Ewch i’r prif gynnwys

Renting pre-owned goods

20 Hydref 2019

Mae ar ymchwilwyr o Brifysgol Caerdydd eisiau deall mwy am gymryd rhan yn yr economi rhannu, fel ffordd fwy cynaliadwy o ddefnyddio nwyddau.

Er nad yw ymwybyddiaeth y cyhoedd erioed wedi bod mor uchel, dim llawer sy'n barod i wneud y newidiadau i'w ffordd o fyw sy'n angenrheidiol er mwyn mynd i'r afael â'r argyfwng newid hinsawdd. Mae Dr Nicole Koenig-Lewis a Dr Carmela Bosangit, dwy arbenigwraig marchnata o Ysgol Busnes Caerdydd, wedi ennill Grant Ymchwil Bach gan yr Academi Brydeinig/Leverhulme i ganfod rhagor o wybodaeth am agweddau defnyddwyr tuag at nwyddau ail-law a nwyddau newydd sbon, yn y gobaith y gallwn ni newid ein patrymau defnyddio i atal effaith ar ein planed na ellir ei gwrthdroi.

Trafodaethau gwerthfawr

Yn rhan o'r prosiect parhaus hwn, mae'r ymchwilwyr wedi bod yn trafod â sawl platfform economi rhannu am y profiadau a'r heriau sy'n codi wrth rentu nwyddau fel teganau a dillad, offer a nwyddau babi.

Mae'r trafodaethau gwerthfawr hyn wedi helpu'r tîm i ddeall sut a pham nad yw'r model busnes hwn wedi dod yn rhan o'r prif ffrwd eto, er gwaethaf ei botensial i fynd i'r afael â phroblemau sy'n ymwneud â gwastraff a newid hinsawdd.

Wrth fyfyrio ar eu trafodaethau â sawl platfform economi rhannu, dywedodd Dr Bosangit: “Mae busnesau wedi sylwi ar nifer cynyddol o ddefnyddwyr dros y blynyddoedd, ond roedden nhw'n pwysleisio pa mor bwysig yw sicrhau ymwybyddiaeth defnyddwyr, a'u haddysgu am y gwasanaethau sy'n cael eu cynnig er mwyn gallu gwerthfawrogi manteision rhentu nwyddau ar-lein.

“Dywedodd y rhan fwyaf o'r perchenogion busnes bod argymhellion ar lafar wedi'u helpu i dyfu eu busnesau.”

Dr Carmela Bosangit Lecturer in Marketing

Roedd ail gam y prosiect yn gweld y tîm yn ymchwilio i ochr arall y berthynas, wrth iddyn nhw gynnal cyfres o grwpiau ffocws ymysg defnyddwyr, gan archwilio i agwedd pobl at brynu a rhentu nwyddau ail-law.

Gan dynnu ar rai o ymatebion y defnyddwyr yn y grwpiau hyn, dywedodd Dr Koenig-Lewis: “Mae prynu nwyddau ail-law wir wedi dod yn fwy derbyniol i ddefnyddwyr, nid yn unig oherwydd ei werth economaidd ac ecolegol, ond hefyd ar gyfer eitemau moethus a gwydn, sy'n anodd dod o hyd iddyn nhw.

“Fodd bynnag, nid yw rhentu, sy'n ffordd fwy cynaliadwy o ddefnyddio nwyddau, prin yn cael ei ystyried. Y rheswm am hyn yw diffyg gwybodaeth, yr anghyfleustra sy'n cael ei ragweld, pobl yn anghyfarwydd â'r system, pryderon am ddiogelwch a halogiad, a'r canlyniadau posibl pe bai eitem yn cael ei ddifrodi neu'n mynd ar goll.”

Dr Nicole Koenig-Lewis Professor of Marketing

Mae arolygon ar-lein ac arbrofion wedi'u paratoi'n barod ar gyfer cam tri y prosiect. Bydd y tîm ymchwil yn defnyddio'r data sy'n cael eu cynhyrchu drwy'r dulliau hyn i archwilio agweddau ymwybodol ac anymwybodol pobl tuag at nwyddau ail-law, ac yn gwerthuso a oes stigma yn bodoli o hyd, sy'n gwthio penderfyniadau prynu.

Bydd cyfle i chi gael rhagor o wybodaeth am y prosiect yng Ngŵyl Gwyddorau Cymdeithasol Caerdydd, 6 Tachwedd 2019, 6–8pm yn Little Man Coffee Co.

Bydd y digwyddiad yn dod â'r cyhoedd, perchenogion busnes ac ymchwilwyr ynghyd i rannu eu profiadau a’u gweledigaeth ar gyfer dyfodol yr economi rhannu.

Bydd Dr Bosangit a Dr Koenig-Lewis yn rhannu eu canfyddiadau ymchwil diweddaraf. Yn ogystal, bydd cwmnïau newydd bach a gafodd eu hysgogi i gychwyn busnes i fynd i’r afael â phroblemau gorddefnyddio a gwastraff gormodol, yn rhannu eu straeon.

Rhagor o wybodaeth a chofrestru i fod yn bresennol.

Wedi'i hariannu gan y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol, mae Gŵyl y Gwyddorau Cymdeithasol yn rhedeg o 2–9 Tachwedd 2019, gyda dros 450 o ddigwyddiadau'n cael eu cynnal ledled y DU.

Bydd digwyddiadau'n trafod ystod eang o bynciau – deallusrwydd artiffisial, iechyd meddwl, rhywioldeb, rhiantu, y tywydd, rhywedd, heneiddio, cariad, marwolaeth, economeg ac addysg, ymysg eraill.

Rhannu’r stori hon

We are a world-leading, research intensive business and management school with a proven track record of excellence.