Ewch i’r prif gynnwys

Cyflwyno adroddiad i Brif Weinidog Cymru ar ddatgarboneiddio cartrefi yng Nghymru, wedi'i lywio gan ymchwil Ysgol Pensaernïaeth Cymru

30 Gorffennaf 2019

Decarbonisation
Dr Ed Green and Dr Simon Lannon

Yn ystod y deunaw mis diwethaf, mae tîm yn Ysgol Pensaernïaeth Cymru dan arweiniad Dr Ed Green a Dr Simon Lannon wedi cynnal ymchwil i ddatgarboneiddio'r stoc tai cyfan yng Nghymru.

Roedd yr ymchwil yn llywio adroddiad annibynnol yn uniongyrchol; ‘Cartrefi Gwell, Cymru Well, Byd Gwell’, a gyflwynwyd i Weinidog Tai Cymru a Phrif Weinidog Cymru Mark Drakeford ar 18 Gorffennaf. Yna trafodwyd y gwaith mewn cynhadledd lawn a drefnwyd gan Gartrefi Cymunedol Cymru.

Mae'r adroddiad yn galw ar Lywodraeth Cymru i ymrwymo i raglen 30 mlynedd i leihau allyriadau carbon ym mhob cartref ledled Cymru, ac mae'n gosod targedau ynni uchelgeisiol i gael adeiladau di-garbon ar draws y sector tai erbyn 2050. Wrth dderbyn yr adroddiad, dywedodd y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol, Julie James:

“Rwy'n croesawu argymhellion y Grŵp Cynghori ac rydw i am ddiolch i Chris a holl aelodau'r Grŵp am eu harbenigedd a syniadau. Bydd yn her gwneud ein cartrefi yn fwy gwyrdd ac yn fwy effeithlon o ran ynni, yn enwedig o ystyried bod gan Gymru'r tai hynaf a lleiaf effeithlon yn thermol yn y DU ac Ewrop. Ond daw cyfleoedd enfawr gyda'r her hon hefyd - biliau tanwydd is, gwell ansawdd aer, cartrefi mwy cyfforddus, iechyd gwell, swyddi a sgiliau newydd. Mae'n rhaid i ni fod yn uchelgeisiol a chreadigol os ydym am gyflawni'r newid sydd ei angen arnom."

Bydd targedau a argymhellir gan adroddiad ‘Cartrefi Gwell, Cymru Well, Byd Gwell’, yn cael eu hystyried yn yr hydref yn dilyn ymateb y Gweinidog. Mae ymchwil Dr Lannon a Dr Green ‘Homes of today for tomorrow: Decarbonising Welsh Housing between 2030-50’ bellach ar gael i'w gweld ar-lein.

Rhannu’r stori hon