflymder gwyntoedd

18 Tachwedd 2019

Wind turbines

Mae cyflymder gwyntoedd ar draws y byd wedi cynyddu'n gyflym dros y degawd diwethaf ac yn ôl gwyddonwyr, mae hynny'n newyddion da i'r diwydiant ynni.

Yn ôl canfyddiadau newydd, mae tueddiad oedd yn peri gofid, sef gostyngiad yng nghyflymder gwyntoedd ers y 1970au, ffenomenon a elwir yn ostegu daearol byd-eang, bellach wedi'i wyrdroi, a gwelwyd cynnydd sylweddol ers 2010.

Roedd cyflymder gwyntoedd arafach – yr awgrymwyd y byddent yn parhau dros y degawdau i ddod – yn gryn ofid i'r diwydiant ynni adnewyddadwy sy'n ffynnu, oedd yn gweld hynny fel bygythiad i ddull arfaethedig o gynhyrchu pŵer.

Erbyn diwedd 2019, roedd cyfanswm capasiti tyrbinau gwynt oedd wedi'u codi ar draws y byd wedi cyrraedd 597 gigawatt, gan fodloni hyd at 6 y cant o'r gofyn byd-eang am ynni.

Cyhoeddwyd y canfyddiadau newydd heddiw yn y cyfnodolyn Nature Climate Change.

Yn rhan o'r astudiaeth, dadansoddodd y tîm rhyngwladol, gan gynnwys gwyddonydd o Brifysgol Caerdydd, ddata a gymerwyd rhwng 1978 a 2017 o dros 9,000 o orsafoedd tywydd ar draws Ewrop, Gogledd America ac Asia.

Yn ôl y dadansoddiad, gostyngodd cyflymder gwynt blynyddol cymedrig byd-eang ar gyfradd o 2.3 y cant ym mhob degawd yn ystod y tri degawd cyntaf, gan ddechrau ym 1978.

Yn ôl eu cyfrifiadau, petai'r tueddiad hwnnw'n para hyd at ddiwedd y ganrif, byddai cyflymder gwyntoedd byd-eang yn gostwng 21 y cant, ac felly'n haneru faint o bŵer sydd ar gael yn y gwynt.

Eto i gyd, yn ôl y canfyddiadau, mae cyflymder gwyntoedd wedi cynyddu'n sylweddol ers 2010, ar gyfradd sydd deirgwaith yn fwy na'r gyfradd ostyngol cyn 2010.

Petai'r tueddiad hwnnw'n parhau am o leiaf degawd arall sy'n gynydd o 37 y cant, at ei gilydd.

"Mae'r cynnydd cyflym hwn yng nghyflymder gwyntoedd byd-eang yn sicr yn newyddion da ar gyfer y diwydiant pŵer", yn ôl cyd-awdur yr astudiaeth, Dr Adrian Chappell o Ysgol Gwyddorau'r Ddaear a'r Môr ym Mhrifysgol Caerdydd.

Mae'r gwyrdroad mewn gostegu daearol byd-eang yn argoeli'n dda ar gyfer cynyddu systemau cynhyrchu pŵer gwynt effeithlon, ar raddfa eang, yn y gwledydd lledred-canol hyn yn y dyfodol agos.

Yr Athro Adrian Chappell Reader in Climate Change Impacts

Yn yr astudiaeth, roedd y tîm hefyd wedi archwilio'r rhesymau posibl dros y gostyngiad yng nghyflymder gwyntoedd, cyn iddynt gynyddu wedyn. Mae astudiaethau blaenorol wedi awgrymu bod y ffaith bod y Ddaear yn arafu yn gysylltiedig â 'garwedd' cynyddol ar wyneb y Ddaear, wedi'i achosi gan drefoli a newidiadau mewn llystyfiant, sy'n gweithredu fel hidlydd, bron, ac yn arafu cyflymder gwyntoedd.

Fodd bynnag, mae'r tîm wedi dangos bod y ffenomenon yn gysylltiedig â newidiadau ym mhatrymau ar raddfa eang yn y môr a'r atmosffer. Yr hyn oedd yn fwyaf cyfrifol am lywio cyflymder gwyntoedd oedd Pendiliad Degawdol y Môr Tawel (PDO), Pendiliad Gogledd y Môr Iwerydd (NAO) a Mynegai Trofannol Gogledd y Môr Iwerydd (TNA).

Gan ei fod yn cymryd tua degawd i newidiadau yn y patrymau gwynt hyn ddigwydd, mae'r ymchwilwyr o'r farn y dylai cynnydd yng nghyflymder gwyntoedd barhau am o leiaf degawd arall.

Fodd bynnag, mwy na thebyg y bydd y patrymau yn y dyfodol yn arwain yn ôl at ostyngiad mewn cyflymder gwyntoedd, felly mae’r tîm yn o’r farn y dylai rhagweld y newidiadau hynny fod yn flaenoriaeth i'r diwydiant pŵer gwynt.

"Mae datblygiad ffynonellau ynni adnewyddadwy'n ganolog o ran cadw cynhesu islaw 2oC. Mae un megawatt o bŵer gwynt yn gostwng 1,300 tunnell o allyriadau carbon deuocsid ac yn arbed 2,000 litr o ddŵr, o'i gymharu â ffynonellau eraill o ynni," aeth Dr Chappell ymlaen i'w ddweud.

Cafodd yr astudiaeth ei harwain gan wyddonydd o Brifysgol Princeton yn UDA sydd bellach yn gweithio yn y Southern University of Science and Technology, Shenzhen, Tsieina.

Rhannu’r stori hon

Mae'r Ysgol wedi ymrwymo i sicrhau’r safonau uchaf mewn ymchwil ac addysg ac – o dan arweiniad ymchwil – i ddarparu amgylchedd cyfoethog ac amrywiol.