Ewch i’r prif gynnwys

Graduate appointed to lead top London firm

7 Awst 2019

Katie Parfitt
Katie Parfitt

Roedd yr ysgol wrth ei bodd yn clywed am benodiad Katie Parfitt i Bennaeth Swyddfa (Llundain) TODD Architects, sef un o 100 Cwmni  gorau’r DU yn ôl AJ, sydd â swyddfeydd yn Belfast, Dulyn a Llundain.

Cafodd Katie ei phenodi i arwain cangen Fitzrovia. Bydd hi’n meithrin perthnasoedd â chleientiaid newydd, yn rheoli'r swyddfa, ac yn gweithio gyda chydweithwyr ar brosiectau cyffrous. Mae’n arbennig o drawiadol bod Katie wedi cyflawni hyn ymhen 6 blynedd ar ôl graddio gyda’n Diploma mewn Ymarfer Proffesiynol (Rhan 3 y RIBA), a 4 blynedd ar ôl dod yn aelod cyswllt i Stride Treglown. Meddai Katie:

“Roedd fy astudiaethau ôl-raddedig yng Nghaerdydd yn brofiad gwych ac yn sail i fy nghynlluniau gyrfaol mewn sawl ffordd.  Drwy strwythur y cwrs, roedd modd i mi ddatblygu fy sgiliau Cyfathrebu, Creadigol, Dadansoddi a Rheoli.

Mae’r cwrs yn cynnwys cyfres o gyrsiau, seminarau a thiwtorialau ar y safle wrth ymarfer. Byddwch yn cael gwybodaeth drylwyr am reoli ymarfer, ac ymarfer cyfreithiol, economaidd a chaffael.  Bydd gennych oriau cyswllt rheolaidd â’r tiwtoriaid, yn ogystal â chefnogaeth barhaus gyda’r gwaith cwrs.  Mae’r garfan yn fach, roedd gennym 11 o fenywod ar un ni rwy’n credu! Mae maint y grŵp yn golygu bod gwneud gwaith grŵp dwys y tu allan i oriau’r cwrs yn fwy hwylus.

Roedd y dysgu dwys hyn, maint y grŵp, a’r gefnogaeth barhaus yn werthfawr iawn ar gyfer fy natblygiad a bu o gymorth yn natblygiad fy ngyrfa.”

Yr Athro Sarah Lupton sy’n cyfarwyddo’r Diploma mewn Ymarfer Proffesiynol, ynghyd â’r cwrs Meistr Gweinyddu Dylunio newydd.

Mae Sarah yn fwy na pharod i ymateb i ymholiadau ynglŷn â’r ddwy raglen. Ebostiwch lupton@caerdydd.ac.uk.

Rhannu’r stori hon