Ewch i’r prif gynnwys

Yswirwyr blaenllaw yn cydnabod gwaith ymchwil i berygl ar-lein

1 Rhagfyr 2015

tab on computer showing Twitter URL

Ymchwilwyr o'r Brifysgol yn ennill gwobr am ddatblygu dulliau newydd o ganfod dolenni maleisus ar Twitter

Mae dulliau canfod lledaeniad maleiswedd dros y cyfryngau cymdeithasol, a ddatblygwyd gan ymchwilwyr yn yr Ysgol Cyfrifiadureg a Gwybodeg, wedi'u cydnabod gan un o arbenigwyr blaenllaw'r byd ar ymdrin â risg.

Cyflwynodd Lloyd's, marchnad yswiriant arbenigol y byd, yr ail wobr yn y categori 'Perygl Ar-lein' i Dr Pete Burnap, yn ystod seremoni wobrwyo flynyddol Gwobr 'Science of Risk', ddydd Gwener (27 Tachwedd).

Cafodd Dr Burnap a'i dîm, yn gynnwys Amir Javed, Dr Shahzad Awan a’r Athro Omer Rana, eu cydnabod am y dulliau arloesol maent wedi eu datblygu i adnabod ymosodiadau ar-lein a gaiff eu cuddio fel URLs byr ar Twitter.

Dywedodd y beirniaid fod y papur sy'n gysylltiedig â'r gwaith ymchwil "yn cynnwys dadansoddiad ac ymchwil gwych...a fyddai o ddefnydd rhagorol i yswirwyr, yn ogystal ag o fudd ehangach i'r gymdeithas.

Gall y system a ddatblygwyd gan dîm Dr Burnap adnabod ymosodiadau posibl ar-lein o fewn pum eiliad gyda hyd at 83% o gywirdeb, ac o fewn 30 eiliad gyda hyd at 98% o gywirdeb, wrth i ddefnyddiwr glicio ar URL ar Twitter gan achosi ifaleiswedd niweidio'r ddyfais.

Drwy ddadansoddi gweithgarwch cyfrifiadurol, y gobaith yw y gallai'r gwaith ymchwil newydd hwn ddatblygu system amser real yn y pen draw, a all amddiffyn defnyddwyr Twitter a Facebook. Mae Dr Burnap a'i gydweithwyr yn gobeithio asesu dibynadwyedd y system drwy ddadansoddi negeseuon Twitter yn ystod Pencampwriaethau Pêl-droed Ewrop yr haf nesaf.

Wrth dderbyn y wobr, dywedodd Dr Burnap: "Rydym yn falch iawn bod ein gwaith ymchwil yn cael ei gydnabod gan un o arbenigwyr blaenllaw'r byd o ran ymdrin â risg a delio ag ansicrwydd. Yn ei strategaeth diogelwch cenedlaethol ddiweddar, cyhoeddodd y llywodraeth ei nod i roi mesurau arloesol ar waith i gryfhau diogelwch ar-lein yn y DU. Credwn y gall ein gwaith gyfrannu at well dealltwriaeth o risg ar-lein, o ran masnach a llywodraeth."

Mae Gwobr Science of Risk, a gynhaliwyd am y chweched flwyddyn yn olynol, wedi'i dylunio i herio ymchwilwyr ac yswirwyr i ymestyn eu syniadau. Cyflwynwyd y wobr gan Tom Bolt, Cyfarwyddwr Rheoli Perfformiad Lloyd's.

Rhannu’r stori hon