Ewch i’r prif gynnwys

Yr Academi Meddalwedd Genedlaethol yn ennill gwobr y Rhaglen Academaidd Gorau.

7 Awst 2019

Mae’r Academi Meddalwedd Genedlaethol wedi brwydro yn erbyn cystadleuaeth ffyrnig i ennill y Rhaglen Academaidd Gorau yng Ngwobrau FinTech Cymru eleni.

Roedd gwobr y Rhaglen Academaidd Gorau yn cydnabod y BSc mewn Peirianneg Meddalwedd Gymhwysol a gynhelir gan Ysgol Cyfrifiadureg a Gwybodeg Prifysgol Caerdydd. Mae’r rhaglen gradd tair blynedd o hyd, a gyflwynwyd yn yr Academi Meddalwedd Genedlaethol, yn helpu i fynd i’r afael â’r prinder peirianwyr meddalwedd cymwys yng Nghymru.

Canmolodd y beirniad y radd ymarferol am ei llwyddiant amlwg a’i deilliannau clir a chadarnhaol, gan gyfeirio at gael graddedigion yn barod am waith trwy brosiectau tîm sy’n canolbwyntio ar y cleient. Yn benodol, fe wnaeth y partneriaethau datblygedig argraff ar y beirniaid. Mae’r partneriaethau hyn yn cynnig heriau busnes go iawn i fyfyrwyr er mwyn iddynt eu datrys gyda nodau defnyddiol. Mae enghreifftiau’n cynnwys prosiect tipio anghyfreithlon a gwblhawyd ar y cyd â Chyfoeth Naturiol Cymru a phrosiect gofal allanol ar gyfer cleifion â chanser.

Roedd y beirniaid hefyd yn cydnabod cynnydd parhaus yr Academi a’i rhaglenni dros y blynyddoedd diwethaf. O lansio BSc mewn Peirianneg Meddalwedd Gymhwysol yn 2015 ac MSc mewn Peirianneg Meddalwedd yn 2018, i ddatblygu prentisiaethau gradd i’w cyflwyno yn ddiweddarach yn 2019.

Dywedodd Matthew Turner, Rheolwr Ymgysylltu Diwydiannol ac Allanol yn yr Ysgol Cyfrifiadureg a Gwybodeg, “Roedd yr Academi wrth eu bodd ac yn hynod falch o dderbyn Rhaglen Academaidd Gorau’r Flwyddyn o Wobrau FinTech Cymru. Mae ymgysylltu â’r diwydiant wrth wraidd popeth a wnawn yma, ac mae’r wobr hon yn dangos perthnasedd ein gwaith i ddiwydiant yng Nghymru.

Sefydlwyd yr Academi mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru ac arweinwyr y diwydiant. Mae ei ethos yn canolbwyntio ar roi prosiectau ‘bywyd go iawn’ i fyfyrwyr i weithio drwy gydol cyfnod eu hastudiaethau a chynnig cyfleoedd i ymgysylltu â gweithwyr proffesiynol profiadol.

Graddiodd yr ail garfan o fyfyrwyr o’r Academi Meddalwedd Genedlaethol ddydd Gwener 19 Gorffennaf. Mae llawer ohonynt wedi dechrau swyddi mewn cwmnïau blaenllaw ar draws y wlad.

Rhannu’r stori hon