Ewch i’r prif gynnwys

Cydnabyddiaeth RTPI i gyn-fyfyriwr

11 Medi 2019

Mae Richard Lundy, un o raddedigion rhaglen Cynllunio a Datblygu Gofodol yn yr Ysgol Daearyddiaeth a Chynllunio, yn dathlu ar ôl derbyn y Wobr i Fyfyrwyr yng Ngwobrau RTPI 2019 am Ragoriaeth Ymchwil.

Mae’r gwobrau, a gyflwynwyd yn seremoni agoriadol Cynhadledd Cynllunio Ymchwil y DU ac Iwerddon yn Lerpwl ddydd Llun 2 Medi, wedi’u cynllunio i gydnabod a hyrwyddo 'ymchwil ragorol ac effeithiol ym maes cynllunio gofodol, o ysgolion achrededig, aelodau ac ymgynghoriadau cynllunio byd-eang.

Aeth Richard adref â’r Wobr Myfyriwr am ei draethawd hir gradd meistr â’r teitl Incompatible Imagery: the conflict between heritage and development at Liverpool Waters.

Dywedodd yr Athro Paul Milbourne, Pennaeth yr Ysgol Daearyddiaeth a Chynllunio: "Richard oedd y myfyriwr a berfformiodd orau o’i garfan raddio ac roedd ei draethawd hir yn waith ymchwil trwyadl, meddylgar ac aeddfed. Nid yw’n syndod i ni ei fod wedi cael ei gydnabod gan yr RTPI. Mae e’n haeddu’r anrhydedd. Llongyfarchiadau gwresog ar ei fuddugoliaeth a phob llwyddiant iddo yn ei yrfa gynllunio."

Mae Gwobrau RTPI ar gyfer Rhagoriaeth Ymchwil yn cael eu penderfynu gan banel o feirniaid sy’n cynnwys 28 o academyddion profiadol ac ymarferwyr cynllunio o’r sector cyhoeddus a phreifat. Yn ôl RTPI, roedd cyflwyniadau eleni’n ymdrin ag ystod eang o bynciau "gan gynnwys newid hinsawdd, cyfiawnder gofodol, iechyd corfforol a meddyliol, datblygu gwledig, cynllunio cymdogaethau ac ymgysylltu â’r gymuned".

Rhannu’r stori hon

Mae'r Ysgol yn defnyddio meddwl beirniadol a gwybodaeth ymarferol i ddatrys problemau economaidd, amgylcheddol a chymdeithasol er mwyn mynd i'r afael â’r heriau mawr y mae cymdeithasau dynol a lleoedd yn eu hwynebu heddiw.