Ewch i’r prif gynnwys

Mae’r BBRCVA yn croesawu ei Fwrdd Cynghori Gwyddonol Rhyngwladol i Gaerdydd

2 Medi 2019

BBRCVA

Mae’r Ganolfan Ymchwil Biofecaneg a Biobeirianneg yn Erbyn Arthritis (BBRCVA), a ariennir gan Versus Arthritis a Phrifysgol Caerdydd, yn cynnal cyfarfod o’r Bwrdd Cynghori Gwyddonol Rhyngwladol dros ddeuddydd.

Sefydlwyd y Ganolfan Ymchwil Biofecaneg a Biobeirianneg yn Erbyn Arthritis yn 2009 pan ddewiswyd Prifysgol Caerdydd gan Versus Arthritis i fod yn Ganolfan Ragoriaeth fawreddog yn y DU ym maes Biofecaneg a Biobeirianneg.

Ddeng mlynedd yn ddiweddarach, mae’r Ganolfan, sydd â’r nod o wella triniaeth, diagnosis ac ailsefydlu osteoarthritis drwy ymchwil ryngddisgyblaethol, yn parhau i weithio mewn modd cydweithredol â chleifion, gwyddonwyr biofeddygol, peirianwyr, llawfeddygon orthopedig, rhewmatolegwyr, ffisiotherapyddion a’r cyhoedd er mwyn i gleifion elwa o’r gwaith ymchwil.

Gan ddechrau heddiw, cynhelir cyfarfod y Bwrdd Cynghori Gwyddonol Rhyngwladol yn Ysgol y Biowyddorau, Prifysgol Caerdydd ac mae’n croesawu gweithwyr proffesiynol enwog o Awstralia, Gwlad Belg a ledled y DU i fod yn aelodau o’r bwrdd.

Yn ystod y digwyddiad deuddydd, bydd ymchwilwyr o’r Ganolfan yn cyflwyno eu gwaith diweddaraf i’r bwrdd ac yn amlinellu eu cynlluniau a’u huchelgeisiau ar gyfer ymchwil yn y dyfodol.

Mae Aelodau’r Bwrdd yn cynnwys:

  • Professor Tim Hardingham, Emeritus Professor, University of Manchester (Chair)
  • Professor Ilse Jonkers, Head of the Human Movement Biomechanics Research Group, KU Leuven
  • Professor Chris Little, Director of the Raymond Purves Bone and Joint Research Labs, University of Sydney
  • Professor Mark Wilkinson, Professor of Orthopaedic Surgery at the University of Sheffield and a Consultant Orthopaedic Surgeon
  • Professor Kerry Hood, Director of the UKCRC Registered Centre for Trials Research, Cardiff University.
  • Professor Ruth Wilcox, Director of the Institute of Medical and Biological Engineering and Professor of Biomedical Engineering, University of Leeds
  • Professor Sue Bale OBE, Director of Research and Development Aneurin Bevan University Health Board and Director of the South East Wales Academic Health Science Partnership

Dywedodd yr Athro Valerie Sparkes, Cyfarwyddwr y Ganolfan;

"Rydym yn falch iawn o groesawu aelodau o’n Bwrdd Cynghori Gwyddonol Rhyngwladol i Brifysgol Caerdydd. Mae’r cyfarfod hwn yn gyfle i ni arddangos ein hymchwil a chael safbwyntiau ar ein gwaith a fydd yn ein helpu i gynyddu ein gwybodaeth, i ddeall a mynd i’r afael â’r clefyd hwn sy’n newid bywydau."

Cynhelir y digwyddiad hwn cyn pumed 'Cyfarfod Cymdeithas Ymchwil Esgyrn a Chymdeithas Ymchwil Orthopedig Prydain' sy’n cael ei gynnal ym Mhrifysgol Caerdydd yn ddiweddarach yn yr wythnos. Bydd tri aelod o’r Bwrdd Cynghori Gwyddonol Rhyngwladol, yr Athro Chris Little, yr Athro Ilse Jonkers a’r Athro Mark Wilkinson hefyd yn brif siaradwyr yn y digwyddiad hwn.

Rhannu’r stori hon