Cyllid ar gyfer Gofal Cymdeithasol
29 Hydref 2019

Mae Prifysgol Caerdydd wedi nodi lansio grŵp ymchwil treth newydd i gynulleidfa o academyddion, ymarferwyr, llunwyr polisïau a phartneriaid eraill mewn digwyddiad ar ariannu gofal cymdeithasol yn Ysgol Busnes Caerdydd.
Nod Canolfan y Grŵp Ymchwil Treth Ryngddisgyblaethol (CITRG) yw cynnig llwyfan i ymchwilwyr, ymarferwyr a llunwyr polisïau sy'n gweithio oddi mewn a'r tu allan i'r maes trethu i drafod cwestiynau perthnasol i bolisi sydd â dimensiwn treth pwysig yn perthyn iddyn nhw.
Gan weithredu yn y cyd-destunau academaidd a llunio polisi, mae aelodau'r grŵp mewn sefyllfa dda i ddysgu o dueddiadau gweinyddu treth ar draws y byd a hefyd gyfleu'r profiad Cymreig i awdurdodaethau eraill.
Cydlynir CITRG ar y cyd gan Carla Edgley a Dr Dennis De Widt, o adran Cyfrifeg a ChyllidYsgol Busnes Caerdydd, ac mae ei ffurfio yn amserol o ystyried y pwerau trethu mae Cymru newydd eu caffael a thrafodaethau cyfredol ar gyflwyno trethi newydd.
Dywedodd Dr Dennis De Widt: “Mae'r digwyddiad Cyllido Gofal Cymdeithasol yn adlewyrchu'r dull rydym ni'n bwriadu ei feithrin gyda'n grŵp ymchwil newydd. Rydym ni'n dymuno cysylltu cwestiynau trethu a gweinyddu treth â materion cymdeithasol a pholisi eang...”

“Ond yn rhy aml mae trethu yn dal i gael ei weld yn faes arbenigol yn arwain at drafodaethau ar wahân sy'n rhwystro ymagwedd ryngddisgyblaethol.”
Cyd-destun, datrysiadau, deddfwriaeth
Roedd sesiwn gyntaf y digwyddiad yn canolbwyntio ar y sefyllfa cyllido bresennol ar gyfer gofal cymdeithasol yng Nghymru.
Rhannwyd safbwyntiau gan Nesta Lloyd-Jones o Gonffederasiwn GIG Cymru, Valerie Billingham o Age Cymru a Jonathan Price, Prif Economegydd Llywodraeth Cymru.
Daeth Simon Bottery, Uwch Gymrawd gyda The King’s Fund, â'r sesiwn agoriadol i ben drwy ddarparu golwg gymharol ac amlinellu'r cyd-destun cyllido gofal cymdeithasol yn Lloegr.
Ar ôl egwyl am luniaeth parhaodd y cyflwyniadau gan ganolbwyntio ar ddatrysiadau cyllido posibl ar gyfer yr heriau a wynebir mewn gofal cymdeithasol a goblygiadau treth a deddfwriaethol y datrysiadau sy'n cael eu hystyried.
Mwynhaodd y gynulleidfa gyflwyniadau gan Gerald Holtham, Athro ymweliadol ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd ac awdur yr adroddiad annibynnol Paying for Social Care, a John Cullinane, Cyfarwyddwr Polisi Treth yn y Sefydliad Treth Siartredig.
Daeth y digwyddiad i ben gyda thrafodaeth banel lle’r ymunodd Andy Fraser, Pennaeth Strategaeth Treth Llywodraeth Cymru, a Michael Trickey, Uwch-gymrawd Ymchwil Anrhydeddus ym Mhrifysgol Caerdydd â'r siaradwyr.
Dywedodd yr Athro Rachel Ashworth, Deon Ysgol Busnes Caerdydd, a agorodd y digwyddiad: “Er ein bod yn cael ein grwpio'n adrannau yn ôl disgyblaeth yn Ysgol Busnes Caerdydd, rydym ni bob amser yn gweithio ar draws y Brifysgol, ac yn wir yr Ysgol, i grynhoi ein syniadau a'n safbwyntiau...”

“Mae hynny'n cael ei adlewyrchu gyda ffurfio'r grŵp ymchwil treth hwn, sy'n dod â gwahanol fathau o academyddion at ei gilydd i ganolbwyntio ar drethu a meddwl amdano mewn ffordd wahanol.”
“Hoffwn longyfarch Clara a Dennis ar eu gwaith yn dod â'r grŵp i fodolaeth ac rwy'n edrych ymlaen at ei weld yn tyfu i gynnwys partneriaid ac ymarferwyr o bob rhan o'r rhanbarth a thu hwnt.”
Gallwch weld yr holl gyflwyniadau o'r digwyddiad Cyllido Gofal Cymdeithasol.
Rhagor o wybodaeth am Ganolfan y Grŵp Ymchwil Treth Ryngddisgyblaethol