Ewch i’r prif gynnwys

Cynfyfyriwr Victoria Savage yn ennill gwobr Gweithiwr Proffesiynol Newydd y Flwyddyn G4C

26 Medi 2019

Victoria Savage
Victoria Savage

Mae'r cynfyfyriwr Victoria Savage wedi ennill Gweithiwr Proffesiynol Newydd y Flwyddyn yng ngwobrau Rhagoriaeth Adeiladu G4C (Generation for Change).

Rhoddir Gwobr Gweithiwr Proffesiynol y Flwyddyn i ymgeiswyr sydd wedi cwblhau astudiaethau proffesiynol o fewn y sector adeiladu a'r amgylchedd adeiledig o fewn y 36 mis diwethaf, ac sy'n 'dangos rhagoriaeth yn y diwydiant: gan ymdrechu i wneud cyfraniadau mawr i'r diwydiant wrth ddangos perfformiad rhagorol yn eu maes arbenigedd, a bod gam o flaen eu cydweithwyr'.

Graddiodd Victoria, pensaer yn Scott Brownrigg, gydag Theilyngdod ar Ddiploma Ymarfer Proffesiynol (DPP) Ysgol Pensaernïaeth Cymru yn 2018. Cyn hynny fe wnaeth hi gwblhau'r BSc a MArch yn yr Ysgol.

Wrth sôn am y DPP, dywedodd Victoria:

"Mae'r cwrs yr Athro Lupton yn rhoi hyder i chi yn eich gallu, ac mae'n amlwg bod y cynfyfyrwyr wedi mynd yr ail filltir i wneud yn siŵr eu bod yn gallu gwneud gwaith da, yn hytrach na dim ond cyrraedd y marc isaf er mwyn llwyddo. Byddwn i'n argymell y cwrs DPP yn Ysgol Pensaernïaeth Cymru i unrhyw un sydd am wneud mwy na dim ond llwyddo yn yr arholiad terfynol, ac sydd am ddechrau ymarfer yn y proffesiwn ar y lefel y byddant yn parhau i'w wneud yn eu gyrfa, a gweithio hyd eithaf eu gallu.

Diolch Manos Stellakis a Sarah Lupton am fy arwain drwy fy astudiaethau proffesiynol, rydw i'n falch iawn i fod yn un o gynfyfyrwyr Ysgol Pensaernïaeth Cymru."

Yr Athro Sarah Lupton sy’n cyfarwyddo’r Diploma mewn Ymarfer Proffesiynol, ynghyd â’r cwrs Meistr mewn Gweinyddu Dylunio newydd.

Mae Sarah yn fwy na pharod i ymateb i ymholiadau ynglŷn â’r ddwy raglen. Ebostiwch lupton@caerdydd.ac.uk.

Rhannu’r stori hon