Ewch i’r prif gynnwys

Y newidiadau y mae eu hangen ar gyfer plant o Gymru sydd mewn llety diogel

18 Medi 2019

Teenage girl sat on bed looking sad

Mae astudiaeth tirnod wedi canfod bod angen sawl newid i wella’r system llety diogel ar gyfer plant o Gymru.

Yr adroddiad, Profiadau a chanlyniadau pobl ifanc o Gymru sy’n derbyn Gorchmynion Llety Diogel, oedd y cyntaf o’i fath i’w lunio yng Nghymru.

Mae argymhellion yr astudiaeth, a gomisiynwyd gan Gofal Cymdeithasol Cymru, ac a oedd yng ngofal Canolfan Datblygu Ymchwil Gofal Cymdeithasol Plant (CASCADE), yn cynnwys datblygu strategaeth genedlaethol ar y ffordd orau o ddarparu’r gofal cymhleth y mae ei angen ar bobl ifanc sydd ymhlith y mwyaf bregus ac yn dioddef fwyaf o stigma yng Nghymru.

Dyma rai o ganfyddiadau’r adroddiad:

  • cafodd 38% o blant brofiadau cadarnhaol ar ôl gadael llety diogel. O’r lleill, cafodd 38% brofiadau negyddol ac roedd 25% yn gymysg
  • roedd dros 50% o’r bobl ifanc wedi’u lleoli mewn llety diogel y tu allan i Gymru
  • roedd llai na 25% mewn llety dim ond ar gyfer pobl ifanc sydd angen cael eu cadw’n ddiogel am resymau lles
  • roedd dau berson ifanc wedi’u lleoli mewn llety heb ei gofrestru
  • soniodd rhai pobl ifanc am deimlo eu bod wedi’u ‘cyfyngu’ yn hytrach na’u helpu
  • teimlai rhai hefyd nad oedd y math o ofal roedden nhw’n ei dderbyn bob amser yn teimlo’n briodol.

Ymhlith yr argymhellion pellach o’r adroddiad mae:

  • rhagor o hyfforddiant i ofalwyr maeth a gweithwyr gofal plant preswyl i sicrhau eu bod yn gallu diwallu anghenion penodol pob person ifanc
  • darparu gwell cymorth o ran iechyd meddwl pan fydd angen hynny ar bobl ifanc
  • sicrhau bod barn pobl ifanc yn cael ei chynnwys wrth gynllunio beth mae angen ei wneud
  • gwella golwg a theimlad llety diogel
  • lleoli pobl ifanc yn agos at eu cartref, os yw hynny’n briodol.

Mae’r adroddiad a’i argymhellion yn awr yn cael eu cyflwyno i Grŵp Cynghori Gweinidogol Llywodraeth Cymru ar Wella Canlyniadau i Blant.

Nod yr astudiaeth oedd creu darlun gwirioneddol a llawn o brofiadau plant a phobl ifanc o Gymru a leolwyd mewn llety diogel rhwng Ebrill 2016 a Mawrth 2018.  Roedd yr astudiaeth yn canolbwyntio ar 43 o bobl ifanc oedd wedi’u lleoli mewn llety o’r fath i’w cadw’n ddiogel.

Roedd y rhain yn bobl ifanc a fyddai wedi profi esgeuluso, camdriniaeth, profedigaeth neu broblemau perthnasoedd, ac roedden nhw fel arfer yn dod o deuluoedd a oedd wedi cael cefnogaeth gan iechyd, addysg a’r gwasanaethau cymdeithasol.

Dywedodd Sue Evans, Prif Weithredwr Gofal Cymdeithasol Cymru: “Er bod traean o’r bobl ifanc y mae gennym ni wybodaeth amdanynt yn cyflawni canlyniadau cadarnhaol, nid yw’r lleill yn gwneud cystal.  Nid yw darllen yr adroddiad hwn yn brofiad dymunol, yn arbennig profiadau’r bobl ifanc hyn yn eu geiriau eu hunain.  Gwaetha’r modd, nid yw’r canfyddiadau’n syndod llwyr, o ystyried ein bod yn trafod y bobl ifanc mwyaf bregus yng Nghymru, sef un y cant o’r holl rai sydd mewn gofal.

“Ond dyna pam roedd mor bwysig ein bod ni’n comisiynu’r astudiaeth hon.  Dyma’r tro cyntaf i astudiaeth o’r fath gael ei chynnal, ac roeddem yn awyddus i glywed gan y bobl ifanc eu hunain er mwyn casglu tystiolaeth bendant am y sefyllfaoedd maen nhw’n eu hwynebu.  Dim ond trwy wybod beth yw’r materion hyn y gallwn ni ystyried sut mae gwella pethau iddyn nhw.

“Mae’n wirioneddol bwysig ein bod ni i gyd yn gwneud rhywbeth i roi gwell cefnogaeth i’r bobl ifanc hyn, a gwell taith i oedolaeth. Nid un asiantaeth yn gwneud pethau’n anghywir sydd wedi creu’r canfyddiadau yma.  Yn hytrach maen nhw’n amlygu’r angen am wneud newidiadau i’r system gyfan.  A dyna pam rydym ni’n ei gyflwyno i’r Grŵp Cynghori Gweinidogol er mwyn iddo fedru trafod y canfyddiadau a chytuno ar yr hyn y dylid ei wneud i roi i’r plant a’r bobl ifanc hyn, sydd mor fregus, y profiadau a’r canlyniadau cadarnhaol maen nhw’n eu haeddu. Yn Gofal Cymdeithasol Cymru, rydym ni’n barod i helpu mewn unrhyw ffordd y gallwn i gyflawni’r gwelliannau sy’n angenrheidiol.”

Rhannu’r stori hon

Darllenwch ein hastudiaethau achos am effaith ein hymchwil, o atal arddegwyr i ysmygu, i adennill y buddion o drosedd