Ewch i’r prif gynnwys

Dyfodol disglair

29 Gorffennaf 2019

Group image of male and female students in their graduation gowns

Cynhaliwyd seremoni a derbyniad graddio Ysgol y Gymraeg ddydd Iau 18 Gorffennaf 2019.

Neuadd Dewi Sant yng nghanol y ddinas oedd lleoliad y seremoni gyda’r derbyniad yn dilyn yn Siambr y Cyngor, Prif Adeilad y Brifysgol.

Ar ôl ffurfioldeb y seremoni, roedd y derbyniad yn gyfle i raddedigion a’u teuluoedd ymlacio a dathlu’r garreg filltir bwysig dros canapés a gwin gyda chyfoedion a staff yr Ysgol.

Eleni, roedd yr Ysgol yn dathlu llwyddiant 39 o fyfyrwyr israddedig ac ôl-raddedig. Ymysg y graddedigion israddedig, derbyniodd pedwar myfyriwr radd Dosbarth Cyntaf.

Cyflwynwyd pum myfyriwr ar gyfer gradd MA mewn Astudiaethau Cymreig a Cheltaidd a phump arall ar gyfer PhD.

Yn ystod y derbyniad soniodd Dr Dylan Foster Evans, Pennaeth Ysgol y Gymraeg, am naws a chymuned arbennig yr Ysgol a’r berthynas agos rhwng staff a myfyrwyr. Dywedodd fod brwdfrydedd, chwilfrydedd ac angerdd y myfyrwyr dros y Gymraeg wedi cyfoethogi cymuned a diwylliant yr Ysgol a’r Brifysgol fel ei gilydd.

Gwobrau

Hefyd, fe gyflwynodd Wobrau Coffa G. J. Williams i Carwyn Hawkins (BA yn y Gymraeg) ac Alys Greene (LLB Y Gyfraith a’r Gymraeg). Gwobrau yw’r rhain er cof am yr ysgolhaig nodedig a fu’n darlithio ym Mhrifysgol Caerdydd am 36 o flynyddoedd. Mae’r gwobrau’n cydnabod cyrhaeddiad academaidd a chanlyniadau terfynol y myfyrwyr.

Yn ogystal â Gwobr G. J. Williams, cyhoeddodd Dr Foster Evans fod gwobr newydd wedi ei sefydlu er anrhydedd i’r Athro Sioned Davies. Bu’r Athro Davies yn bennaeth am 20 mlynedd ac yn aelod o staff am ddeugain mlynedd, gan wneud mwy na neb i sicrhau llwyddiant academaidd Ysgol y Gymraeg. Mae’r wobr yn cydnabod y traethawd estynedig gorau ar yr MA Astudiaethau Cymreig a Cheltaidd. Dyfarnwyd Gwobr Sioned Davies eleni i Judith Musker Turner am ei phrosiect creadigol ac arbrofol yn cyfansoddi barddoniaeth drwy wnïo geiriau ar wisg a maneg yn hytrach na’i hysgrifennu ar bapur neu ei theipio ar gyfrifiadur — ymchwil gwbl wreiddiol ac amlddisgyblaethol sy’n cyfuno beirniadaeth lenyddol a gwyddoniaeth wybyddol gan arwain at ddealltwriaeth newydd o’r broses greadigol.

Ffarwelio

Dywedodd Dr Foster Evans: “Mae’r diwrnod graddio yn achlysur arbennig iawn i bawb ac rydym ni fel Ysgol yn ymfalchïo yn llwyddiant ein graddedigion.

“Roedd hi'n braf cael dathlu yng nghwmni’r graddedigion a’u teuluoedd ac i gymryd amser i ddiolch i staff yr Ysgol am eu holl waith caled, yn enwedig Sioned Davies a chyn-reolwr yr Ysgol, Eirwen Williams, wrth iddynt ymddeol. Mae’n amhosibl mesur eu cyfraniad i lwyddiant yr Ysgol dros y blynyddoedd.”

Bydd sawl myfyriwr yn dychwelyd i’r Ysgol ym mis Medi i astudio ar gyfer gradd uwch ac mae eraill wedi sicrhau swyddi mewn ystod eang o sectorau. Mae’r Ysgol yn dra llwyddiannus wrth baratoi myfyrwyr ar gyfer y gweithle gyda’r ystadegau diweddaraf yn dangos bod 91% o israddedigion yn gweithio neu’n ymgymryd ag astudiaethau pellach chwe mis ar ôl graddio (DLHE 2016/17).

Rhannu’r stori hon

Mae'r Ysgol wedi ymrwymo i ddatblygu iaith, cymdeithas a hunaniaeth Cymru gyfoes drwy addysg ac ymchwil o'r safon uchaf.