Ewch i’r prif gynnwys

Sylw i’r stori fer

15 Tachwedd 2019

Yn ddiweddar, lansiodd y darlithydd Dr Rhiannon Marks adnodd addysgiadol newydd sy’n canolbwyntio ar y Stori Fer Gymraeg.

Mae’r adnodd electronig, ‘Crefft y Stori Fer Heddiw’, i’w weld  ar wefan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn Llyfrgell y Coleg, ac yn cynnwys cyfweliadau gyda chwe awdur cyfoes ym maes y stori fer Gymraeg sef Fflur Dafydd, Jon Gower, Aled Islwyn, Caryl Lewis, Llŷr Gwyn Lewis a Mihangel Morgan.

“Dewisais gyfweld â’r awduron hyn er mwyn adlewyrchu’r lleisiau amrywiol a berthyn i’r stori fer Gymraeg yn ystod y tri degawd diwethaf. Ceir yma leisiau’n trafod y gwledig a’r dinesig, y real a’r afreal, gwahanol agweddau ar rywedd a rhywioldeb ynghyd â’r berthynas rhwng ysgrifennu stori fer yn y Gymraeg ac yn Saesneg.”

Dr Rhiannon Marks Uwch-ddarlithydd

Mae’n benllanw prosiect, a ariannwyd gan y Coleg, a ddechreuodd yn 2017. Fel rhan o weithgarwch y prosiect trefnodd Dr Marks symposiwm yn Ysgol y Gymraeg yn y gobaith o danio a datblygu trafodaeth gyfoes ynghylch y Stori Fer Gymraeg. Cafodd yr adnodd newydd ei ddatblygu yn sgil y  symposiwm hwnnw a ddenodd amryw o academyddion ac ymarferwyr creadigol at ei gilydd.

Mae lansio ‘Crefft y Stori Fer Heddiw’ hefyd yn cyd-fynd â charreg filltir bwysig yn hanes y stori fer Gymraeg gan ei bod yn 70 mlynedd ers cyhoeddi’r gyfrol Crefft y Stori Fer a olygwyd gan Saunders Lewis.

Dywed Dr Marks: “Rwyf wir yn gobeithio y bydd yr adnodd newydd yn fodd o ailedrych ar  y maes llenyddol pwysig hwn, sydd wedi ei anwybyddu’n feirniadol  ers cenhedlaeth a mwy. Mewn maes lle ceir prinder deunydd academaidd, gobeithio y bydd yr adnodd  hwn o ddefnydd i ystod o bobl gan gynnwys disgyblion blynyddoedd 12 a 13 ynghyd â myfyrwyr israddedig ac ôl-raddedig sy’n astudio ysgrifennu creadigol, llenyddiaeth gyfoes neu theori lenyddol.”

Archwiliwch Crefft y Stori Fer.

Rhannu’r stori hon

Mae'r Ysgol wedi ymrwymo i ddatblygu iaith, cymdeithas a hunaniaeth Cymru gyfoes drwy addysg ac ymchwil o'r safon uchaf.