Ewch i’r prif gynnwys

Ymchwil yn awgrymu bod daeargrynfeydd y gorffennol yn gysylltiedig â thirlithriadau'r dyfodol

03 Tachwedd 2015

Avalanche
Image credit: G. Hancox, GNS Science

Gallai ymchwil dan arweiniad Prifysgol Caerdydd helpu i ddarogan pa ardaloedd y mae tirlithriadau dinistriol yn debygol o effeithio arnynt

Gallai daeargrynfeydd sy'n digwydd ddegawdau ynghynt gael dylanwad ar ba mor debygol yw ardal o weld tirlithriad a allai fod yn drychinebus.

Mae ymchwil newydd dan arweiniad Prifysgol Caerdydd yn dangos bod ardaloedd sydd wedi profi daeargrynfeydd cryf yn y gorffennol yn fwy tebygol o brofi tirlithriadau pan fydd ail ddaeargryn yn eu taro yn nes ymlaen.

Mae ymchwilwyr yn awgrymu mai'r rheswm am hyn yw y gallai daeargryn achosi difrod yn ochrau mynyddoedd, ac efallai mai dim ond pan fydd ail ddaeargryn yn taro y bydd canlyniadau'r difrod hwn i'w weld.

Gallai'r syniadau newydd hyn arwain at oblygiadau pwysig ar gyfer atal a rheoli trychinebau, drwy helpu ymchwilwyr i ddarogan yn well pa ardaloedd y mae tirlithriadau'n debygol o effeithio arnynt yn y dyfodol.

Mae canlyniadau'r tirlithriadau ar ôl i ddau ddaeargryn mawr daro Nepal yn gynharach eleni, gan ladd dros 9,000 o bobl ac achosi difrod eang, yn dangos pa mor werthfawr fyddai adnodd darogan.

Nid yw modelau darogan a ddefnyddir ar hyn o bryd i asesu pa mor debygol yw tir o lithro yn ystyried daeargrynfeydd blaenorol yn y gorffennol. Yn hytrach, maent yn canolbwyntio ar gryfder y daeargryn a nodweddion yr ardal benodol, gan gynnwys cyfansoddiad y graig a pha mor serth yw'r llethrau.

"Gallai hyn fod yn fwlch arwyddocaol yn ein dealltwriaeth o'r ffactorau sy'n arwain at dirlithriad," meddai Dr Robert Parker, prif awdur y papur, o Ysgol Gwyddorau'r Ddaear a'r Môr, Prifysgol Caerdydd.

Ar ôl daeargrynfeydd Nepal, defnyddiwyd rhaglen o'r enw ShakeSlide, a ddatblygwyd gan Dr Parker, i ddarogan pa ardaloedd yr oedd tirlithriadau'n debygol o effeithio arnynt, i gynorthwyo'r ymdrechion ar ôl y trychineb. Mae'n bosibl y bydd y canfyddiadau newydd hyn yn arwain at ragfynegiadau gwell, drwy fodelau sy'n ystyried effaith daeargrynfeydd y gorffennol.

Er mwyn dod i'w casgliadau, bu'r tîm ymchwil yn dadansoddi data dau ddaeargryn unigol fwy neu lai yn yr un ardal yn Ynys y De, Seland Newydd, un ym 1929 a'r llall ym 1968.

Roedd eu canlyniadau'n awgrymu bod y llethrau yn y rhanbarthau a deimlodd symudiadau cryf yn y ddaear yn naeargryn 1929, yn fwy tebygol o lithro yn ystod daeargryn 1968 nag a ddisgwylir ar sail y ffactorau safonol yn unig.

"Mae ein canlyniadau'n awgrymu bod yr ardaloedd a deimlodd gryndod cryf yn y daeargryn cyntaf yn fwy tebygol o weld tirlithriadau yn yr ail ddaeargryn nag a ddisgwylir ar sail cryfder y cryndod a nodweddion y llethrau yn unig," meddai Dr Parker.

Mae Dr Parker a'i dîm wedi awgrymu mai'r rheswm bod y tir yn fwy tebygol o lithro yw bod daeargryn cychwynnol yn achosi difrod yn y tir. Mae'r difrod hwn yn gwneud y tir yn wannach, felly mae'n fwy tebygol o lithro os bydd daeargryn arall yn taro'r ardal yn y dyfodol.

Aeth Dr Parker yn ei flaen: "Gallai daeargryn cryf yn y gorffennol achosi i fynyddoedd fod yn fwy peryglus, o ran tirlithriadau, mewn daeargryn yn y dyfodol, blynyddoedd neu ddegawdau'n ddiweddarach. Mae fel petai mynyddoedd yn cofio daeargrynfeydd y gorffennol."

Mae Dr Parker a'i dîm bellach yn ymchwilio i effaith y 'cof' hwn ar ardaloedd eraill, ac maent wedi dechrau ymchwilio i'r daeargrynfeydd yn Nepal.

Cyhoeddwyd yr astudiaeth newydd hon yn y cyfnodolyn Earth Surface Dynamics.

Rhannu’r stori hon