Ewch i’r prif gynnwys

Rhaglen newydd yn sicrhau achrediad RGS

13 Hydref 2019

Mae rhaglen gradd israddedig newydd Ysgol Daearyddiaeth a Chynllunio Prifysgol Caerdydd wedi sicrhau achrediad gan y Gymdeithas Ddaearyddol Frenhinol (RGS).

Mae'r rhaglen newydd, BSc Daearyddiaeth Ddynol gyda Blwyddyn ar Leoliad Proffesiynol, yn amrywiad pedair blynedd ar raglen Daearyddiaeth Ddynol uchel ei bri yr Ysgol. Mae'n cynnig lleoliad gwaith cyflogedig fydd yn galluogi myfyrwyr i roi eu theori a'u gwybodaeth a gronnwyd yn y ddarlithfa ar waith mewn lleoliad gwaith proffesiynol.

Mae achrediad yr RGS yn cydnabod bod y rhaglen yn bodloni Meincnod Pwnc yr Asiantaeth Sicrhau Ansawdd ar gyfer Daearyddiaeth ac yn cadarnhau bod yr ‘wybodaeth, sgiliau a nodweddion eraill sy'n ddisgwyliedig mewn graddedigion daearyddiaeth ansawdd uchel yn cael eu cyflwyno.'

"Mae achrediad yr RGS yn sêl bendith ar ein cwricwlwm uchelgeisiol ac arloesol. Mae'n dangos ein bod wedi bodloni'r safonau addysg uchaf a bod ein rhaglen newydd yn berthnasol ac yn ymateb i'r trafodaethau byd-eang cyfredol a newydd ym maes daearyddiaeth ddynol."

Yr Athro Paul Milbourne Head of the School of Planning and Geography

Siaradodd yr Athro Milbourne hefyd am y penderfyniad i greu rhaglen bedair blynedd gyda lleoliad proffesiynol: "Rydym ni'n cydnabod cystadleurwydd y farchnad swyddi fyd-eang a hefyd yn cydnabod gwerth a phwysigrwydd sicrhau profiad proffesiynol i helpu i gyflymu dilyniant gyrfa. Mae ein graddau israddedig eraill i gyd yn cynnig blwyddyn ar brofiad gwaith proffesiynol ac rydym ni'n hynod o falch fod ein set nawr yn gyflawn gyda chymeradwyo'r rhaglen newydd. Bydd myfyrwyr sy'n dewis yr opsiwn pedair blynedd yn cael cyfle i ddefnyddio eu dysg yn ymarferol mewn lleoliad proffesiynol, boed yn y sector cyhoeddus, preifat neu drydydd sector. Byddan nhw'n datblygu eu hyder proffesiynol a'u gallu gan adeiladu eu rhwydwaith a'u proffil unigol, fydd yn eu helpu i lwyddo ar ôl graddio."

Mae'r rhaglen newydd ar agor am geisiadau i ddechrau yn 2020.

Mae gan yr Ysgol hanes hir o gydweithio'n agos gyda diwydiant a chyrff proffesiynol ym meysydd daearyddiaeth a chynllunio. Yn ogystal â'r achrediad yr RGS, mae gan raglenni gradd israddedig yr Ysgol achrediad gan y Sefydliad Brenhinol Cynllunio Trefol (RTPI) a Sefydliad Brenhinol y Syrfewyr Siartredig (RICS).

Rhannu’r stori hon

Mae'r Ysgol yn defnyddio meddwl beirniadol a gwybodaeth ymarferol i ddatrys problemau economaidd, amgylcheddol a chymdeithasol er mwyn mynd i'r afael â’r heriau mawr y mae cymdeithasau dynol a lleoedd yn eu hwynebu heddiw.