Ewch i’r prif gynnwys

Canfyddiad ynghylch pysgod rhesog yn taflu golau newydd ar anhwylderau'r clyw mewn bodau dynol

23 Hydref 2019

Zebrafish

Mae astudiaeth ynghylch cyfansoddiad genetig pysgod rhesog (zebrafish) wedi cynnig cipolwg newydd ar yr hyn sy'n achosi anhwylderau cynhenid y clyw mewn bodau dynol.

Mae tîm sy'n cynnwys gwyddonwyr o Brifysgol Caerdydd wedi nodi sut all genynnau penodol bennu patrymau'r celloedd bach iawn - a elwir yn gelloedd blew - yn ein clustiau, sy'n ein galluogi i glywed a phrosesu synau.

Credir mai ffactorau genynnol sy'n achosi dros 50 y cant o bob achos cynhenid o golli'r clyw, ac ystyrir mai camosod neu niweidio celloedd blew bychan sy'n gyfrifol am nifer ohonynt.

Mae'r celloedd blew hyn yn bodoli yn eu miloedd yn y cochlea ac wedi'u 'tiwnio' i ymateb i synau gwahanol ar sail traw neu amledd.  Yr hyn sy'n achosi hynny yw nodwedd ar y cyd o'r enw 'polareiddio planar,' neu ogwydd y blew bach iawn o ran y modd y maent wedi'u gosod. Pan mae sain yn mynd i'r glust, mae'r blew yn trosi'r dirgryniadau sain yn signal trydanol a anfonir i'r ymennydd ac sy'n ein galluogi i'w adnabod.

Gan ddefnyddio pysgod rhesog fel dirprwy,  mae gwyddonwyr wedi taflu golau ar y modd y mae newidiadau i genynnau penodol yn newid y cyfeiriad cydlynol o ran y modd y mae'r celloedd hynny wedi'u gosod.

Cyhoeddwyd y canfyddiadau hyn yn y cyfnodolyn Nature Communications.

Mae gan bysgod rhesog gelloedd blew tebyg iawn ar hyd eu cyrff, o fewn yr hyn a elwir yn organ llinell ochrol, ac maent yn eu defnyddio i ddarllen gwahaniaethau mewn pwysedd yn y dŵr.  Yn hanfodol, gall pysgod rhesog ailgreu'r blew hyn pan maent wedi'u niweidio, gan gynnig cyfle delfrydol i wyddonwyr gynnal profion i ddeall beth sy'n digwydd pan mae rhywbeth yn mynd o'i le.

Yn fwyfwy, am ei bod yn anodd cael mynediad i'r glust fewnol, mae astudio gogwydd celloedd blew mewn bodau dynol yn gryn her.

Yn eu hastudiaeth, bu'r tîm yn ymchwilio'r genynnau sy'n sail i ddau lwybr signalu – PCP ac Wnt – sy'n bresennol mewn bodau dynol yn ogystal â physgod rhesog, ac y gwyddwn eu bod yn effeithio ar y ffordd y mae celloedd blew yn cydlynu eu gogwydd.

Drwy ddiffodd y genynnau hyn mewn modd systematig mewn pysgod rhesog, roedd y tîm wedi gallu astudio effeithiau lluosog hynny ar gyfeiriad y celloedd blew.

Roedd yn bosibl gwneud hynny gan ddefnyddio'r nodweddion ystadegol newydd a ddatblygwyd ym Mhrifysgol Caerdydd, wnaeth alluogi'r gwyddonwyr i fesur y mathau o batrymau celloedd blew fyddai'n cael eu creu, er enghraifft, wedi'u halinio i raddau helaeth mewn rhesi, heb eu halinio, neu wedi'u halinio mewn strwythurau cylchog.

Yn ôl y canlyniadau, yn ogystal â gallu dinistrio cysondeb patrwm y blew gwallt, roedd modd creu cyfeiriad ar hap i'r gell blew, ond gallai altro'r genynnau mewn ffordd benodol arwain at batrymau cylchog neu droellog i'r celloedd blew.

Yn ôl y prif awdur Joaquin Navajas Acedo, sy'n fyfyriwr yn Sefydliad Ymchwil Feddygol Ysgol Raddedig y Stowers: "Mae llinell ochrol y pysgod rhesog yn cynnig teclyn unigryw ar gyfer astudio'r broblem hon yn benodol, o ganlyniad i'w hygyrchedd a'i maint. Rydym ond yn dechrau deall y mecanweithiau rheoleiddiol cymhleth y tu ôl i'r broses gyffrous hon, a'n gobaith yw y bydd mwy o bobl yn dechrau defnyddio'r system hon i fynd i'r afael â'r broblem."

Yn ôl cyd-awdur yr astudiaeth, Dr Thomas Woolley o Ysgol Mathemateg Prifysgol Caerdydd: "Y canlyniad o bwys yw ein bod yn meddu ar ddealltwriaeth well o'r hyn sy'n effeithio ar gyfeiriad celloedd blew ac, yn yr un modd, beth allai fod yn mynd o'i le mewn bodau dynol. Mae'r mewnwelediadau hyn yn cynnig cyfeiriad newydd ar gyfer mynd i'r afael â phroblemau cynhenid â'r clyw."

Roedd gwyddonwyr o Brifysgol Caerdydd, Sefydliad Ymchwil Feddygol Stowers a Chanolfan Ymchwil Canser Fred Hutchinson yn rhan o'r astudiaeth.

Rhannu’r stori hon

Mae'r Ysgol yn ymrwymedig i addysgu, ysgolheictod ac ymchwil rhagorol, ac i gefnogi ei myfyrwyr i wireddu eu potensial academaidd.