Ewch i’r prif gynnwys

Gweithio’n Fwy Effeithiol er Budd Eraill: Adnodd ar gyfer Mesur Cynnydd Cyrff Anllywodraethol

31 Hydref 2019

Man working at laptop

Mae academydd o Brifysgol Caerdydd wedi lansio adnodd arloesol fydd yn helpu cyrff anllywodraethol (NGOs) i fesur effeithiolrwydd eu gwaith.

Datblygodd yr Athro Gordon Cumming yr adnodd monitro a gwerthuso er mwyn annog elusennau, grwpiau gwirfoddol, sefydliadau cymunedol a mentrau cymdeithasol i werthuso eu gweithgareddau a chasglu tystiolaeth o’r gwaith ardderchog y maent yn ei wneud dramor ac yn y DU.

Gellir defnyddio’r wefan rad ac am ddim ar liniadur, ffôn symudol, yn y tŷ neu mas yn y maes. Mae’n cynnwys templedi, enghreifftiau wedi’u hegluro, geirfa, ymarferion rhyngweithiol a chompendiwm o ddulliau ymchwil, o gyfweliadau â hysbyswyr allweddol i grwpiau ffocws ac arsylwi cyfranogwyr.

I’w wneud yn fwy hygyrch, bydd tiwtorialau yn Saesneg, Cymraeg, Sbaeneg, Portiwgaleg a Tsieinëeg.

Mae’r Athro Cumming, o’r Ysgol Ieithoedd Modern, yn gweithio gyda chyrff anllywodraethol o Ffrainc, Prydain ac Affrica, ynghyd â sefydliadau gwirfoddol ers dros 15 mlynedd.

Meddai: “Nid oes modd gor-ddweud pwysigrwydd monitro a gwerthuso i gyrff anllywodraethol. Heb y mewnwelediad hanfodol i’w gweithgareddau yn y maes, mae’n amhosibl iddynt allu mesur pa mor llwyddiannus yw eu gwaith neu newid eu dull os yw eu gwaith yn dangos ei hun i fod yn wrthgynhyrchiol i’r cymunedau y maent yn eu gwasanaethu.”

“Wrth i’r gystadleuaeth am gyllid ddwysáu, mae’n hanfodol bod y rheiny sy’n gweithio yn y sector elusennol a gwirfoddol yn gallu dangos y gwaith y maent yn ei wneud – mae eu twf a’u cynaliadwyedd yn y dyfodol yn dibynnu arno.”

Cydiodd y syniad o’r wefan ym meddwl yr Athro Cumming tra ei fod yn ymweld â phrosiect grymuso menywod yn Kenya. Gofynnodd cydlynydd y prosiect, Tracy Pallant o Gelfyddydau Cymunedol y Cwm a’r Fro, corff anllywodraethol o Gymru, a Hyb Cymru Affrica, sy’n gorff cydlynol allweddol i gyrff anllywodraethol o Gymru, iddo greu pecyn offer. Roedd yn rhaid i’r pecyn hwn fod yn hygyrch i gyrff anllywodraethol llai oedd yn petruso ynghylch monitro a gwerthuso.

Datblygodd yr Athro Cumming broses a thri cham iddi er mwyn hwyluso gwaith monitro a gwerthuso - Dull 1-2-3 Llawn, sydd fwy neu lai’n cyd-fynd â gofynion y rhan fwyaf o roddwyr, yn ogystal â Dull 1-2-3 Cyflym, ar gyfer gwerthuso a hunanwerthuso cyflym.

Mae’r Athro Cumming bellach yn defnyddio’r wefan i gynnig hyfforddiant monitro a gwerthuso i wirfoddolwyr ar raglen ddysgu ryngwladol Llywodraeth Cymru. Mae’r rhan fwyaf o’r gwirfoddolwyr hyn eisoes yn rheolwyr profiadol ac yn mynd ar leoliadau i Uganda, Lesotho neu Namibia.

Ychwanegodd yr Athro Cumming: “Mae’r adnodd hwn eisoes yn dangos ei fod yn werthfawr i’r cyrff anllywodraethol yr ydw i’n gweithio â nhw. Rwy’n edrych ymlaen at weld sut mae’r adnodd yn eu helpu wrth iddynt ehangu eu gweithgareddau a’u datblygu ymhellach.”

Dywedodd Tracy Pallant o Gelfyddydau Cymunedol y Cwm a’r Fro: “Mae hon yn wefan hynod ddefnyddiol sy’n seiliedig ar ymchwil, a bydd yn trawsnewid y ffordd y mae cyrff anllywodraethol ar draws Cymru’n ymgymryd â gwaith monitro a gwerthuso.”

Ychwanegodd: “Mae’n hawdd ei dilyn ac mae’n cynnwys llawer o dempledi defnyddiol ac enghreifftiau wedi’u hesbonio. Mewn gwirionedd, defnyddiais i’r arbenigedd hwn a’r dull 1-2-3 mewn cynnig llwyddiannus am gyllid yn ddiweddar.”

Mae’r wefan ar gael i’w gweld yma: https://thetoolkit.me/

Rhannu’r stori hon

Yr Ysgol yw un o’r canolfannau ieithoedd modern mwyaf a mwyaf dynamig yn y Deyrnas Unedig.