Ewch i’r prif gynnwys

Traethawd Hir Logisteg y Flwyddyn

2 Medi 2019

Neon sign

Bydd myfyriwr ôl-raddedig o Brifysgol Caerdydd yn derbyn Gwobr Traethawd Hir y Flwyddyn yng Nghynhadledd y Rhwydwaith Ymchwil Logisteg ar 5 Medi 2019.

Noddir y wobr gan y Sefydliad Siartredig Logisteg a Thrafnidiaeth (CILT), ac mae'n un o ddwy a gyflwynir yn y gynhadledd sy'n dathlu rhagoriaeth traethodau hir israddedig ac ôl-raddedig ym meysydd logisteg, y gadwyn gyflenwi a rheoli gweithrediadau.

Yn ogystal â thystysgrif mewn ffrâm, bydd Zepeng Wu, sy'n astudio'r MSc Logisteg a Rheoli Gweithrediadau yn Ysgol Busnes Caerdydd, yn derbyn siec am £250 yng nghinio'r Gynhadledd a drefnir gan Brifysgol Northampton.

Teitl ei draethawd oedd “Catering food waste management in the UK: A novel cause-effect diagram using Multi-Criteria Decision Making (MCDM)” ac fe'i cyd-oruchwyliwyd gan Dr Irina Harris a Dr Ahmed Mohammed. Mae'r traethawd yn canolbwyntio ar y sector gwasanaeth bwyd (siopau coffi, bwyd i fynd, tai bwyta a thafarndai) yng Nghaerdydd.

Mae'n edrych ar alluogwyr gwastraff bwyd ar lefelau Pwrcasu a Storio, Prosesu, strategaeth Gweithredu, Pobl a Defnyddwyr. Mae'r ymchwil yn cynnig dealltwriaeth newydd, yn categoreiddio galluogwyr a nodir fel achosion ac effeithiau, ac yn awgrymu argymhellion i liniaru achosion gwastraff bwyd.

Dywedodd Dr Harris, Dirprwy Bennaeth yr Adran ac Uwch-ddarlithydd mewn Logisteg a Modelu Gweithrediadau yn Ysgol Busnes Caerdydd: “Hoffwn longyfarch Zepeng ar y llwyddiant gwych hwn...”

Mae'r LRN yn rhwydwaith anffurfiol o academyddion, ymchwilwyr, ymarferwyr ac unigolion eraill â diddordeb sy'n gweithio ym maes logisteg, rheoli'r gadwyn gyflenwi a rheoli gweithrediadau.

Prif amcan y Rhwydwaith yw hwyluso cynhyrchu, hyrwyddo a lledaenu ymchwil perthnasol a thrwy hynny, wneud cyfraniadau effeithiol i broffesiynau logisteg, rheoli'r gadwyn gyflenwi a gweithrediadau.

Rhannu’r stori hon

Find out more about the ways in which your organisation can work with our students, including placements and live projects.