Ewch i’r prif gynnwys

Mae’r Llwybr at Radd yn agor nifer o ddrysau

21 Hydref 2019

Judy Murray
Judy Murray

Roedd Judy Murray yn Llawfeddyg Orthopedig ond roedd ieithoedd a chyfieithu wastad wedi bod yn agos at ei chalon.  Roedd hi’n gwybod ei bod hi eisiau dychwelyd i astudio gradd yn y pynciau hyn a gwelodd fod y Llwybrau sy’n cael eu cynnig gan Addysg Barhaus a Phroffesiynol (CPE) yn berffaith ar gyfer gwireddu’r freuddwyd honno.

Ar ôl cwblhau’r llwybr rhan-amser, aeth Judy ymlaen i astudio gradd israddedig mewn Cyfieithu gydag Almaeneg a Sbaeneg yn yr Ysgol Ieithoedd Modern ym Mhrifysgol Caerdydd ac mae hi bellach yn frwd dros hyrwyddo’r cyfle hwn i ddysgwyr sy’n oedolion.

“Roedd y Llwybr at Ieithoedd Modern a Chyfieithu yn cynnig hyblygrwydd imi, roeddwn i’n gallu parhau i weithio’n rhan-amser wrth astudio ac roedd y tiwtoriaid yn gyfeillgar iawn ac yn barod iawn i helpu.  Rydw i wedi datblygu fy sgiliau cyfieithu ac wedi datblygu fy rhuglder mewn Almaeneg a Sbaeneg.  Bues i hefyd yn cymryd rhan mewn nifer o ddigwyddiadau ac fe wnes i fwynhau gallu cefnogi ac annog myfyrwyr eraill. Mae’r Llwybr at radd yn agor nifer o ddrysau ac yn ennyn diddordebau newydd.  Byddwn i’n ei argymell yn fawr!”

Mae Judy bellach yn astudio MA rhan-amser mewn Cyfieithu ym Mhrifysgol Caerdydd ac yn gwirfoddoli fel cyfieithydd.  Dyma ddymuno llwyddiant parhaus iddi.

Os hoffech ddatblygu eich sgiliau iaith/cyfieithu ac astudio gradd fel Judy, cysylltwch â Helga Eckart neu ewch i’n gwefan am ragor o fanylion.

Rhannu’r stori hon